Mae Rhwydwaith Mewnol yn cyfeirio at y pethau gwahanol mewn lle sy’n rhoi gweithgareddau ar waith i ennill arian.
Mae rhwydwaith mewnol gwell yn rhywbeth fod pob arweinydd ym Mhrydain a Chymru yn cytuno arno.
Yn y rhifyn hwn o GitN (Daearyddiaeth yn y Newyddion), edrychwn ar wahanol brosiectau rhwydwaith mewnol sy’n mynd ymlaen yn y Deyrnas Unedig (y DU).
Yn y rhifyn nesaf, edrychwn ar sut mae Llywodraeth Cymru yn gwario arian ar rwydwaith mewnol er mwyn i’n heconomi ni dyfu.
Fe wyddoch chi, achos hen rifynnau Daearyddiaeth yn y Newyddion, fod yr ‘economi’ yn ymwneud ag arian neu, yn fwy penodol, y gweithgareddau sy’n cynnull arian mewn y math wlad â Chymru.
Yn Llundain, penderfynodd Prif Weinidog y DU godi’r gwariant ar brosiectau rhwydwaith mewnol yn 2016.
Cafodd hwn ei osod yng nghynllun Rhwydwaith Mewnol y llywodraeth.
Llun: Crossrail Tunnel Royal Oak Portal Construction - Marcus Rowland © Wikimedia Commons o dan Creative Commons Attribution-Share Alike 3.0 Unported
Rheilffordd newydd 118 cilomedr yw Crossrail, er mwyn teithio ar draws Llundain o’r Dwyrain i’r Gorllewin.
Bydd yn gyswllt pwysig i Gymru wrth iddi wella ar deithio teithwyr sy’n cyrraedd Llundain o dde Cymru.
Bydd hefyd yn cysylltu â Maes Awyr Heathrow.
Bydd hefyd yn ymuno â’r rheilffordd HS2 newydd.
Llun: Euston Station London - geograph.org.uk - 1309275 - Richard Rogerson © Wikimedia Commons o dan Creative Commons Attribution-Share Alike 2.0 Generic
Ail ran o brosiect Crossrail yw Crossrail 2.
Bydd yn cysylltu de Lloegr â Crossrail a’r rheilffordd HS2 newydd o Euston Llundain.
Dyma gynllun i’r llywodraeth fuddsoddi biliynau o bunnoedd i mewn i rwydwaith mewnol erbyn 2020-2021. Arian y sector cyhoeddus yw hwn.
Bydd gwario arian y sector cyhoeddus yn gymar i fwy o wario gan fusnesau annibynnol ac unigolion hyd yn oed. Dyma yw’r sector preifat.
Ar y cyfan mae’r cynllun yn dangos sut fydd dros £425 biliwn yn cael eu gwario ar dros 600 o brosiectau a rhaglenni ar draws y DU.
Hefyd, bydd £58 biliwn ychwanegol (sef arian o’r sector cyhoeddus) yn cael eu gwario ar rwydwaith mewnol cymdeithasol; ar gyfer tai ac adfywio, addysg, iechyd a chyfiawnder.
Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn ceisio bod yn rhan o’r gorwario mawr ar rwydwaith mewnol.
Gallai Llywodraeth Cymru fod o fudd i Lundain yn talu am rai o’u prosiectau fel trydaneiddio'r rheilffyrdd yn ne Cymru, neu drwy adeiladu ‘uwch-garchar’ yng ngogledd Cymru.
Bydd arian ychwanegol yn cael ei roi i Lywodraeth Cymru wario ar brosiectau rhwydwaith mewnol sydd wedi cael eu penderfynu arnynt yng Nghymru gan bobl Gymraeg.
Mae rhai prosiectau rhwydwaith mewnol mor bwysig i Gymru, mae Llywodraeth Cymru eisiau mwy o ryddid i fenthyca arian i wario anynt.
Llun: UK high speed rail map - Cnbrb © Wikimedia Commons o dan Creative Commons Attribution-Share Alike 3.0 Unported
HS1 – Glas Tywyll
HS2 (rhan 1) – Glas Golau
HS2 (rhan 2) – Coch
Llun: Hitachi Super Express mockup (1) - Hitachi Rail Europe © Wikimedia Commons o dan Creative Commons Attribution-Share Alike 3.0 Unported
Trydaneiddio Rheilffordd Great Western (o Lundain Paddington i Abertawe)
Wrth i ni edrych ar rwydwaith mewnol, rydyn ni'n ei rannu'n ddwy ran fel arfer:
Gweithgaredd
Defnyddiwch fap o’ch ardal leol (defnyddiwch Google Earth Satellite View er enghraifft).
Rhestrwch y wahanol fathau o rwydwaith mewnol a welwch.
Ewch yn ôl i’ch rhestr ar ôl i chi ddarllen y ddwy erthygl atodedig, ac ychwanegwch unrhyw bethau pwysig na ysgrifennoch y tro diwethaf.
Ar ôl pob ateb, rhowch naill ai (C) i ddynodi rhwydwaith mewnol caled, neu (M) i ddynodi rhwydwaith mewnol meddal.
Ar ôl i chi ddarllen yr erthyglau a chreu’r rhestr, defnyddiwch y daflen A3 sydd ar gael i’ch helpu dechrau DME ar brosiectau rhwydwaith mewnol.
Caiff yr adnodd ei gynllunio’n adnodd dosbarth cyfan o flaen y dosbarth ar daflunydd/bwrdd gwyn rhyngweithiol. Dylai’r gwaith graffig gwahanol gael ei egluro ar y testun, er na fydd yn ddarllenadwy gan y rhan fwyaf o’r disgyblion. Yn dilyn hwn, bydd yn ddelfrydol i’r disgyblion gael mynediad i’r adnoddau ar-lein er mwyn gweithio ar y daflen weithgaredd (i’w hargraffu ar dudalen A3). Yn ddelfrydol, caiff y gweithgareddau hyn eu cefnogi gan ddefnydd o ystafell rwydwaith, llechi/gliniaduron, neu ddyfeisiau/ffonau y disgyblion eu hunain os yw’n ganiataol. Sut bynnag, caiff y gweithgareddau eu cynllunio ar gyfer gwers un awr, gyda’r athro/athrawes yn defnyddio’r adnodd o flaen y dosbarth ynghyd â’r daflen adnodd. Gellir wedyn pennu gwaith cartref er mwyn i’r disgyblion astudio’r erthyglau o flaen llaw cyn y wers nesaf.
Mae’r adnodd a’r daflen wedi eu cynllunio i gefnogi’r FfLlRh tra bo’n rhoi gwybodaeth ddaearyddol bwysig i’r disgyblion am lefydd i’w gwneud â rhwydwaith mewnol.
Naill ai yn y dosbarth neu yn y tŷ, darllenwch a chwblhewch y gweithgareddau yn yr erthygl adnodd ar-lein, ac yn yr erthyglau cysylltiedig yn y rhifyn hwn o Ddaearyddiaeth yn y Newyddion. Ceisiwch gwblhau pob gweithgaredd sydd ar y daflen adnodd.
Beth fyddwch yn ei ddysgu: