5

CA3: Gwrthdaro yn Ewrop; CA2: Corwynt hunllefus

Teithiodd Corwynt Earl ar hyd arfordir Gogledd Carolina, UDA, ym mis Medi eleni. Parhaodd i deithio a bu'n rhaid i rai ardaloedd gyhoeddi eu bod yn ardal oedd angen cymorth brys oherwydd bod difrod y corwynt cyn waethed.

undefined

 

Beth yw corwynt?

Gall corwyntoedd achosi llawer iawn o ddifrod. Cânt eu hachosi gan stormydd sy'n dechrau uwch ben rhannau cynnes o'r môr. Maen nhw'n dechrau ffurfio sbiral pan fydd gwyntoedd cyrfion yn chwythu o'r naill gyfeiriad. Gall y gwyntoedd hyn gyrraedd cyflymder o 320km/ya (200 milltir yr awr). Mae'r rhan fwyaf o gorwyntoedd yn ffurfio ar y môr ond fydd rhai byth yn cyrraedd tir.

Mae'r gwyntoedd a'r sbiral yn ddigon cryf i ddinistrio tai ac ysgubo ceir a thryciau. Maen nhw'n creu tonnau anferth ar y môr sydd hefyd yn medru dinistrio cychod a phorthladdoedd.

Pam galw'r corwynt yn 'Earl'?

Bob tymor, pan fydd y corwynt cyntaf yn cael ei weld; rhoddir enw arno sy'n dechrau â'r lythyren 'A'. Bydd y nesaf yn cael enw sy'n dechrau â 'B', ac yn y blaen. Erbyn hyn, rydyn ni wedi cyrraedd 'E', sy'n rhoi'r enw 'Earl' i ni!

undefined

Oeddech chi'n gwybod?

Mae ein 'Sat Navs' yn darganfod eu lleoliad yn defnyddio rhwydwaith o dros 30 lloeren Americanaidd 'geostationary' sy'n trosglwyddo arwyddion amser 'cloc atomig' hynod gywir. Ond mae rhai o'r lloerennau hyn yn hen iawn, ac o bosib yn stopio gweithio'n fuan.

Mae angen o leiaf 24 lloeren i roi gwasanaeth GPS llawn. Bydd posibilrwydd am fethiannau a duwch yn cynyddu wrth i amser basio. Yn waeth fyth, mae gohiriadau wedi bod yn lansio'r lloerennau newydd i gymryd lle'r hen rai. Mae wedi cymryd tair blynedd i rai lloerennau newydd gael eu lansio.

Er hynny, mae pawb, yn cynnwys y fyddin Americanaidd wedi dod i ddibynnu ar y system hon gymaint fel nad oes neb yn disgwyl iddi fethu.

Bellach, nid yw system GPS America ar ei phen ei hun. Mae gan Rwsia, China ac India systemau datblygol eu hunain. Mae'r UE hefyd yn cynllunio system GPS ei hun o'r enw Galileo. Dechreuodd y gwaith i adeiladu'r 14 lloeren gyntaf yn Ionawr 2010.

Corwynt Earl

Mae'r corwynt wedi achosi cymaint o ddifrod nes bod Gogledd Carolina, De-orllewin Virginia, Massashusetts a Maryland wedi datgan eu bod mewn argyfwng.

Beth mae 'mewn argyfwng' yn ei olygu?

Mae hyn y golygu bod pobl wedi paratoi eu hunain i ymdopi â thrychineb naturiol a bod milwyr yn barod i gael eu hanfon i'r ardaloedd sydd mewn argyfwng i helpu pobl sydd wedi'u dal yn y storm.

Beth mae 'difrod storm' yn ei olygu?

Mae'n golygu bod:

Rhannau o dir yn dioddef llifogydd, nes bod yn rhaid i bobl adael eu cartrefi i chwilio am loches yn rhywle arall

Gwyntoedd cryfion yn tynnu ceblau trydan i lawr

Ffyrdd yn cael eu gorchuddio â llifogydd ac yn cael eu blocio oherwydd coed wedi syrthio

Pam achosodd Corwynt Earl cymaint o broblemau i bobl oedd ar eu gwyliau?

Yn yr Unol Daleithiau, mae ganddyn nhw ŵyl o'r enw 'Labor Day'. Ar y diwrnod hwn, mae miloedd o bobl yn teithio at yr arfordir i fwynhau'r heulwen. Eleni, cafodd gwyliau'r teithwyr ei ddifetha gan y corwynt. Bu'n rhaid anfon y bobl oddi wrth yr arfordir er mwyn eu diogelwch eu hunain.

Parhaodd Corwynt Earl ar ei daith ogledd-ddwyreiniol tra roedd trigolion arfordir dwyreiniol America yn ceisio adfer eu bywydau a'u hardal wedi'r storm.

Oeddech chi'n gwybod?

Mae mapiau yn ffordd o ddangos lleoedd a'r pellter rhyngddynt. Cant eu defnyddio ym mhob iaith led led y byd. Ond pwy ddechreuodd wneud mapiau?

Tybir bod ysgythriad 25,000 mlwydd oed yng Ngweriniaeth Czech yn fap cynnar o fynyddoedd, afonydd, dyffrynnoedd a llwybrau lleol. Hefyd, yn Ffrainc mae paentiadau ogof o fapiau sêr syml sydd tua 18,000 o flynyddoedd oed.

Tua 4,000 o flynyddoedd yn ôl, marciodd yr Eifftiaid amlinelliad o'u tir. Marciodd y brenhinoedd ffiniau eu teyrnasau ar fapiau a fyddai'n cael eu gwneud o glai. Tua'r un adeg, gweithiodd fathemategwyr Groegaidd y pellter o amgylch y Ddaear yn fanwl gywir.

Top

Mwy o’r rhifyn yma...

CA3: Arllwysiad olew BP; CA2: Arllwysiad olew BP

CA3: Arllwysiad olew BP; CA2: Arllwysiad olew BP

CA3: Dinesydd byd-eang; CA2: Argyfwng monswn

CA3: Dinesydd byd-eang; CA2: Argyfwng monswn