Ym mhrif erthygl y rhifyn hwn, fe orffennon ni drwy edrych ar y map hwn.
Llun: Quake epicenters 1963-98 - NASA, DTAM project team © Public Domain
Drwy ddefnyddio mapiau fel hyn, sy’n dangos daeargrynfeydd a llosgfynyddoedd, ynghyd â’r hyn rydyn ni’n gallu gweld ar y tir a syrfeo o dan y moroedd, mae gwyddonwyr wedi datblygu model sy’n helpu i egluro beth sy’n digwydd.
Yr enw ar y model hwn yw’r Model o’r Platiau Tectonig.
Mae’r model hwn yn rhannu haenau uchaf, oerach ac anhyblyg y ddaear yn ddarnau o’r enw platiau tectonig. Gydag amser, mae’r rhain yn symud ac mae hyn yn helpu i egluro ble mae mwyafrif y daeargrynfeydd pwerus yn digwydd ynghyd â lleoliad mwyafrif y llosgfynyddoedd.
Llun: Plates tect2 en - USGS © Public Domain
Gallwch chi weld y prif blatiau tectonig ar y map uchod - maen nhw’n edrych fel darnau o jig-so.
Dolen CA3: Perygl Llosgfynydd! - Cliciwch isod
Llun: EurasianPlate - Alataristarion © Wikimedia Commons dan Creative Commons Attribution-Share Alike 4.0 International
Llun: Motion of Nubia Plate - Rollingfrenzy © Wikimedia Commons dan Creative Commons Attribution-Share Alike 4.0 International
Mae’r Eidal rhwng y prif blât anferth - y Plât Affricanaidd, (a’r Micro-blat Adriatig (a dorrodd i ffwrdd o’r Plât Affricanaidd)) - a’r plât mawr, sef y Plât Ewrasaidd.
Llun: Adriatic Plate - Eric Gaba (Sting) / NASA © Public Domain
Mae’r platiau tectonig wedi bod yn symud ers miliynau o flynyddoedd, ers i gyfandir anferth o’r enw Pangaea ddechrau rhannu’n ddarnau 200-180 miliwn o flynyddoedd yn ôl.
Mae’r platiau tectonig yn cynnwys creigiau anhyblyg ac oerach y gramen a’r fantell allanol. Gair y gwyddonwyr am yr haen anhyblyg hon yw’r Lithosffer.
Mae creigiau’r fantell fewnol, sydd o dan y lithosffer, yn ddigon poeth i fedru llifo.
Image: Oceanic spreading - Surachit © Wikimedia Commons under Creative Commons Attribution-Share Alike 3.0 Unported
Trïwch feddwl am y ddwy haen hyn fel toffi - mae’r haen anhyblyg yn debyg i doffi mewn oergell: mae’n ddigon caled i’w dorri gyda’ch dannedd ond os rhowch chi’r toffi mewn lle cynnes am rai oriau, bydd yn troi’n feddal.
Mae craidd y Ddaear yn boeth iawn ac mae’r gwres hwn yn symud allan i wyneb y ddaear. Un ffordd o wneud hyn yw drwy ddarfudiad anferth y ceryntau yng nghreigiau meddalach y fantell (mae pethau cynnes yn codi ac mae pethau oerach yn disgyn).
Mae’r ceryntau hyn yn y fantell yn tynnu’r Platiau Tectonig sydd uwchben.
Mae ffiniau gwahanol yn y mannau lle maen nhw’n cyfarfod â’i gilydd ac mae hyn yn arwain at wahanol fathau o losgfynyddoedd, daeargrynfeydd a thirffurfiau.
Llun: Tectonic plate boundaries - Jose F. Vigil. USGS © Public Domain
Defnyddiwch ddiagram tebyg i fap meddwl er mwyn dangos prif bwyntiau’r Model o’r Platiau Tectonig.