4

Twristiaeth yng Nghymru

Mae Twristiaeth yn rhan bwysig iawn o'r economi Gymreig. Mae hyn oherwydd:

Yr economi

Mae twristiaid yn gwario dros £8miliwn y diwnod yng Nghymru – mae hynny'n tua £3 biliwn y flwyddyn!

Cyflogir oddeutu 100,000 o bobl yng Nghymru gan y diwydiant twristiaeth. Mae hynny yn cyfrif am 10% o'r gweithlu.

Daw dros filiwn o dwristiaid o dramor i Gymru ar dripiau bob blwyddyn. Daw'r mwyafrif o'r ymwelwyr o Weriniaeth Iwerddon, UDA a'r Almaen.

Beth mae twristiaid yn ei wneud yng Nghymru?

Mae rhai o'r gweithgareddau mwyaf poblogaidd ymhlith twristiaid sy'n ymweld â Chymru yn cynnwys: cerdded, nofio, ymweld ag atyniadau hanesyddol fel cestyll, amgueddfeydd ac orielau.

Un o'r atyniadau mwyaf poblogaidd yng Nghymru yw Amgueddfa Werin Cymru, sy'n atynnu dros 600,000 o ymwelwyr bob blwyddyn..

Mae yna dros 80,000 o ofod cysgu ar gael yng Nghymru.

Felly, mae twristiaeth yn hynod bwysig, ond beth sy'n gwneud Cymru'n gymaint o atyniad twristaidd?

Er mwyn ateb y cwestiwn hwn, rhaid i ni wynbod mwy am y gwahano atyniadau twristiaid. Yn gyntaf, gallwn ni ddosbarthu twristiaeth yn ol rhesymau ffisegol neu ddynol.

Rhesymau ffisegol dros dwristiaeth

Pethau sy'n ymwneud a'r byd naturiol yw daearyddiaeth ffisegol. Mae gan Gymru draetahu godidog fel yr un yn Llangrannog yng Nghorllewin Cymru (mae Llangrannog hefyd yn atyniad twrisdaidd dynol – mwy am hynny wedyn). Mae rhai atyniadau ffeisgeol eraill yn cynnwys Yr Wyddfa yng Ngogledd Cymru. Bydd pobl yn teithio miloedd o filltiroedd i weld y golygfeydd hyn.

Y tri lle sydd gan yr harddwch naturiol eithriadol mwyaf yng Nghymru yw'r Parcau Cenedlaethol. Rhai o'r atyniadau ffisgeol eraill yw afonydd glan, cefn gwlad a systemau ogof sy'n mynd am filltiroedd o dan y ddaear yn Ne Orllewin Cymru.

undefined

Oeddech chi'n gwybod?

undefined

Mae'r Parcau Cenedlaethol yn ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol sydd wedi derbyn gwarchodaeth gyfreithiol yn dilyn deddf seneddol. Yng Nghymru mae tri Parc Cenedlaethol:

Parc Cenedlaethol Eryri yng ngogledd Cymru

Parc Cenedlaethol Arfordirol Sir Benfro yng ngorllewin Cymru

Parc Cenedlaethol Banau Brycheiniog yn ne Cymru

 

 

Rhesymau dynol dros dwristiaeth

Diwylliannol

Pethau sy'n ymwneud a phobl yng Nghymru yw daearyddiaeth ddynol. Gall hyn gynnwys digwyddiadau diwylliannol, hanesyddol neu rai chwaraeon hyd yn oed. Mae'r digwyddiadau Diwylliannol yn ymwneud ag iaith a chelfyddyd. Mae Llangrannog yn atynnu twristiaid nid oherwydd ei draeth yn unig, ond oherwydd canolfan breswyl Urdd Gobaith Cymru- lle bydd pobl yn mynd i ddysgu a gwella eu sgiliau ieithyddol Cymraeg.

