Mae Rhwydwaith Mewnol yn cyfeirio at adeiladweithiau, systemau a chyfleusterau ar gyfer economi busnes, diwydiant, gwlad, dinas, tref neu ardal; gan gynnwys y gwasanaethau a chyfleusterau sydd eu hangen er mwyn i’r economi weithio.
Mae rhwydwaith mewnol gwell yn rhywbeth mae bron pob gwleidydd ym Mhrydain a Chymru yn gallu cytuno arno. Yn y rhifyn hwn, edrychwn ar sawl prosiect rhwydwaith mewnol sy’n mynd ymlaen yn y Deyrnas Unedig (y DU). Yn y rhifyn nesaf, edrychwn ar sut mae Llywodraeth Cymru yn gwario arian ar rhwydwaith mewnol er mwyn i’n heconomi dyfu.
Fe wyddoch chi, achos hen rifynnau Daearyddiaeth yn y Newyddion, fod yr economi yn ymwneud ag arian; neu, yn benodol, y gweithgareddau sydd yn cynnull arian mewn gwlad fel Cymru; mewn dinas fel Abertawe; mewn tref fel Wrecsam; neu efallai mewn ardal wledig fel Powys.
Yn Llundain, penderfynodd Prif Weinidog y DU godi’r gwariant ar brosiectau rhwydwaith mewnol yn 2016. Cafodd hwn ei osod yng nghynllun Rhwydwaith Mewnol y Llywodraeth. Byddai Arweinydd yr Wrthblaid fwyaf yn San Steffan yn benthyca £400 biliwn ychwanegol i’w gwario ar Rwydwaith Mewnol.
Llun: Crossrail Tunnel Royal Oak Portal Construction - Marcus Rowland © Wikimedia Commons o dan Creative Commons Attribution-Share Alike 3.0 Unported
Rheilffordd newydd 118 cilomedr yw Crossrail, er mwyn teithio ar draws Llundain. Bydd yn gyswllt pwysig i Gymru wrth iddi wella ar deithio teithwyr i Lundain Paddington; y brif orsaf i drenau o dde Cymru. Bydd hefyd yn cysylltu â gorsaf Reading a Maes Awyr Heathrow. Yn ogystal â chroesi Llundain, bydd yn ymuno â gorsafoedd i mewn i Essex, a’r rheilffordd HS2.
Llun: Euston Station London - geograph.org.uk - 1309275 - Richard Rogerson © Wikimedia Commons o dan Creative Commons Attribution-Share Alike 2.0 Generic
Ail ran o brosiect Crossrail yw Crossrail 2; sydd wedi ei gynllunio er mwyn cysylltu Surrey/de Lloegr â Crossrail a’r rheilffordd HS2 newydd o Euston Llundain.
Dyma gynllun i’r Llywodraeth fuddsoddi dros £100 biliwn ar Rwydwaith Mewnol erbyn 2020-21, ynghyd â buddsoddi arwyddocaol o’r sector preifat, i drosglwyddo prosiectau pwysig sydd yn bwysig i dwf yr economi, a bywydau gwell i bobl.
Ar y cyfan, mae’r cynllun yn dangos sut gaiff dros £425 biliwn eu gwario ar dros 600 o brif brosiectau a rhaglenni ar draws y Deyrnas Unedig. Yn ogystal â hyn, caiff £58 biliwn ychwanegol (sef arian o’r sector cyhoeddus) eu gwario ar rwydwaith mewnol cymdeithasol; ar gyfer tai ac adfywio, addysg, iechyd a chyfiawnder.
Bydd Llywodraeth Cymru yn ceisio taro nod y rhwydwaith mewnol ac ennill arian; naill ai’n uniongyrchol drwy gael arian oddi wrth Lundain ar gyfer eu prosiectau fel trydaneiddio'r rheilffyrdd yn ne Cymru, neu drwy adeiladu uwch-garchar yng ngogledd Cymru, neu drwy dderbyn arian ychwanegol wedi’i ddatganoli ar Lywodraeth Cymru i’w wario ar flaenoriaethau y penderfynwyd arnynt gan y Cymry.
Mae rhai prosiectau rhwydwaith mewnol mor bwysig i Gymru, mae Llywodraeth Cymru eisiau mwy o ryddid i fenthyca arian i wario arnynt.
