4

2010 - Miri Tectonig

Mae 2010 wedi bod yn flwyddyn fyrlymus iawn i ddaeargrynfeydd a llosgfynyddoedd.

Ionawr (daeargryn)

Haiti: bu farw dros 230,000 o bobl ac anafwyd dros filiwn pan drawodd daeargryn maint 7.

undefined

Chwefror (daeargryn)

Chile: bu farw tua 452 o bobl pan drawodd daeargryn maint 8.8.

undefined

Ebrill (daeargryn)

China: bu farw o leiaf 400 o bobl ar ôl i ddaeargryn maint 6.9 daro talaith orllewinol China, Qinghai.

undefined

Ebrill - Mai (llosgfynydd)

Gwlad yr Iâ: cafodd bob awyren i ac o'r Deyrnas Unedig eu stopio oherwydd bod cwmwl lludw yn dod o'r llosgfynydd yng Ngwlad yr Iâ.

undefined

 

Oeddech chi'n gwybod?

undefined

Fel arfer, ar y newyddion caiff maint daeargryn ei ddisgrifio gan raddfa a ddyfeiswyd gan yr Americanwr o wyddonydd, Charles Richter. Mae'r Raddfa Richter yn mynd o'r gwanaf (maint 1) i'r cryfaf (maint 9).

 

 

 

Disgrifiad Maint Amledd y flwyddyn
Mwyaf 8.0+ 1
Pwysig 7.0-7.9 18
Sylweddol (dinistriol) 6.0-6.9 120
Cymedrol (niweidiol) 5.0-5.9 1,000
Bychain (difrod bychain) 4.0-4.0 6,000
Teimlad cyffredinol 3.0-3.9 49,000
O bosib yn canfyddadwy 2.0-2.9 300,000
Anghanfyddadwy Llai na 2.0 600,000+

Flash Player Required

Get Adobe Flash player

Beth sy'n achosi daeargrynfeydd a llosgfynyddoedd?

Mae Daearyddwyr yn ceisio deall sut mae daeargrynfeydd a llosgfynyddoedd yn digwydd drwy ddefnyddio'r model platiau tectonig. Mae'r model yma yn egluro beth sy'n digwydd ar yr wyneb drwy edrych tu mewn i'r ddaear.

undefined

Mae bron iawn bob un daeargryn a llosgfynydd mawr yn digwydd yn agos at ymylon y platiau tegtonig. Mae Gwlad yr Ia yn le lle mae dau blat yn symud oddiw rth ei gilydd. Mae Haiti, Chile a China yn lefydd lle mae'r platiau wedi eu gorfodi at ei gilydd.

Tonnau o egni yw daeargrynfeydd sy'n digwydd pan fo platiau tectonig yn taro'n erbyn ei gilydd. Mae torriad neu hollt mewn haen o graig yn cael ei alw'n nam. Mae maint arwynebydd y graig sy'n torri ac yn symud yn achosi nerth y daeargryn canlynol: po fwyaf y maint y graig sy'n torri, po fwyaf fydd y daeargryn. Er enghraifft, petai craig main Cymru yn symud, byddai'n rhoi daeargryn maint 8.

Oeddech chi'n gwybod?

undefined

Cryndod yn y ddaear yw daeargryn. Mae daeargryn maint 1 yn debyg iawn i'r cryndod a gynhyrchir pan bydd dyn cyffredin yn neidio oddi ar fwrdd 1 metr o uchder ar y llawr. Dim ond offer sensitif iawn o'r enw seismomedrau sy'n gallu canfod rhain. Mae pob lefel maint yn 10 gwaith mwy na'r un o'i flaen.

Pam wnaeth daeargryn Haiti ladd mwy na daeargryn Chile?

Ma sawl rheswm dros hyn, ond er mwyn eu deall, rydym angen gwybod mwy am sut mae daeargryn yn digwydd.

Rydyn ni eisoes yn gwybod bod daeargryn yn digwydd pan fydd ardal o graig yn y ddaear yn torri ac yn symud heibio nam. Enw'r pwynt yma yw, canolbwynt y daeargryn. Bydd tonnau o ynni yn lledaenu mewn patrwm cylchol pan fyddan nhw'n cyrraedd yr wyneb (enw'r pwynt sydd yn uniongyrchol uwch ben y canolbwynt yw'r uwchganolbwynt). Mae'r tonnau yna'n lledaenu allan ar draws yr arwyneb yn union fel crychau ar lyn. Y tonnau arwynebol hyn sy'n achosi'r difrod.

