37

Rhwydwaith Mewnol

Rhwydwaith Mewnol

  1. Darllenwch ystyr y term Rhwydwaith Mewnol
    Ystyr
    Mae Rhwydwaith Mewnol yn cyfeirio at adeiladweithiau, systemau a chyfleusterau ar gyfer economi busnes, diwydiant, gwlad, dinas, tref neu ardal; gan gynnwys y gwasanaethau a chyfleusterau sydd eu hangen er mwyn i’r economi weithio.
  2. Wrth weithio mewn grwpiau bychain, gwnewch restr o bopeth y gallwch chi feddwl amdano sy'n creu rhwydwaith mewnol eich ardal chi.
  3. Fel dosbarth, rhannwch eich syniadau i gyd ar ddiagram map meddwl.

Mae Rhwydwaith Mewnol yn cyfeirio at adeiladweithiau, systemau a chyfleusterau ar gyfer economi busnes, diwydiant, gwlad, dinas, tref neu ardal; gan gynnwys y gwasanaethau a chyfleusterau sydd eu hangen er mwyn i’r economi weithio.

Mae rhwydwaith mewnol gwell yn rhywbeth mae bron pob gwleidydd ym Mhrydain a Chymru yn gallu cytuno arno. Yn y rhifyn hwn, edrychwn ar sawl prosiect rhwydwaith mewnol sy’n mynd ymlaen yn y Deyrnas Unedig (y DU). Yn y rhifyn nesaf, edrychwn ar sut mae Llywodraeth Cymru yn gwario arian ar rhwydwaith mewnol er mwyn i’n heconomi dyfu.

Fe wyddoch chi, achos hen rifynnau Daearyddiaeth yn y Newyddion, fod yr economi yn ymwneud ag arian; neu, yn benodol, y gweithgareddau sydd yn cynnull arian mewn gwlad fel Cymru; mewn dinas fel Abertawe; mewn tref fel Wrecsam; neu efallai mewn ardal wledig fel Powys.

Yn Llundain, penderfynodd Prif Weinidog y DU godi’r gwariant ar brosiectau rhwydwaith mewnol yn 2016. Cafodd hwn ei osod yng nghynllun Rhwydwaith Mewnol y Llywodraeth. Byddai Arweinydd yr Wrthblaid fwyaf yn San Steffan yn benthyca £400 biliwn ychwanegol i’w gwario ar Rwydwaith Mewnol.

Crossrail

crossrail

Llun: Crossrail Tunnel Royal Oak Portal Construction - Marcus Rowland © Wikimedia Commons o dan Creative Commons Attribution-Share Alike 3.0 Unported

Rheilffordd newydd 118 cilomedr yw Crossrail, er mwyn teithio ar draws Llundain. Bydd yn gyswllt pwysig i Gymru wrth iddi wella ar deithio teithwyr i Lundain Paddington; y brif orsaf i drenau o dde Cymru. Bydd hefyd yn cysylltu â gorsaf Reading a Maes Awyr Heathrow. Yn ogystal â chroesi Llundain, bydd yn ymuno â gorsafoedd i mewn i Essex, a’r rheilffordd HS2.

  • Cost a gredir - £15.9 biliwn

        

Crossrail 2

llundain euston

Llun: Euston Station London - geograph.org.uk - 1309275 - Richard Rogerson © Wikimedia Commons o dan Creative Commons Attribution-Share Alike 2.0 Generic

Ail ran o brosiect Crossrail yw Crossrail 2; sydd wedi ei gynllunio er mwyn cysylltu Surrey/de Lloegr â Crossrail a’r rheilffordd HS2 newydd o Euston Llundain.

  • Cost a gredir - £32 biliwn.

Cynllun Trosglwyddo Rhwydwaith Mewnol Cenedlaethol

 

Dyma gynllun i’r Llywodraeth fuddsoddi dros £100 biliwn ar Rwydwaith Mewnol erbyn 2020-21, ynghyd â buddsoddi arwyddocaol o’r sector preifat, i drosglwyddo prosiectau pwysig sydd yn bwysig i dwf yr economi, a bywydau gwell i bobl.

Ar y cyfan, mae’r cynllun yn dangos sut gaiff dros £425 biliwn eu gwario ar dros 600 o brif brosiectau a rhaglenni ar draws y Deyrnas Unedig. Yn ogystal â hyn, caiff £58 biliwn ychwanegol (sef arian o’r sector cyhoeddus) eu gwario ar rwydwaith mewnol cymdeithasol; ar gyfer tai ac adfywio, addysg, iechyd a chyfiawnder.

Bydd Llywodraeth Cymru yn ceisio taro nod y rhwydwaith mewnol ac ennill arian; naill ai’n uniongyrchol drwy gael arian oddi wrth Lundain ar gyfer eu prosiectau fel trydaneiddio'r rheilffyrdd yn ne Cymru, neu drwy adeiladu uwch-garchar yng ngogledd Cymru, neu drwy dderbyn arian ychwanegol wedi’i ddatganoli ar Lywodraeth Cymru i’w wario ar flaenoriaethau y penderfynwyd arnynt gan y Cymry.

Mae rhai prosiectau rhwydwaith mewnol mor bwysig i Gymru, mae Llywodraeth Cymru eisiau mwy o ryddid i fenthyca arian i wario arnynt.

Rhwydwaith y Rheilffordd Gyflymdra Uchel

HS rail map

Llun: UK high speed rail map - Cnbrb © Wikimedia Commons o danCreative Commons Attribution-Share Alike 3.0 Unported

HS1 – Glas Tywyll

HS2 (rhan 1) – Glas Golau

HS2 (rhan 2) – Coch

  • Cost a gredir –
    • HS1 - £5.4 biliwn
    • HS2 - £30 biliwn

Pam mae Rhwydwaith Mewnol mor bwysig?

