Os wyt ti'n meddwl bod gwledydd a ffiniau Ewrop wedi bod yr un fath erioed, meddylia eto! Mae gan Ewrop hanes o wrthdaro a rhyfeloedd sydd wedi newid ei daearyddiaeth genedlaethol dros y canrifoedd.
Mae 'na bobl sydd am weld gwledydd yn rhannu ac eraill am iddyn nhw uno. Oherwydd ei bod hi'n amhosibl i bawb gytuno ar newidiadau cenedlaethol fel hyn, yn aml iawn bydd hyn yn arwain at drais a hyd yn oed rhyfel. Ond wrth gwrs, weithiau, gall newidiadau ddigwydd yn heddychlon.
Cyn darganfod mwy am wrthdaro yn Ewrop, beth am brofi dy wybodaeth am ddaearyddiaeth gwrthdaro Ewropeaidd drwy gwblhau ein cwis ni?
Mae gan Ewrop sawl enghraifft o genhedloedd a rhanbarthau'n gwahanu ac yn uno. Mae'r map hwn yn dangos rhai enghreifftiau diweddar a chyfredol.
Beth am edrych ar dair o’r straeon diweddaraf am rai o’r achosion hyn o ‘wrthdaro’?
Rydyn ni gyd wedi clywed am Fapiau Arolwg Ordnans - ond beth mae 'Arolwg Ordnans' yn ei olygu? Enw rhyfedd am sefydliad gwneud mapiau ydyw!
Daw enw'r sefydliad o'i bwrpas milwrol gwreiddiol. 'Ordnans' yw'r gair a ddefnyddir yn y fyddin am yr adran sy'n delio a chyflenwadau milwrol. Mae'r gwreiddiau'n dyddio'n ôl i 1747, pan oedd y Brenin Siôr II eisiau map milwrol o'r Alban i helpu ei fintai ymladd yn erbyn y llwythau Albanaidd.
Hefyd, yn ystod y rhyfeloedd Napoleonig yn y 18fed a'r 16eg ganrif, pan oedd Ffrainc yn bygwth goresgyn, penderfynwyd bod angen map cyflawn a chywir o'r wlad. Dyma sut y dechreuodd adran lywodraethol yr Arolwg Ordnans.