Rhai atynniadau diwylliannol mawr eraill yw'r Eisteddfodau, fel Eisteddfod gerddoriaeth ryngwladol Llangollen. Bydd honno'n siwr o ddenu miloedd o dwristiaid i Ogledd Cymru eleni rhwng y 5ed – 11eg o Orffennaf.

undefined

Hanesyddol

Mae categori mawr yn hanesyddol ac mae'n cynnwys safleoedd megis cestyll gwych Gogledd Cymru fel yr un yma yng Nghaernarfon. Rhai o'r atyniadau hanesyddol eraill yw'r safleoedd diwydiannol fel Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis yng Ngogledd Cymru, neu'r amgueddfa gloddio Big Pitt ym Mlaenafon yn Ne Cymru.

undefined

Chwaraeon

Mae gweithgareddau chwaraeon yn denu nifer fawr o ymwelwyr i Gymru unai fel gwylwyr neu fel…. Mae digwyddiadau chwaraeon mawr sy'n denu llawer o wylwyr yn cynnwys y gemau rygbi rhyngwladol, Rali G.B Cymru ac ym mis Hydref 2010 daw'r gystadleuaeth Cwpan Ryder i Gymru.

undefined

Buddion twristiaeth

Budd amlycaf twristiaeth i ardal yw bod twristiaid yn gwario arian ac mae hyn y darparu swyddi. Mae bron i ddeg y cant o swyddi yng Nghymru yn dibynnu'n uniongyrchol ar dwristiaeth ac mae llawer mwy yn dibynnu ar yr arian y mae'r swyddi hyn yn ei dalu. Fodd bynnag, mae 'na fuddion eraill megis gwell cyfleusterau, pyllau nofio, sinemâu ac ati er mwyn darparu ar gyfer twristiaid.

Anfanteision twristiaeth

Nid yw'n fel i gyd! Daw twristiaid a phroblemau gyda nhw: mae cerddwyr yn gadael giatiau fferm yn agored neu'n gollwng 'sbwriel gan achosi sawl problem i ffermwyr (nid yw twristiaid bob tro'n dilyn y cod cefn gwlad).

Oeddech chi'n gwybod?

Parchu – Amddiffyn - Mwynhau

undefined

 

 

Byddwch yn ddiogel – cynlluniwcho o flaen llaw a dilynwch arwyddion

Gadewch giatiau ac eiddo yn yr un ffordd ac y gweloch chi nhw

Gwarchodwch blanhigion ac anifeiliaid, ac ewch a'ch sbwriel gartref gyda chi

Cadwch eich cwn ger llaw a dan reolaeth

Ystyriwch bobl eraill

 

Weithiau, gelwir lleoedd twristaidd yn safleoedd pot mel - bydd pot mel melys sy'n cael ei adael yn yr ardd ar ddiwrnod braf o haf yn siwr y ddenu llawer o wenyn cyn hir gan droi'n rhywbeth cas cyn hir â hwyr! Pan fydd gormod o dwristiaid yn ymweld â rhywle, maen nhw'n ei ddifetha. Mae hyn yn cynnwys llygredd ceir, torfeydd o bobl a thagfeydd ar draffyrdd yn ystod tymor twristiaeth.

Weithiau gall yr anfanteision hyn arwain at wrthdaro. Nid yw gwrthdaro yn golygu ymladd, ond mae cynddeiriogi gyrrwr wedi arwain at fwy nac un cweryl! Mae'n golygu bod gwahanol bobl eisiau pethau gwahanol. Mae twrist eisiau ymweld ag ardal lle caiff o fynd i gerdded; mae hyn yn ddelfrydol i berchennog gwesty a thafarn leol. Ond, mae'n newyddion drwg i ffermwr sydd ddafad yn brin am ei bod hi wedi ei lladd ar y ffordd oherwydd bod cerddwr wedi gadael giât y cae yn agored!

Tasgau:

Dewiswch atyniad twristaidd yng Nghymru yr ydych chi wedi ymweld ag o:

  • Beth yw'r nodweddion ffisegol a dynol sy'n atynnu twristiaid?

  • Beth yw buddion twristiaeth i'r ardal yna?

  • Beth yw anfanteision twristiaeth yn yr ardal yna?

  • Pa fath o wrthdaro allai hyn achosi?

Top

Mwy o’r rhifyn yma...

2010 - Miri Tectonig

2010 - Miri Tectonig