8

Cyfathrebu yng Nghymru

Bydd y rhan fwyaf o fusnesau yn gallu dweud wrthoch, ar ôl talu cyflogau, costau teithio yw'r ergyd ariannol fwyaf maen nhw'n ei deimlo. Mae hyn yn cynnwys cludo nwyddau, pobl a gwybodaeth.

Pan fyddwch chi'n meddwl am drafnidiaeth mae'n debyg mai loriau mawr a cheir ar y ffyrdd sy'n dod i'r cof. Ond mae Cymru yn rhan o ynys, felly sut mae'r cynnyrch o weddill y byd yn cyrraedd yma? Rydyn ninnau hefyd yn tyfu a masnachu cynnyrch yma yng Nghymru hefyd, felly sut mae'r cynnyrch yna yn cyrraedd cwsmeriaid o amgylch y byd?

Yng Nghymru, mae llongau yn rhan fawr o'n rhwydwaith drafnidiaeth mewnol. Mae porthladdoedd yr un mor bwysig. Heb ein porthladdoedd yma yng Ngymru, byddai llawer iawn o'n busnesau ni'n methu.

Flash Player Required

Get Adobe Flash player

Oes terfyn ar yr wybren?

Mae trafnidiaeth awyr yn bwysicach yng Nghymru am gludo pobl yn hytrach na chludo nwyddau. Yr unig Faes Awyr Mawr yng Nghymru yw Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd yn y Rhŷs ar gyrion y brifddinas.

Mae ffigyrau diweddaraf Llywodraeth Cynulliad Cymru yn dangos bod gostyngiad wedi bod yn y defnydd o drafnidiaeth awyr yng Nghymru. Llynnedd, roedd 27,000 yn llai o gerbydau awyr yn teithio i mewn ac allan o'r wlad, gyda 18% yn llai o deithwyr. Roedd gostyngiad anferth o 87& mewn cludiant nwyddau.

Fodd bynnag, mae'r rhwydwaith drafnidiaeth fewnol yma yn dal i gefnofi diwydiannau mawr megid GE Aviation sy'n ehangu yn Nantgarw a Cynnal a Chadw/Peiriannu British Airways sy'n gyflogwr mawr yn y Rhŷs, Pontyclun a Choed Duon.

 

undefined

Trenau teithwyr yng Nghymru

Oddi mewn i Gymru, caiff trafnidiaeth ei oruchafu gan rwydwaith y ffyrdd. Arferai reilffyrdd fod yn bwysig iawn o ran cludo pobl a nwyddau, ond yn ddiweddar mae eu pwysigrwydd wedi lleihau. Fodd bynnag, mae rheilffyrdd yn dda iawn am symud deunyddiau trwm dros y tir yn rhad a hefyd am gludo pobl heb gynhyrchu cymaint o nwyon tŷ gwydr.

undefined

Trenau teithwyr yng Nghymru

Beth sy'n digwydd nesaf?

Mae llawer o bobl yn credu y bydd y rheilffyrdd yn adennill eu lle pwysig. Rydym yn wynebu'r problemau hyn oehrwydd ein bod ni'n dibynnu'n ormodol ar y lonydd; mae'r ffyrdd yn profi tagfeydd fwy a mwy ac yn aml iawn yn stopio'n stond. Pob nos Wener mae tagfa hir ar draffordd yr M4 ar ôl iddi gyrraedd Cymru ar yr ail Bont Hafren. Yng Ngogledd Cymru, yr A55 o'r Dwyrain i'r Gorllewni yw'r brif ffordd rhwng Ewrop ac Iwerddon ac nid yw hyd yn oed yn draffordd.

undefined

Tagfeydd traffig yr M4

Mae arweinwyr busnesau yng Nghymru yn rhybuddio bod y ffyrdd yng Nghymru yn 'gwichian' ac oni bai y bydd rhywbeth yn cael ei wneud i ddatrys hyn, yna bydd rhaid i fusnesau fynd i rywle araall - gallai hynny roi ein porthladdoedd llewyrchus sy'n dod a chymaint o waith ac arian i gymru yn y fantol hyd yn oed!

Gweithgaredd

  • Defnyddiwch System Wybodaeth Ddaearyddol (GIS - Geographical Information Systems) fel Google Earth neu fapiau OS lleol i ganfod nodau trafnidiaeth pwysig (llefydd ble mae gwahanol rannau o'r rwydwaith deithio yn cwrdd). Gallai hyn gynnwys harbwrs, rheilffyrdd a phrif ffyrdd.

  • Defnyddiwch Google Earth i geisio canfod busnes sy'n agos i'r nod yna.

  • Pam, yn eich barn chi fod y busnes yno?

Top

Mwy o’r rhifyn yma...

Rhwydweithiau Cyfathrebu

Rhwydweithiau Cyfathrebu