Dros yr haf, mae sawl ardal o Bacistan wedi dioddef llifogydd mawr. Dyma ganlyniad glaw monsŵn yr haf. Dyma'r monsŵn gwaethaf ers 80 o flynyddoedd. Yn ardal Dyffryn Swat yn Mhacistan mae'r effaith i'w gweld waethaf.
Llifogydd Pacistan
Rydyn ni gyd wedi clywed am Fapiau Arolwg Ordnans - ond beth mae 'Arolwg Ordnans' yn ei olygu? Enw rhyfedd am sefydliad gwneud mapiau ydyw!
Daw enw'r sefydliad o'i bwrpas milwrol gwreiddiol. 'Ordnans' yw'r gair a ddefnyddir yn y fyddin am yr adran sy'n delio a chyflenwadau milwrol. Mae'r gwreiddiau'n dyddio'n ôl i 1747, pan oedd y Brenin Siôr II eisiau map milwrol o'r Alban i helpu ei fintai ymladd yn erbyn y llwythau Albanaidd.
Hefyd, yn ystod y rhyfeloedd Napoleonig yn y 18fed a'r 16eg ganrif, pan oedd Ffrainc yn bygwth goresgyn, penderfynwyd bod angen map cyflawn a chywir o'r wlad. Dyma sut y dechreuodd adran lywodraethol yr Arolwg Ordnans.
Tymor o law trwm iawn yw monsŵn. Mae'n parhau o fis Mehefin i fis Medi. Mae tua 65% o boblogaeth y byd yn byw mewn ardaloedd sy'n cael tymor monsŵn. Is-gyfandiroedd India a De-ddywrain Asia sy'n cael y rhan fwyaf o law yn ystod y tymor monsŵn. Yn ystod y cyfnod hwn maen nhw'n cael rhwng 50% a 90% o'u glawiad blynyddol.
Eleni, mae'r glaw a'r llifogydd wedi bod cyn waethed ym Mhacistan nes achosi llawer iawn o ddifrod.
Effeithiau llifogydd ym Mhacistan
Cartrefi, lonydd a phontydd wedi mynd gyda'r llif
Ceblau trydanol wedi syrthio
Cnydau wedi'u difetha
Mae pobl wedi colli'u cartrefi
Mae pobl yn methu â symud oherwydd bod y llifgoydd wedi malu'r lonydd
Gallai'r ffaith bod y lonydd wedi mynd olygu y bydd y bobl yn llwgu
Heb ddŵr glân i'w yfed gallai bobl ddal afiechydon
Mae Prif Weinidog Pacistan wedi amcangyfrif bod y llifogydd wedi effeithio ar 20 miliwn o bobl y wlad. Mae'r Cenhedloedd Unedig a sawl sefydliad elusenol arall yn gweithio'n galed i helpu Pacistan i ymdopi â'r drychineb naturiol yma.
Gofynnwch i unrhyw un beth yw'r 'gogledd', ac mae'n debyg y bydd rhywun yn siŵr o son am Begwn y Gogledd. Adwaenir fan hyn fel y 'Gwir Ogledd' ac union bwynt 'echelin cylchdro' y Ddaear.
Ond, mae'n cwmpawd ni'n pwyntio i'r Gogledd Magnetig, sef Ynys Ellesmere yng Ngogledd Canada sy'n bwynt symudol. Mae'n newid ei safle cyfartalog Gogledd-Gogledd Orllewin (GGO) ar amcangyfrif o 64km y flwyddyn. Ond beth sydd wirioneddol yn rhyfedd yw ei fod yn cylchdroi hyd at 80 km y dydd.
Mae gan y rhan fwyaf o fapiau linellau grid wedi'u tynnu arnynt, sy'n aml iawn yn pwyntio i Ogledd gwahanol eto! Rydyn ni'n galw hwn yn 'grid y gogledd' a chaiff ei ddefnyddio i wneud map mor gywir ag sy'n bosibl ar arwyneb gwastad.