37

Rhwydwaith Mewnol Caled

Rhwydwaith Mewnol Caled

Mae rhwydwaith mewnol caled yn cyfeirio at rwydweithiau mawr sydd wedi’u hadeiladu dros gyfnodau maith o amser, sy’n galluogi i wlad neu ranbarth fodern weithio. Mae prif rwydweithiau fel trafnidiaeth a chyflenwadau ynni hawdd i’w gweld, ond mae yna gerbydau, pobl, a hyd yn oed TG/meddalwedd oll sydd eu hangen er mwyn i’r prif rwydweithiau weithio. Yn ogystal â hyn yw cartrefi a gwasanaethau, sy’n angenrheidiol i unigolion a busnesau fod yn llewyrchus, yn cynnwys gwastraff ac ailgylchu, cyflenwadau dŵr, atal llifogydd, a chyfathrebu.

Trafnidiaeth

  • Rhwydwaith ffyrdd
    • Strwythurau
    • Arwyddion/marciau ffyrdd
    • Trydan
      • Goleuadau stryd
      • Goleuadau traffig
    • Cyflenwadau tanwydd
    • Meysydd gwasanaeth

DAW RHWYDWEITHIAU FFYRDD YN FWY CYMHLETH (RHIFYN 8)

DAW RHWYDWEITHIAU FFYRDD YN FWY CYMHLETH (RHIFYN 8)

  • Systemau Trafnidiaeth Gyhoeddus
    • Systemau'r rheilffordd
      • Tanddaearol
      • Uwchddaearol
    • Rhwydweithiau bws
    • Rhwydweithiau tram
    • Rhwydweithiau beic
    • Croesfannau cerddwyr a chroesfannau diogel

MAE TRENAU YN DDEWIS ARALL I'R CAR (RHIFYN 8)

MAE TRENAU YN DDEWIS ARALL I'R CAR (RHIFYN 8)

  • Meysydd awyr a thrafnidiaeth hedfan
  • Porthladdoedd, fferïau, a morffyrdd

MAE'R LLONGAU MORDEITHIO SY'N YMWELD Â CHYMRU'N FWYFWY (RHIFYN 15)

MAE'R LLONGAU MORDEITHIO SY'N YMWELD Â CHYMRU'N FWYFWY (RHIFYN 15)

  • Camlesydd a dyfrffyrdd mordwyadwy

Tai

  • Tai / fflatiau i'w prynu
  • Tai / fflatiau i'w rhentu

CYNHYRCHU TRYDAN YN Y CARTREF (RHIFYN 12)

CYNHYRCHU TRYDAN YN Y CARTREF (RHIFYN 12)

Ynni

  • Rhwydweithiau pŵer trydanol
    • Gorsafoedd cynhyrchu
      • Adnewyddadwy
      • Na ellir ei adnewyddu
    • Grid trydanol
    • Is-orsafoedd
    • Dosbarthiad lleol

TANWYDD FFOSILEDIG YN Y CARTREF AC AR FYND (RHIFYN 15)

TANWYDD FFOSILEDIG YN Y CARTREF AC AR FYND (RHIFYN 15)

  • Rhwydwaith nwy naturiol
    • Safleoedd cynhyrchu
    • Coethni
    • Trafnidiaeth
      • Piblinell
      • Llong
      • Ffordd
      • Nwy Potel
    • Terfynfeydd storio a dosbarthu
    • Rhwydwaith dosbarthu lleol

LLONG NWY LNG YN ABERDAUGLEDDAU, GORLLEWIN CYMRU

LLONG NWY LNG YN ABERDAUGLEDDAU, GORLLEWIN CYMRU. Llun: Methanier aspher LNGRIVERS - Pline © Wikimedia Commons o dan Creative Commons Attribution-Share Alike 3.0 Unported

  • Petroliwm
    • Safleoedd cynhyrchu
    • Coethni
    • Trafnidiaeth
      • Piblinell
      • Llong
      • Ffordd
    • Storio
    • Rhwydwaith dosbarthu lleol
  • Glo
    • Cloddio
    • Golchi
    • Trafnidiaeth

HANES GWAITH GLO YNG NGHYMRU (RHIFYN 7)

HANES GWAITH GLO YNG NGHYMRU (RHIFYN 7)

Rheoli Dŵr

  • Cyflenwadau dŵr yfed
    • Cronfeydd storio
    • Pympiau
    • Hidliad a thriniaeth
    • Piblinellau dosbarthu

ACHUBWCH NI RHAG EIN CARTHION (GWELWCH RIFYN 23)

ACHUBWCH NI RHAG EIN CARTHION (GWELWCH RIFYN 23)

  • Carthion
    • Carthffos gasglu
    • Canolfannau Trin Dŵr
    • Gwaredu gwastraff dŵr

LLIFOGYDD (GWELWCH RIFYN 3 A 32)

LLIFOGYDD (GWELWCH RIFYN 3 A 32)

  • Systemau draenio
    • Draenio dŵr wyneb/rhwydweithiau draenio
    • Ffosydd
  • Systemau dyfrio
    • Cronfeydd
    • Pympiau
    • Camlesydd dyfrio
  • Systemau rheoli llifogydd
    • Argaeau/cefnau wedi eu codi
    • Gorsafoedd pwmpio
    • Fflodiardau
    • Cronfeydd storio
  • Rheoli arfordirol
    • Morgloddiau
    • Grwynau
    • Maethu traeth
    • Sefydlogi twyni

GWARCHODLU'R GLANNAU YN ABERAFAN (RHIFYNNAU 18)

GWARCHODLU'R GLANNAU YN ABERAFAN (RHIFYN 18)

