4

Cwpan Ryder

Mae digwyddiad chwaraeon mawr yn enghraifft o atyniad twristaidd.

Enghraifft dda o hyn yw'r bencampwriaeth Cwpan Ryder a fydd yn cael ei chynnal yng ngwesty hamdden y Celtic Manor yng Nghasnewydd, Cymru ym Medi 2010.

undefined

Gwesty a chwrs golff ar gyrion Casnewydd yn ne Cymru yw'r Celtic Manor. Fodd bynnag, mae sgil effeithiau'r Cwpan Ryder i'w gweld eisoes led led Cymru.

Dewis naturiol i dwristiaid

undefinedMae Cymru yn ddewis naturiol i dwristiaid awyr agored fel golffwyr. Mae gan Gymru olygfeydd godidog yn cynnwys mynyddoedd, coedwigoedd ac arfordiroedd.

Mae llawer o gyrsiau golff wedi eu hadeiladu i gymryd mantais llawn o hyn, ond tand yn ddiweddar nid yw Cymru wedi bod yn denu'r twsistiaid yma i chwarae golff – yr oedd llawer wedi ymweld a'r Alban ond doedd yr n ohonynt yn gwybod am atyniadau golffio'r Cymry.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Buddion i Gymru

undefined

Un o fuddion amlycaf digwyddiad fel Cwpan Ryder yw nifer yr ymwelwyr. Y gobaith yw y bydd dros 45,000 o bobl yn mynychu'r digwyddiad yn ddyddiol. Gallai'r digwyddiad gynhyrchu hyd at £96 miliwn yn ystod yr wythnos gystadlu ar ben ei hun!

Bydd yr ymwelwyr hyn yn prynu tocynnau wrth gwrs, ond byddan nhw hefyd yn aros mewn gwestai ac hyd yn oed yn rhentu tai pobl gyffredin. Bydd bwytai, bariau a bob math o siopau yn ffynnu hefyd. Ond, bydd Cymru'n ennyn llawer cyn ac ar ol y digwyddiad.

Ers i Gymru ennill yr hawl i gynnal Cwpan Ryder mae cynnydd wedi bod yn nhwristiaeth Cymru benbaladr. Mae twristiaeth golff yng ngogledd Cymru yn ffyniannus. Yng nghlwb golff Brenhinol Dewi Sant yng Ngwynedd, mae nifer ymwelwyr o dramor wedi cynyddu'n arw ers cynnal 'Ryder Cup Wales Seniors' ac mae'r cwrs nawr i'w weld ar restr y 100 cwrs gorau tu hwnt i'r UDA yn y Golfer's Digest.

Mae maint busnesau fel y bwyty Castle Cottage yn Harlech wedi dyblu yn y flwyddyn ddiwethaf. Maent yn rhoi'r clod am y llwyddiant anhygoel yma i'r ffaith bod twrnament 'Ryder Cup Wales Seniors' wedi codi proffil yr ardal ac i ymgyrch marchnata ar ran Bwrdd Croeso Cymru.

Er enghraifft, cynhaliodd Clwb Golff Brenhinol Dewi SAnt yn Harlech y 'Ryder Cup Wales Seniors Open' o 2001 – 2005, yn 2005 Nefyn gynhaliodd y Ryder Cup Wales Challenge ac yn fwy diweddar, Conwy fu'n cynnal y 'Ryder Cup Wales Seniors Open' yn 2007 a 2008.

Heblaw am sbarduno ffyniant yn nhwristiaeth Cymru mae yna fuddion eraill. Mae digwyddiadau mawr fel Cwpan Ryder yn cael effaith ar ailffurfio. Fel rhan o'r paratoadau at Gwpan Ryder mae rhannau mawr o ganol tref Casnewydd a glannau'r afon Wysg wedie u trawsnewid yn llwyr. Mae rhwydwaith fewnol trafnidiaeth wedi gwella hefyd, yn cynnwys y rheilffyrdd a'r draffordd. Bydd preswylwyr a busnesau lleol yn enynn o hyn.

undefined

Anfanteision i Gymru 

Efallai bod cynnal Cwpan Ryder yn swnio'n berffaith - ond ni fydd pawn yn hapus. Bydd y bobl sy'n byw'n lleol yn wynebu degau o filoedd o geir ychwanegol ar y ffyrdd. Dychmygwch fod ar y bws ysgol ac yn sownd mewn tagfa draffig pum milltir o hyd!

Gallai hi fod yn ddeg gwaith gwaeth ar fusnesau lleol megis cwmniau cludiant gan gael effaith sylweddol ar eu helw. Hefyd, bydd yr holl geir yna'n llygru a bydd yr holl bobl yna'n cynhyrchu sbwriel, felly gallai'r amgylchedd ddioddef o'r herwydd.

Mae'r rhain i gyd yn enghreifftiau lle bydd gan wahanol bobl farn gwahanol ar rhywbeth. Ond i'r mwyafrif helaeth bydd Cwpan Ryder yn fendith ond i'r lleiafrif bychain sy'n byw ger llaw gallaifod yn wythnos hunllefus!

Tasgau

Mae atyniad twristaidd yn ffordd wych o archwilio'r modd y mae daearyddiaeth ddynol a ffisegol yn cyfuno ac o ganlyniad newid ardal. Mae hefyd yn enghraifft dda os sut y bydd ffactorau cadarnhaol a negyddol i wahanol bobl yn achosi gwrthdaro.

Gwnewch waith ymchwil i atyniad twrist yr ydych chi wedi ymweld ag o yng Nghymru - tynnwch sylw at y ffactorau ffisegol a dynol sydd wedi cyfuno i greu'r atyniad yna.

Ceisiwch nodi pethau fyddai'r atyniad twrist yn ei greu i achosi gwrthdaro rhwng gwahanol ghrwpiau o bobl.

Top

Mwy o’r rhifyn yma...

2010 - Miri Tectonig

2010 - Miri Tectonig

Twristiaeth yng Nghymru

Twristiaeth yng Nghymru