5

CA3: Arllwysiad olew BP; CA2: Arllwysiad olew BP

Beth petai wedi digwydd yng Nghymru?

Ar 20 Ebrill 2010, yn Ngwlff Mecsico, bu ffrwydrad ar lwyfan olew BP, y Deepwater Horizon. Bu farw un ar ddeg aelod o'r criw gan ddechrau'r trychineb amgylcheddol mwyaf yn hanes yr Unol Dalaethiau.

Ym mis Gorffennaf 2010, roedd y bibell sydd 1km o dan y dŵr yn dal i arllwys oddeutu 25 litr o olew crai yr eiliad (neu tua 7000 tunnell y dydd!).

undefined

Y Sea Empress a'r Deepwater Horizon

Ar 5 Awst 2010, ar ôl i oddeutu 800 miliwn litr ddianc, cafwyd cadarnhad fod y diferiad olew wedi stopio.

Beth sy'n digwydd i'r olew?

A dyma'r newyddion da... Erbyn canol Awst, roedd tua 30% o'r olew wedi'i lanhau ac roedd dros 40% ohono wedi torri i lawr neu anweddu gan adael ychydig dros 25% yn arnofio yn y môr neu'n gorchuddio'r arfordir cyfagos. Er hynny, mae hwn yn dal i fod yn drychineb amgylcheddol mawr.

Bydd yn rhaid i ti edrych ar y newyddion i weld pa mor llwyddiannus fu'r cynllun i ddrilio ffynhonnau rhyddhad i atal llif yr olew. Galli di hefyd edrych i weld sut mae'r ymdrechion i lanhau'r olew a thrin y difrod amgylcheddol ac economaidd yn dod yn eu blaen.

Oes rhywbeth tebyg wedi digwydd yng Nghymru?

Oherwydd y pellter rhyngon ni yma yng Nghymru a Gwlff Mecsico, mae'n anodd deall yn union pa mor fawr yw'r trychineb hwn. I'n helpu ni, beth am ei gymharu â thrychineb olew Cymru?

Ar 15 Chwefror 1996, y tu draw i borthladd Aberdaugleddau ar ochr Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro, trawodd y tancer olew, y Sea Empress, i mewn i greigiau gan golli o leiaf 71,000 tunnell o olew crai i'r môr.

Lledodd yr arllwysiad olew ar hyd arfordir de-orllewin Cymru a'r cadwraethau bywyd gwyllt pwysig yn ogystal â'r atyniadau twristaidd rhwng Tyddewi yn y gorllewin a Bae Caerfyrddin i'r dwyrain.

Edrycha ar y map isod i gymharu trychineb y Sea Empress â thrychineb Deepwater Horizon. Dewisa enw'r arllwysiad olew.

Flash Player Required

Get Adobe Flash player

Bob 10 niwrnod yn ystod mis Mai, Mehefin a Gorffennaf 2010 roedd yr un faint o olew a arllwysodd i'r môr yn ystod trychineb y Sea Empress yn arllwys i'r môr yng Ngwlff Mecsico.

Erbyn Awst 2010, roedd yr olew oedd yn llygru'r môr yn cyfateb i 13 trychineb Sea Empress.

Mae graddfa'r llygredd wedi gwaethygu oherwydd yr amser a gafodd yr olew i ymledu. Hefyd, mae corwyntoedd yr haf yn debygol o'i chwythu dros drawstiau gwarchod olew a hynny ar arfordir deheuol UDA sydd â chyfoeth o fywyd gwyllt. Dim ond wrth ystyried hyn i gyd y gallwn ni ddeall o ddifrif pam mae pobl a llywodraeth America mor ddig.

Oeddech chi'n gwybod?

Rydyn ni gyd wedi clywed am Fapiau Arolwg Ordnans - ond beth mae 'Arolwg Ordnans' yn ei olygu? Enw rhyfedd am sefydliad gwneud mapiau ydyw!

Daw enw'r sefydliad o'i bwrpas milwrol gwreiddiol. 'Ordnans' yw'r gair a ddefnyddir yn y fyddin am yr adran sy'n delio a chyflenwadau milwrol. Mae'r gwreiddiau'n dyddio'n ôl i 1747, pan oedd y Brenin Siôr II eisiau map milwrol o'r Alban i helpu ei fintai ymladd yn erbyn y llwythau Albanaidd.

Hefyd, yn ystod y rhyfeloedd Napoleonig yn y 18fed a'r 16eg ganrif, pan oedd Ffrainc yn bygwth goresgyn, penderfynwyd bod angen map cyflawn a chywir o'r wlad. Dyma sut y dechreuodd adran lywodraethol yr Arolwg Ordnans.

Top

Mwy o’r rhifyn yma...

CA3: Gwrthdaro yn Ewrop; CA2: Corwynt hunllefus

CA3: Gwrthdaro yn Ewrop; CA2: Corwynt hunllefus

CA3: Dinesydd byd-eang; CA2: Argyfwng monswn

CA3: Dinesydd byd-eang; CA2: Argyfwng monswn