37

Rhwydwaith Mewnol

Rhwydwaith Mewnol

  1. Darllenwch ystyr y term Rhwydwaith Mewnol
    Ystyr
    Mae Rhwydwaith Mewnol yn cyfeirio at y pethau gwahanol mewn lle sy'n rhoi gweithgareddau ar waith i ennill arian.
  2. Wrth weithio mewn grwpiau bychain, gwnewch restr o bopeth y gallwch chi feddwl amdano sy'n creu rhwydwaith mewnol eich ardal chi.
  3. Fel dosbarth, rhannwch eich syniadau i gyd ar ddiagram map meddwl.

Mae Rhwydwaith Mewnol yn cyfeirio at y pethau gwahanol mewn lle sy’n rhoi gweithgareddau ar waith i ennill arian.

Mae rhwydwaith mewnol gwell yn rhywbeth fod pob arweinydd ym Mhrydain a Chymru yn cytuno arno.

Yn y rhifyn hwn o GitN (Daearyddiaeth yn y Newyddion), edrychwn ar wahanol brosiectau rhwydwaith mewnol sy’n mynd ymlaen yn y Deyrnas Unedig (y DU).

Yn y rhifyn nesaf, edrychwn ar sut mae Llywodraeth Cymru yn gwario arian ar rwydwaith mewnol er mwyn i’n heconomi ni dyfu.

Fe wyddoch chi, achos hen rifynnau Daearyddiaeth yn y Newyddion, fod yr ‘economi yn ymwneud ag arian neu, yn fwy penodol, y gweithgareddau sy’n cynnull arian mewn y math wlad â Chymru.

Yn Llundain, penderfynodd Prif Weinidog y DU godi’r gwariant ar brosiectau rhwydwaith mewnol yn 2016.

Cafodd hwn ei osod yng nghynllun Rhwydwaith Mewnol y llywodraeth.

Crossrail

Crossrail Tunnel Royal Oak Portal Construction

Llun: Crossrail Tunnel Royal Oak Portal Construction - Marcus Rowland © Wikimedia Commons o dan Creative Commons Attribution-Share Alike 3.0 Unported

Rheilffordd newydd 118 cilomedr yw Crossrail, er mwyn teithio ar draws Llundain o’r Dwyrain i’r Gorllewin.

Bydd yn gyswllt pwysig i Gymru wrth iddi wella ar deithio teithwyr sy’n cyrraedd Llundain o dde Cymru.

Bydd hefyd yn cysylltu â Maes Awyr Heathrow.

Bydd hefyd yn ymuno â’r rheilffordd HS2 newydd.

  • Cost a gredir - £15.9 biliwn

     

Crossrail 2

euston london

Llun: Euston Station London - geograph.org.uk - 1309275 - Richard Rogerson © Wikimedia Commons o dan Creative Commons Attribution-Share Alike 2.0 Generic

Ail ran o brosiect Crossrail yw Crossrail 2.

Bydd yn cysylltu de Lloegr â Crossrail a’r rheilffordd HS2 newydd o Euston Llundain.

  • Cost a gredir - £32 biliwn.

Cynllun Trosglwyddo Rhwydwaith Mewnol Cenedlaethol

 

Dyma gynllun i’r llywodraeth fuddsoddi biliynau o bunnoedd i mewn i rwydwaith mewnol erbyn 2020-2021. Arian y sector cyhoeddus yw hwn.

Bydd gwario arian y sector cyhoeddus yn gymar i fwy o wario gan fusnesau annibynnol ac unigolion hyd yn oed. Dyma yw’r sector preifat.

Ar y cyfan mae’r cynllun yn dangos sut fydd dros £425 biliwn yn cael eu gwario ar dros 600 o brosiectau a rhaglenni ar draws y DU.

Hefyd, bydd £58 biliwn ychwanegol (sef arian o’r sector cyhoeddus) yn cael eu gwario ar rwydwaith mewnol cymdeithasol; ar gyfer tai ac adfywio, addysg, iechyd a chyfiawnder.

Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn ceisio bod yn rhan o’r gorwario mawr ar rwydwaith mewnol.

Gallai Llywodraeth Cymru fod o fudd i Lundain yn talu am rai o’u prosiectau fel trydaneiddio'r rheilffyrdd yn ne Cymru, neu drwy adeiladu ‘uwch-garchar’ yng ngogledd Cymru.

Bydd arian ychwanegol yn cael ei roi i Lywodraeth Cymru wario ar brosiectau rhwydwaith mewnol sydd wedi cael eu penderfynu arnynt yng Nghymru gan bobl Gymraeg.

Mae rhai prosiectau rhwydwaith mewnol mor bwysig i Gymru, mae Llywodraeth Cymru eisiau mwy o ryddid i fenthyca arian i wario anynt.

Rhwydwaith y Rheilffordd Gyflymdra Uchel

HS rail map

Llun: UK high speed rail map - Cnbrb © Wikimedia Commons o dan Creative Commons Attribution-Share Alike 3.0 Unported

HS1 – Glas Tywyll

HS2 (rhan 1) – Glas Golau

HS2 (rhan 2) – Coch

  • Cost a gredir –
    • HS1 - £5.4 biliwn
    • HS2 - £30 biliwn

Pam mae Rhwydwaith Mewnol mor bwysig?