Llun: UK high speed rail map - Cnbrb © Wikimedia Commons o danCreative Commons Attribution-Share Alike 3.0 Unported
HS1 – Glas Tywyll
HS2 (rhan 1) – Glas Golau
HS2 (rhan 2) – Coch
Meddyliwch am yr economi (sef sut rydyn ni’n ennill ein harian i gyd) fel teisen; rhwydwaith mewnol yw cynhwysion y deisen. Po fwya’r cynhwysion sydd gennych, po fwyaf y deisen. Os oes cynhwysion penodol ar goll, fydd y deisen ddim cystal ag y medrai fod. Drwy wario mwy o arian ar rwydwaith mewnol, mae llywodraethau gwahanol y Deyrnas Unedig a’r Cenhedloedd Datganoledig yn gobeithio am economi fwy; mae’n rhaid gwario mwy o arian i ennill mwy o arian. Credir bod cost rhwydwaith rheilffordd HS2 yn werth £30 biliwn; dros y 30 mlynedd nesaf, bydd yn ennill £43 biliwn a £27 biliwn mewn tocynnau, mae’n disgwyl.
Llun: Hitachi Super Express mockup (1) - Hitachi Rail Europe © Wikimedia Commons o dan Creative Commons Attribution-Share Alike 3.0 Unported
Trydaneiddio Rheilffordd Great Western (o Lundain Paddinton i Abertawe)
Wrth i ni edrych ar rwydwaith mewnol, rydyn ni’n ei rannu’n ddwy ran fel arfer:
Gweithgaredd
Defnyddiwch fap o’ch ardal leol (defnyddiwch Google Earth Satellite View er enghraifft).
Lluniwch dabl i nodi’r wahanol fathau o rwydwaith mewnol caled a rhwydwaith mewnol meddal a welwch. Ewch yn ôl at y tabl ar ôl i chi ddarllen y ddwy erthygl atodedig a newidiwch unrhyw gamgymeriadau, ac ychwanegwch unrhyw wybodaeth newydd rydych chi wedi dysgu.
Rhwydwaith Mewnol Caled | Rhwydwaith Mewnol Meddal |
Ar ôl i chi ddarllen y tair erthygl, a llenwi’r tabl, defnyddiwch y daflen A3 sydd ar gael i’ch helpu chi ddechrau DME ar brosiectau rhwydwaith mewnol.
Caiff yr adnodd ei gynllunio’n adnodd dosbarth cyfan o flaen y dosbarth ar daflunydd/bwrdd gwyn rhyngweithiol. Dylai’r gwaith graffig gwahanol gael ei egluro ar y testun, er na fydd yn ddarllenadwy gan y rhan fwyaf o’r disgyblion. Yn dilyn hwn, bydd yn ddelfrydol i’r disgyblion gael mynediad i’r adnoddau ar-lein er mwyn gweithio ar y daflen weithgaredd (i’w hargraffu ar dudalen A3). Yn ddelfrydol, caiff y gweithgareddau hyn eu cefnogi gan ddefnydd o ystafell rwydwaith, llechi/gliniaduron, neu ddyfeisiau/ffonau y disgyblion eu hunain os yw’n ganiataol. Sut bynnag, caiff y gweithgareddau eu cynllunio ar gyfer gwers un awr, gyda’r athro/athrawes yn defnyddio’r adnodd o flaen y dosbarth ynghyd â’r daflen adnodd. Gellir wedyn pennu gwaith cartref er mwyn i’r disgyblion astudio’r erthyglau o flaen llaw cyn y wers nesaf.
Mae’r adnodd a’r daflen wedi eu cynllunio i gefnogi’r FfLlRh tra bo’n rhoi gwybodaeth ddaearyddol bwysig i’r disgyblion am lefydd i’w gwneud â rhwydwaith mewnol.
Naill ai yn y dosbarth neu yn y tŷ, darllenwch a chwblhewch y gweithgareddau yn yr erthygl adnodd ar-lein, ac yn yr erthyglau atodedig yn y rhifyn hwn o Ddaearyddiaeth yn y Newyddion. Ceisiwch gwblhau pob gweithgaredd sydd ar y daflen adnodd.
Beth fyddwch yn ei ddysgu: