Ar 21 Mehefin 2010, bu farw'r 300fed milwr Prydeinig o anafiadau a gafodd yng ngwrthdaro Affganistan.
Erbyn Gorffennaf 2010, dywedodd y Prif Weinidog Prydeinig, David Cameron, ei fod yn gobeithio na fydd y fyddin Brydeinig yn Affganistan erbyn 2015.
Byddin Prydain ac America yn Affganistan
Ym mis Gorffennaf 2010 hefyd, cyhoeddwyd y bydd nifer fwy o fyddin yr Unol Dalaethiau yn cymryd lle'r milwyr Prydeinig sy'n ardal beryglus Sangin yn nhalaith Helmand, Affganistan ar hyn o bryd. Bu farw 99 o'r 300 milwr colledig yn yr ardal yma.
Protestwyr yn erbyn y rhyfel yn Affganistan
Mae sawl person yn cwestiynu a ddylai'r fyddin Brydeinig fod yn Affganistan o gwbl. Cred rhai y dylai presenoldeb Prydain yno barhau; tra bod eraill yn credu y dylai ddod i ben.
Dylai dinesydd byd-eang wybod am y gwrthdaro sy'n digwydd o gwmpas y byd, a hefyd feddwl yn ofalus am ei farn ar y gwrthdaro.
Mae gwrthdaro'n digwydd dros leoedd, adnoddau a gwahaniaethau rhwng pobl – a dyma'n union yw daearyddiaeth!
Rydyn ni gyd wedi clywed am Fapiau Arolwg Ordnans - ond beth mae 'Arolwg Ordnans' yn ei olygu? Enw rhyfedd am sefydliad gwneud mapiau ydyw!
Daw enw'r sefydliad o'i bwrpas milwrol gwreiddiol. 'Ordnans' yw'r gair a ddefnyddir yn y fyddin am yr adran sy'n delio a chyflenwadau milwrol. Mae'r gwreiddiau'n dyddio'n ôl i 1747, pan oedd y Brenin Siôr II eisiau map milwrol o'r Alban i helpu ei fintai ymladd yn erbyn y llwythau Albanaidd.
Hefyd, yn ystod y rhyfeloedd Napoleonig yn y 18fed a'r 16eg ganrif, pan oedd Ffrainc yn bygwth goresgyn, penderfynwyd bod angen map cyflawn a chywir o'r wlad. Dyma sut y dechreuodd adran lywodraethol yr Arolwg Ordnans.