  • Meddyliwch am yr economi (sef sut rydyn ni'n ennill ein harian i gyd) fel teisen.
  • Rhwydwaith Mewnol yw cynhwysion y deisen.
  • Po fwya'r cynhwysion sydd gennych, po fwyaf y deisen.
  • Os oes cynhwysion penodol ar goll, fydd y deisen ddim cystal ag y medrai fod.
  • Drwy wario mwy o arian ar rwydwaith mewnol, mae llywodraethau gwahanol y DU a'r Cenhedloedd Datganoledig yn gobeithio am economi fwy.
  • Yn y bôn, maen nhw eisiau gwario mwy o arian i ennill mwy o arian.
  • Bydd rhwydwaith rheilffordd HS2 yn costio £30 biliwn, mae'n debyg; a dros y 30 mlynedd nesaf, mae'n disgwyl iddo ennill £43 biliwn a £27 biliwn mewn tocynnau.

Trydaneiddio'r Rheilffyrdd

rail electrification

Llun: Hitachi Super Express mockup (1) - Hitachi Rail Europe © Wikimedia Commons o dan Creative Commons Attribution-Share Alike 3.0 Unported

Trydaneiddio Rheilffordd Great Western (o Lundain Paddington i Abertawe)

  • Cost - £5 biliwn

Wrth i ni edrych ar rwydwaith mewnol, rydyn ni'n ei rannu'n ddwy ran fel arfer:

Gweithgaredd
Defnyddiwch fap o’ch ardal leol (defnyddiwch Google Earth Satellite View er enghraifft).

Rhestrwch y wahanol fathau o rwydwaith mewnol a welwch.

Ewch yn ôl i’ch rhestr ar ôl i chi ddarllen y ddwy erthygl atodedig, ac ychwanegwch unrhyw bethau pwysig na ysgrifennoch y tro diwethaf.

Ar ôl pob ateb, rhowch naill ai (C) i ddynodi rhwydwaith mewnol caled, neu (M) i ddynodi rhwydwaith mewnol meddal.

Ar ôl i chi ddarllen yr erthyglau a chreu’r rhestr, defnyddiwch y daflen A3 sydd ar gael i’ch helpu dechrau DME ar brosiectau rhwydwaith mewnol.

Caiff yr adnodd ei gynllunio’n adnodd dosbarth cyfan o flaen y dosbarth ar daflunydd/bwrdd gwyn rhyngweithiol. Dylai’r gwaith graffig gwahanol gael ei egluro ar y testun, er na fydd yn ddarllenadwy gan y rhan fwyaf o’r disgyblion. Yn dilyn hwn, bydd yn ddelfrydol i’r disgyblion gael mynediad i’r adnoddau ar-lein er mwyn gweithio ar y daflen weithgaredd (i’w hargraffu ar dudalen A3). Yn ddelfrydol, caiff y gweithgareddau hyn eu cefnogi gan ddefnydd o ystafell rwydwaith, llechi/gliniaduron, neu ddyfeisiau/ffonau y disgyblion eu hunain os yw’n ganiataol. Sut bynnag, caiff y gweithgareddau eu cynllunio ar gyfer gwers un awr, gyda’r athro/athrawes yn defnyddio’r adnodd o flaen y dosbarth ynghyd â’r daflen adnodd. Gellir wedyn pennu gwaith cartref er mwyn i’r disgyblion astudio’r erthyglau o flaen llaw cyn y wers nesaf.

Mae’r adnodd a’r daflen wedi eu cynllunio i gefnogi’r FfLlRh tra bo’n rhoi gwybodaeth ddaearyddol bwysig i’r disgyblion am lefydd i’w gwneud â rhwydwaith mewnol.

Naill ai yn y dosbarth neu yn y tŷ, darllenwch a chwblhewch y gweithgareddau yn yr erthygl adnodd ar-lein, ac yn yr erthyglau cysylltiedig yn y rhifyn hwn o Ddaearyddiaeth yn y Newyddion. Ceisiwch gwblhau pob gweithgaredd sydd ar y daflen adnodd.

Beth fyddwch yn ei ddysgu:

  • Byddwch yn cyfoethogi’ch gwybodaeth am rwydwaith mewnol.
  • Byddwch yn cyfoethogi’ch dealltwriaeth o sut allai’r ffactorau hyn effeithio ar fod dynol a gweithgaredd dyn.
  • Cewch y cyfle i ddysgu neu ymarfer sgiliau llythrennedd a rhifedd pwysig.
  • Dysgwch dermau daearyddol newydd wedi’u hamlygu’n borffor. Dylai’r rhain gael eu dysgu, a’u hychwanegu i eirfa. Rhestr o eiriau yw geirfa, a’u hystyron. Gallech gael un ar gefnau eich llyfrau ymarferion daearyddiaeth; os oes dyddiadur gennych, efallai bydd yn lle da i’w chadw, neu efallai cadwech eirfa neu lyfr geiriau ar wahân i’ch llyfr ymarferion. Mae geirfa dda yn yn eich helpu wella eich geirfa a’ch llythrennedd. Ymchwiliwch i ystyron gan ddefnyddio cynnwys perthynol i’r erthyglau, trafodaethau neu eiriaduron (naill ai ar y we neu lyfr).
Top

Mwy o’r rhifyn yma...

Rhwydwaith Mewnol Caled

Rhwydwaith Mewnol Caled

Rhwydwaith Mewnol Meddal

Rhwydwaith Mewnol Meddal