Os yw'r canolbwynt yn agos i'r arwyneb yna bydd mwy o'r ynni yn cyrraedd yr arwyneb. Mae lefel yr ynni yn gostwng wrth i'r tonnau deithio drwy'r creigiau ac o ganlyniad mae'r tonnau'n lleihau. Yn Haiti, roedd y canolbwynt yn fas iawn - llai na 15 cilomedr, felly cyrhaeddodd yr holl ynni'r arwyneb.

Oeddech chi'n gwybod?

undefined

 

 

 

 

Mae'r llosgfynydd a lonyddodd meysydd awyr y DU wedi ei leoli ar bwynt lle mae dau blat yn symud oddi wrth ei gilydd. O dan yr wyneb, mae cerrynt yn y fantell sy'n codi tuag at yr wyneb. Wrth iddo godi mae'r pwysedd yn gostwng ac mae rhai o'r mwynau yn toddi gan greu cymysgedd o graig hylifog (magma) a nwyon toddedig.

Pan fydd hwn yn cyrraedd yr arwyneb, mae'n ymdebygu i'r hyn sy'n digwydd i botel o bop sydd wedi ei hysgwyd yn galed pan fydd y caead yn cael ei agor. Mae'r creigiau a'r magma sy'n gorwedd uwchben yn cael ei byliro i ludw a'i daflu yn uchel i'r atmosffer.

UCariodd cyflyrau tywydd anarferol (mae cyfeiriad y gwynt fel arfer yn mynd o'r De Orllewin) y lludw dros y DU gan achosi'r anhrefn.

Daearyddiaeth

Dwysedd poblogaeth

Y pwynt pwysig nesaf yw dwysedd poblogaeth, yn Haiti roedd yr uwchganolbwynt yn agos iawn i'r Brifddinas Port au Prince; o ganlyniad, bu bron iawn i'r holl ynni gyrraedd dinas o dros 2 filiwn o bobl.

Daearyddiaeth ddynol

Cyfoeth

Y ffactor olaf y cyfoeth; mae Haiti yn llawer iawn toltach na gwledydd eraill felly doedd llawer o'r adeiladau ddim yn ddiogel. Mae gan adeiladau diogel gorneli wedi eu hatgyfnerthu lle mae colofnau, waliau a lloriau yn cwrdd.

Dydy adeiladau diogel ddim yn cwympo nac yn gwastatu ond mae nhw angen 105 yn fwy o ddeunydd i'w hadeiladu ac yn 10-15% yn ddrytarch i'w hadeiladu. Ar ol y daeargryn, nid oedd gan Haiti'r gwasanaethau brys i ymdopi a'r dinistr felly bu farw llawer mwy o bobl. Dyma enghreifftiau o sut gall daearyddiaeth ddynol wneud trychineb ddaearyddol ffisegol yn waeth.

Felly, mae'r perygl mae Daeargryn yn ei osod yn dibynnu'n fwy penodol ar le mae'n digwydd yn hytracgh na pha mor fawr ydyw – mae'r daeargrynfeydd peryclaf yn digwydd yn agos i:

  • Yr awryneb

  • Ardaloedd gyda dwysedd poblogaeth mawr (dinasoedd)

  • Gwledydd tlawd

Tasgau:

Gwnewch ymchwil ar un ai daeargryn neu losgfynydd yn 2010.

Cynhyrchwch adroddiad newyddion ar beth ddigwyddodd y diwrnod hwnnw a phan y digwyddodd o. Rhaid cynnwys manylion am y rhesymau daearyddol ffisegol a rhesymau dynol dros y trychineb.

Meddyliwch am hyn – dychmygwch ceisio llunio graff i ddangos lefelau maint.

Gall lefel un gael ei ddangos fel bar 1mm o uchder, yna byddai 2 yn 10mm (1 cm), byddai, lefel 3 yn 10 cm, lefel 4 yn 100 cm (1 metr), byddai lefel 5 yn 10 metr, byddai lefel 6 yn 100 m, byddai lefel 7 yn 1000 m (1 cilomedr), byddai lefel 8 yn 10 cilomedr a byddai 9 yn 100 cilomedr! Sawl darn o bapur fyddai ei angen arnoch i lunio'r graff yna?

Top

Mwy o’r rhifyn yma...

Twristiaeth yng Nghymru

Twristiaeth yng Nghymru