Cyfathrebu

  • Gwasanaeth post
    • Blychau post
    • Cyfleusterau trefnu
    • Gwasanaeth dosbarthu
  • Rhwydweithiau teleffon
    • Tirwifrau
    • Systemau cyfnewid
  • Rhwydweithiau ffonau symudol
    • Hwylbrenni
    • Cyfnewidiau
  • Gwasanaeth rhyngrwyd
    • Tirwifrau copr
    • Ceblau opteg ffeibrau
    • Symudol
    • Gweinyddion

DARLLENWCH RIFYN 8 I GAEL MWY O WYBODAETH AM ARDALOEDD YNG NGHYMRU SYDD HEB WASANAETHAU BYD EANG CYFLYM

DARLLENWCH RIFYN 8 I GAEL MWY O WYBODAETH AM ARDALOEDD YNG NGHYMRU SYDD HEB WASANAETHAU BYD EANG CYFLYM

  • Teledu/radio
    • Trosglwyddiad llawr
    • Trosglwyddiad lloeren
    • Rhwydweithiau ceblau
    • Rheoliadau a safonau
  • Lloerennau Cyfathrebu
  • Ceblau dan y môr

Rheoli gwastraff solet

  • Casglu gwastraff y cartref
    • Casglu deunyddiau y gellir eu hailgylchu
    • Gwastraff tirlenwi

AILGYLCHU GWASTRAFF YNG NGHYMRU

AILGYLCHU GWASTRAFF YNG NGHYMRU (RHIFYN 7)

  • Llosgyddion gwastraff solet
    • Cynhyrchu gwres
    • Cynhyrchu trydan
  • Cyfleusterau adennill deunyddiau (ailgylchu)
  • Tirlenwi
  • Cyfleusterau gwaredu gwastraff peryglus

 

Cynlluniau ar gyfer Dinas-Ranbarthau

Caiff ei gynnig y bydd Cymru’n elwa oherwydd dwy ddinas-ranbarth arfaethedig. Bydd gogledd-ddwyrain Cymru’n elwa oherwydd y Pwerdy Gogleddol arfaethedig; dinas-ranbarth â’i chanolbwynt ym Manceinion yw hon, yn estyn i’r Gorllewin tuag at Lerpwl (a gogledd-ddwyrain Cymru), a thua’r dwyrain i Leeds a Newcastle. Y syniad tu ôl i’r Pwerdy Gogleddol yw pwyso’r economi drwy ddod â mwy o swyddi i ogledd Prydain. Bydd gogledd Cymru yn elwa oherwydd rhwydweithiau rheilffyrdd a ffyrdd gwell (gwelwch rifyn 8); mwy o gyfleoedd gwaith a mwy o adeiladu tai. Mae prosiectau fel ‘uwch-garchar’ newydd yn cael eu hadeiladu ger Wrecsam yn barod, ac mae prosiectau ynni wedi cael eu cynllunio, neu’n cael eu hadeiladu yn barod (gwelwch rifynnau 12 a 13).

Yn ne Cymru, caiff dinas-ranbarth ei chynnig er mwyn cynnwys 10 o awdurdodau lleol. Byddai’r rhanbarth â’i lleoliad o gwmpas y brifddinas yng Nghaerdydd, ac yn helpu cysylltu Cymoedd De Cymru ag ardal ddinesig Gasnewydd a Chwmbrân. Caiff trafnidiaeth gyhoeddus ei gwella wedi i rwydwaith newydd o fysiau, trenau, tramiau a thrafnidiaeth dram cyflym gael adeiladu; a chaiff ei enwi'n Fetro De Cymru.

Llun: SW Metro - Llywodraeth Cymru © Crown copyright 2016 o dan Drwydded Llywodraeth Agored v3.0

Llun: SW Metro - Llywodraeth Cymru © Crown copyright 2016 o dan Drwydded Llywodraeth Agored v3.0

Bydd cynllun Dinas-Ranbarth Caerdydd yn costio £1.2 biliwn o arian cyhoeddus. Mae gwelliant o’r brif linell rhwng Abertawe a Llundain Paddington gwerth £5 biliwn ar y gweill yn barod. Mae Llywodraeth Cymru wedi prynu Maes Awyr Caerdydd, a fydd yn cael ei wella. Hefyd, mae ymgynghoriad ar y gweill yn trafod cynllun gwerth dros £1 biliwn i adeiladu traffordd osgoi o gwmpas Casnewydd, sydd yn dioddef o dagfa geir bron bob dydd wrth i’r draffordd newid o 8 lôn i 4 lon (yn cynnwys yr ysgwydd galed) er mwyn cael pasio trwy dwnneli drwy fryn lleol.

Gweithgaredd

Defnyddiwch GIS (Geographical Information System – System Wybodaeth Ddaearyddol) fel Google Earth i ddod o hyd i fap o ardal ddinesig (trefi a dinasoedd) a map o ardal wledig (tua’r un maint) rydych yn adnabod yn dda.

1) Lluniwch dabl i restri’r wahanol enghreifftiau o rwydwaith mewnol caled y gwelwch ar y map. Ceisiwch ddod o hyd i o leiaf 12 yn yr ardal ddinesig, ac o leiaf 5 yn yr ardal wledig.

Rhwydwaith Mewnol Caled

Ardal Ddinesig

Ardal Wledig

1

 

1

 

2

 

2

 

3

 

3

 

4

 

4

 

5

 

5

 

6

 

6

 

7

 

7

 

8

 

8

 

9

 

9

 

10

 

10

 

11

 

11

 

12

 

12

 

 2) Beth oedd yn haws? Dod o hyd i 12 enghraifft o’r ardal ddinesig? Neu ddod o hyd i 5 enghraifft o’r ardal wledig?

Top

Mwy o’r rhifyn yma...

Rhwydwaith Mewnol Meddal

Rhwydwaith Mewnol Meddal