Meddyliwch am yr economi (sef sut rydyn ni’n ennill ein harian i gyd) fel teisen; rhwydwaith mewnol yw cynhwysion y deisen. Po fwya’r cynhwysion sydd gennych, po fwyaf y deisen. Os oes cynhwysion penodol ar goll, fydd y deisen ddim cystal ag y medrai fod. Drwy wario mwy o arian ar rwydwaith mewnol, mae llywodraethau gwahanol y Deyrnas Unedig a’r Cenhedloedd Datganoledig yn gobeithio am economi fwy; mae’n rhaid gwario mwy o arian i ennill mwy o arian. Credir bod cost rhwydwaith rheilffordd HS2 yn werth £30 biliwn; dros y 30 mlynedd nesaf, bydd yn ennill £43 biliwn a £27 biliwn mewn tocynnau, mae’n disgwyl.

Trydaneiddio'r Rheilffyrdd

trydaneiddio rheilffyrdd

Llun: Hitachi Super Express mockup (1) - Hitachi Rail Europe © Wikimedia Commons o dan Creative Commons Attribution-Share Alike 3.0 Unported

Trydaneiddio Rheilffordd Great Western (o Lundain Paddinton i Abertawe)

  • Cost - £5 biliwn

Wrth i ni edrych ar rwydwaith mewnol, rydyn ni’n ei rannu’n ddwy ran fel arfer:

Gweithgaredd
Defnyddiwch fap o’ch ardal leol (defnyddiwch Google Earth Satellite View er enghraifft).

Lluniwch dabl i nodi’r wahanol fathau o rwydwaith mewnol caled a rhwydwaith mewnol meddal a welwch. Ewch yn ôl at y tabl ar ôl i chi ddarllen y ddwy erthygl atodedig a newidiwch unrhyw gamgymeriadau, ac ychwanegwch unrhyw wybodaeth newydd rydych chi wedi dysgu.

Rhwydwaith Mewnol Caled Rhwydwaith Mewnol Meddal
   
   
   
   
   

Ar ôl i chi ddarllen y tair erthygl, a llenwi’r tabl, defnyddiwch y daflen A3 sydd ar gael i’ch helpu chi ddechrau DME ar brosiectau rhwydwaith mewnol.

Caiff yr adnodd ei gynllunio’n adnodd dosbarth cyfan o flaen y dosbarth ar daflunydd/bwrdd gwyn rhyngweithiol. Dylai’r gwaith graffig gwahanol gael ei egluro ar y testun, er na fydd yn ddarllenadwy gan y rhan fwyaf o’r disgyblion. Yn dilyn hwn, bydd yn ddelfrydol i’r disgyblion gael mynediad i’r adnoddau ar-lein er mwyn gweithio ar y daflen weithgaredd (i’w hargraffu ar dudalen A3). Yn ddelfrydol, caiff y gweithgareddau hyn eu cefnogi gan ddefnydd o ystafell rwydwaith, llechi/gliniaduron, neu ddyfeisiau/ffonau y disgyblion eu hunain os yw’n ganiataol. Sut bynnag, caiff y gweithgareddau eu cynllunio ar gyfer gwers un awr, gyda’r athro/athrawes yn defnyddio’r adnodd o flaen y dosbarth ynghyd â’r daflen adnodd. Gellir wedyn pennu gwaith cartref er mwyn i’r disgyblion astudio’r erthyglau o flaen llaw cyn y wers nesaf.

Mae’r adnodd a’r daflen wedi eu cynllunio i gefnogi’r FfLlRh tra bo’n rhoi gwybodaeth ddaearyddol bwysig i’r disgyblion am lefydd i’w gwneud â rhwydwaith mewnol.

Naill ai yn y dosbarth neu yn y tŷ, darllenwch a chwblhewch y gweithgareddau yn yr erthygl adnodd ar-lein, ac yn yr erthyglau atodedig yn y rhifyn hwn o Ddaearyddiaeth yn y Newyddion. Ceisiwch gwblhau pob gweithgaredd sydd ar y daflen adnodd.

Beth fyddwch yn ei ddysgu:

  • Byddwch yn cyfoethogi’ch gwybodaeth am rwydwaith mewnol.
  • Byddwch yn cyfoethogi’ch dealltwriaeth o sut allai’r ffactorau hyn effeithio ar fod dynol a gweithgaredd dyn.
  • Cewch y cyfle i ddysgu neu ymarfer sgiliau llythrennedd a rhifedd pwysig.
  • Dysgwch dermau daearyddol newydd wedi’u hamlygu’n borffor. Dylai’r rhain gael eu dysgu, a’u hychwanegu i eirfa. Rhestr o eiriau yw geirfa, a’u hystyron. Gallech gael un ar gefnau eich llyfrau ymarferion daearyddiaeth; os oes dyddiadur gennych, efallai bydd yn lle da i’w chadw, neu efallai cadwech eirfa neu lyfr geiriau ar wahân i’ch llyfr ymarferion. Mae geirfa dda yn yn eich helpu wella eich geirfa a’ch llythrennedd. Ymchwiliwch i ystyron gan ddefnyddio cynnwys perthnasol i’r erthyglau, trafodaethau neu eiriaduron (naill ai ar y we neu lyfr).
Top

Mwy o’r rhifyn yma...

Rhwydwaith Mewnol Caled

Rhwydwaith Mewnol Caled

Rhwydwaith Mewnol Meddal

Rhwydwaith Mewnol Meddal