1

Adroddiad Traffig

Flash Player Required

Get Adobe Flash player

Mae llai o swyddi ar Ynys Môn nag sydd ar y tir mawr. Mae’n rhaid i lawer o bobl deithio er mwyn cyrraedd eu gwaith. Cyflogwr mwyaf Ynys Môn oedd y gwaith Alwminiwm yng Nghaergybi ond fe gaeodd ym Medi 2009. Mae hyn yn golygu bod rhaid i fwy o bobl deithio i’r dwyrain i gyrraedd eu gwaith.

Wrecsam yw ardal fwyaf diwydiannol Gogledd Ddwyrain Cymru. Mae llawer o bobl yn yr ardal yn gorfod cymudo i’w gwaith gan brysuro’r ffyrdd yn ofnadwy. Mae hyn yn golygu bod un cerbyd yn torri i lawr yn gallu achosi tagfeydd am filltiroedd.

Mae llifogydd yng nghanolbarth Cymru yn ddigon cyffredin yn ystod y gaeaf. Mae hyn oherwydd bod nentydd ac afonydd mawr fel yr afon Hafren yn llifo drwy’r ardaloedd hyn. Ar hyd arfordir gorllewinol Cymru, lle mae yna lawer o fryniau, mae gwyntoedd cryfion a glaw trwm yn achosi problemau traffig. Mae’r problemau hyn yn llawer iawn mwy cyffredin yn yr ardaloedd hyn nac yn unrhyw ran arall o’r DU.

Arferai llawer o bobl fyw yn yr hen drefi mwyngloddio i’r gogledd o Gaerdydd. Pan gaeodd y pyllau glo, ‘roedd rhaid i bobl fynd i weithio i’r ddinas. Felly mae mwy a mwy o bobl yn cymudo i Gaerdydd ar hyd coridor yr M4. Mae tagfeydd yn digwydd yma bob dydd!

Adeiladwyd yr M4 sydd ar ochr ogleddol Caerdydd 30 mlynedd yn ôl, gyda dim ond dwy lon bob ochr. Nid yw dwy lon bellach yn ddigon. Mae gwaith i gynyddu nifer y lonydd wedi bod yn achosi traffig ac oedi dros y tair blynedd ddiwethaf.

Mae rhwydwaith o reilffyrdd yn cysylltu cymoedd De Cymru gyda Chaerdydd a Chasnewydd. Mae nifer o gymudwyr a siopwyr yn dibynnu ar y rhwydwaith hwn, ond gall tywydd drwg darfu ar reilffordd drwy achosi llifogydd neu hyd yn oed daflu coed a dail ar y cledrau!

Ni all y gwasanaeth fferi cyflym hwylio pan mae Môr Iwerddon yn stormus. Gall y fferi fawr, arafach ymdopi gyda thywydd garw, ond caiff y ddwy fferi eu canslo mewn stormydd difrifol!

Anaml iawn y bydd Maes Awyr Cymru Caerdydd yn cau, ond gall gwyntoedd cryfion, tarth a niwl o Fôr Hafren achosi tywydd difrifol gan orfodi’r awdurdodau i gau’r maes awyr.

Top

Mwy o’r rhifyn yma...