8

Y Rhaniad Digidol

Rhaniad Digidol – Band Eang Cyflym yng Nghymru

Nid hwyl yn unig yw pwrpas y Rhyngrwyd nac ychwaith ond i wneud eich gwaith cartref. Mae’n hanfodol i gadw i gymaint o fusnesau’n mynd oherwydd eu bod nhw’n dibynnu arno i gyfathrebu gyda busnesau eraill.

undefined

Busnesau yn dibynnu ar y rhyngrwyd

Ar hyn o bryd, mae gan y rhan fwyaf o ddefnyddwyr y Rhyngrwyd yn defnyddio Band Eang. Ond mae llawer iawn o ddatblygiadau’n digwydd i wneud y Rhyngrwyd yn gymaint cynt.

Fel beth? Fe’ch clywaf yn holi! Y datblygiad diweddaraf yw ceblau ffibr optig. Mae’r cebl yma yn trawsyrru gwybodaeth ar ffurf tonau golau. Mae hyn yn golygu fod y wybodaeth yn teithio mor gyflym a golau! Ac mae hynny’n gyflym dros ben!!

undefined

Fibr Opteg

Dywed llawer o bobl ein bod ni yng Nghymru yn colli ar y dechnoleg ddiweddaraf fel y rhwydwaith cebl ffibr optig, a hynny’n enwedig yng Ngogledd Cymru a’r ardaloedd gwledig. Mae hyn yn achosi'r hyn a enwir yn rhaniad digidol.

undefined

Y Rhaniad Digidol

Yng Nghymru mae gan lai o bobl fand eang o’i gymharu â Lloegr. Efallai y clywch chi fod hyn yn broblem i Gymru - yn enwedig yn y Gymru wledig. Yn 2007, dywedodd y grwp adfywio Mid Wales Partnership bod tyllau duon yn rhwydwaith band eang Cymru yn peryglu Cymru o ran bod ar ei hôl hi i gymharu â gweddill y DU. Galwon nhw ar ‘fuddsoddi a chynllunio brys’ er mwyn ceisio gwella cyflymder cysylltiad i’r Rhyngrwyd.

Chwedl?

Mae 64% o bobl yng Nghymru yn defnyddio Band eang. Ym Mhrydain gyfan, mae 71% o bobl yn ei ddefnyddio. Ond mae’r gwahaniaeth yn lleihau - rhwng 2009 a 2010 daeth y gwahaniaeth i lawr 3%.

Er poblogrwydd y stori fod Cymru wledig yn dioddef, mae hi’n gwyro tuag at chwedloniaeth oherwydd mae band eang yn cael ei ddefnyddio fwy mewn ardaloedd gwledig nag ardaloedd dinesig. Yn 2010 roedd cymeriant band eang yn y Gymru wledig yn 69% o’i gymharu â dim ond 62% mewn ardaloedd trefol.

Fodd bynnag, gyda band eang cyflym iawn mae rhaniad digidol rhwng y Gogledd a’r De. Mae BT, y cwmni sy’n gofalu am ein rhwydwaith ceblau yn gosod tua 100 o gyfnewidfeydd ceblau ffibr optig newydd ledled y wlad. Yn anffodus dim ond 5 o’r rhain fydd yng Nghymru ac mae pob un ohonynt yn Ne Cymru. Mae’r rhain yn cynnwys cyfnewidfeydd ffôn yn y Barri, Caerffili, Penarth, Caerdydd a Rhondda Cynon Taf.

undefined

Cefnewidfeydd ffibr optig newydd

Er gwaetha’r ffaith bod gan y Gymru wledig nifer mwy o bobl yn defnyddio band eang mae ‘na dal ardaloedd sydd rhy bell oddi wrth gyfnewidfa ffôn ac felly yn methu derbyn llinell band eang sefydlog. Mae enw wedi ei fathu ar eu cyfer, ‘notspot’ Achosir ‘notspot’ am fod lleoliad rhy bell oddi wrth gyfnewidfa ffôn.

undefined

Band nad yw mor eang

Er gwaetha’r ffaith bod gan y Gymru wledig nifer mwy o bobl yn defnyddio band eang mae ‘na dal ardaloedd sydd rhy bell oddi wrth gyfnewidfa ffôn ac felly yn methu derbyn llinell band eang sefydlog. Mae enw wedi ei fathu ar eu cyfer, ‘notspot’ Achosir ‘notspot’ am fod lleoliad rhy bell oddi wrth gyfnewidfa ffôn.

Pam fod bys Caerdydd ar y pyls?

Yn Ne Cymru ac o amgylch Caerdydd mae sector busnes sy’n tyfu sydd hefyd yn dibynnu ar y dechnoleg ddiweddaraf o ran cyfathrebu;

  • Caerdydd yw’r ganolfan gwasanaethay ariannu a busnes fwyaf yng Nghymru

  • Mae cwmniau rhyngwladol newydd wedi’u lleoli yn y ddinas.

  • Tu allan i Lundain, Caerdydd yw’r ganolfan Fflim, Teledu ac Amlgyfrwng fwtaf yn y DU.

  • Mae’r prosiectau @Wales yn denu busnesau amlgyfrwng i Fae Caerdydd ac mae disgwyl datbtlygiadau pellach ers creadigaeth setiau ffilm a chyfleusterau recordio newydd i’r Gogledd a’r Gorllewin o’r ddinas.

Ni fyddai hyn yn bosibl heb y band eang cyflym y mae’r gyfnewidfa ffibr optig yn ardal y brifddinas yn ei ddarparu.

 

 

Gweithgaredd

  • Defnyddiwch Chwiliwr ar y we i ddod o hyd i fusnesau technolegol yn eich ardal, cymharwch y rhain gyda’r ardal o amgylch Caerdydd. Ym mha ffyrdd maen nhw’n wahanol?

  • Ceisiwch ddod o hyd i fusnes yn eich ardal sy’n defnyddio’r Rhyngrwyd - ceisiwch ddarganfod be yw cyflymder y Rhyngrwyd yno (Rhowch ‘broadband street stats’ yn Google) - sut mae hyn yn cymharu gyda’r 40mps sydd ar gael yng Nghaerdydd?

  • Mae rhaniad digidol rhwng Cymru a gweddill y DU ac yng Nghymru ei hun mae rhaniad rhwng Rhanbarth y Brifddinas a gweddill Cymru. Sut mae hyn yn gwneud i chi deimlo? Sut allai hynny ddylanwadu ar eich dyfodol?

Top

Mwy o’r rhifyn yma...

Cyfathrebu yng Nghymru

Cyfathrebu yng Nghymru

Rhwydweithiau Cyfathrebu

Rhwydweithiau Cyfathrebu