Mae rhwydwaith mewnol caled yn cyfeirio at rwydweithiau mawr sydd wedi’u hadeiladu dros gyfnodau maith o amser, sy’n galluogi i wlad neu ranbarth fodern weithio. Mae prif rwydweithiau fel trafnidiaeth a chyflenwadau ynni hawdd i’w gweld, ond mae yna gerbydau, pobl, a hyd yn oed TG/meddalwedd oll sydd eu hangen er mwyn i’r prif rwydweithiau weithio. Yn ogystal â hyn yw cartrefi a gwasanaethau, sy’n angenrheidiol i unigolion a busnesau fod yn llewyrchus, yn cynnwys gwastraff ac ailgylchu, cyflenwadau dŵr, atal llifogydd, a chyfathrebu.
DAW RHWYDWEITHIAU FFYRDD YN FWY CYMHLETH (RHIFYN 8)
MAE TRENAU YN DDEWIS ARALL I'R CAR (RHIFYN 8)
MAE'R LLONGAU MORDEITHIO SY'N YMWELD Â CHYMRU'N FWYFWY (RHIFYN 15)
CYNHYRCHU TRYDAN YN Y CARTREF (RHIFYN 12)
TANWYDD FFOSILEDIG YN Y CARTREF AC AR FYND (RHIFYN 15)
LLONG NWY LNG YN ABERDAUGLEDDAU, GORLLEWIN CYMRU. Llun: Methanier aspher LNGRIVERS - Pline © Wikimedia Commons o dan Creative Commons Attribution-Share Alike 3.0 Unported
HANES GWAITH GLO YNG NGHYMRU (RHIFYN 7)
ACHUBWCH NI RHAG EIN CARTHION (GWELWCH RIFYN 23)
LLIFOGYDD (GWELWCH RIFYN 3 A 32)
GWARCHODLU'R GLANNAU YN ABERAFAN (RHIFYN 18)
DARLLENWCH RIFYN 8 I GAEL MWY O WYBODAETH AM ARDALOEDD YNG NGHYMRU SYDD HEB WASANAETHAU BYD EANG CYFLYM
AILGYLCHU GWASTRAFF YNG NGHYMRU (RHIFYN 7)
Caiff ei gynnig y bydd Cymru’n elwa oherwydd dwy ddinas-ranbarth arfaethedig. Bydd gogledd-ddwyrain Cymru’n elwa oherwydd y Pwerdy Gogleddol arfaethedig; dinas-ranbarth â’i chanolbwynt ym Manceinion yw hon, yn estyn i’r Gorllewin tuag at Lerpwl (a gogledd-ddwyrain Cymru), a thua’r dwyrain i Leeds a Newcastle. Y syniad tu ôl i’r Pwerdy Gogleddol yw pwyso’r economi drwy ddod â mwy o swyddi i ogledd Prydain. Bydd gogledd Cymru yn elwa oherwydd rhwydweithiau rheilffyrdd a ffyrdd gwell (gwelwch rifyn 8); mwy o gyfleoedd gwaith a mwy o adeiladu tai. Mae prosiectau fel ‘uwch-garchar’ newydd yn cael eu hadeiladu ger Wrecsam yn barod, ac mae prosiectau ynni wedi cael eu cynllunio, neu’n cael eu hadeiladu yn barod (gwelwch rifynnau 12 a 13).
Yn ne Cymru, caiff dinas-ranbarth ei chynnig er mwyn cynnwys 10 o awdurdodau lleol. Byddai’r rhanbarth â’i lleoliad o gwmpas y brifddinas yng Nghaerdydd, ac yn helpu cysylltu Cymoedd De Cymru ag ardal ddinesig Gasnewydd a Chwmbrân. Caiff trafnidiaeth gyhoeddus ei gwella wedi i rwydwaith newydd o fysiau, trenau, tramiau a thrafnidiaeth dram cyflym gael adeiladu; a chaiff ei enwi'n Fetro De Cymru.
Llun: SW Metro - Llywodraeth Cymru © Crown copyright 2016 o dan Drwydded Llywodraeth Agored v3.0
Bydd cynllun Dinas-Ranbarth Caerdydd yn costio £1.2 biliwn o arian cyhoeddus. Mae gwelliant o’r brif linell rhwng Abertawe a Llundain Paddington gwerth £5 biliwn ar y gweill yn barod. Mae Llywodraeth Cymru wedi prynu Maes Awyr Caerdydd, a fydd yn cael ei wella. Hefyd, mae ymgynghoriad ar y gweill yn trafod cynllun gwerth dros £1 biliwn i adeiladu traffordd osgoi o gwmpas Casnewydd, sydd yn dioddef o dagfa geir bron bob dydd wrth i’r draffordd newid o 8 lôn i 4 lon (yn cynnwys yr ysgwydd galed) er mwyn cael pasio trwy dwnneli drwy fryn lleol.
Gweithgaredd
Defnyddiwch GIS (Geographical Information System – System Wybodaeth Ddaearyddol) fel Google Earth i ddod o hyd i fap o ardal ddinesig (trefi a dinasoedd) a map o ardal wledig (tua’r un maint) rydych yn adnabod yn dda.
1) Lluniwch dabl i restri’r wahanol enghreifftiau o rwydwaith mewnol caled y gwelwch ar y map. Ceisiwch ddod o hyd i o leiaf 12 yn yr ardal ddinesig, ac o leiaf 5 yn yr ardal wledig.
Rhwydwaith Mewnol Caled |
|||
Ardal Ddinesig |
Ardal Wledig |
||
1 |
|
1 |
|
2 |
|
2 |
|
3 |
|
3 |
|
4 |
|
4 |
|
5 |
|
5 |
|
6 |
|
6 |
|
7 |
|
7 |
|
8 |
|
8 |
|
9 |
|
9 |
|
10 |
|
10 |
|
11 |
|
11 |
|
12 |
|
12 |
|
2) Beth oedd yn haws? Dod o hyd i 12 enghraifft o’r ardal ddinesig? Neu ddod o hyd i 5 enghraifft o’r ardal wledig?