35

Trosolwg o’r gwahanol fathau o ffiniau platiau

Gwahanol fathau o ffiniau platiau

Llun: Tectonic plate boundaries - Jose F. Vigil. USGS © Public Domain

Yn erthygl gysylltiol 2, dechreuon ni feddwl am y gwahanol fathau o ffiniau sy’n bodoli lle mae’r platiau tectonig yn cyfarfod â’i gilydd. Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n edrych arnyn nhw’n fanylach. 

Cofiwch strwythur y ddaear: mae’r platiau anhyblyg (y gramen a’r fantell allanol) yn symud ar geryntau darfudiad sy’n digwydd yng nghreigiau poethach a meddalach y fantell fewnol islaw iddyn nhw.

 

Llun: Earth-crust-cutaway-english - Jeremykemp © Public Domain

Termau gwahanol

Mae’n bosib fod gan leoedd tebyg dermau gwahanol i ddisgrifio’r un prosesau. Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n ceisio rhoi’r prif dermau sy’n cael eu defnyddio ynghyd â’u hystyr.

Ffin ddargyfeiriol

Pan fydd dau blât yn symud oddi wrth ei gilydd, bydd gan y ffin un o dri enw fel arfer:

  • Ffin ddargyfeiriol (ystyr dargyfeirio yw symud i gyfeiriad gwahanol).
  • Ffin dyniannol (mae tyniant yn tynnu ar led).
  • Ffin adeiladol (gan fod deunydd cramennol newydd yn gallu cronni yma).

Llun: Continental-continental constructive plate boundary - domdomegg © Wikimedia Commons dan Creative Commons Attribution-Share Alike 4.0 International

Mae Cefnen Canol y Môr Iwerydd yn enghraifft dda o ffin ddargyfeiriol.

Mae Cefnen Canol y Môr Iwerydd yn gorwedd rhwng Plât Gogledd America a’r Plât Ewrasiaidd yng Ngogledd y Môr Iwerydd a rhwng Plât De America a’r Plât Affricanaidd yn Ne y Môr Iwerydd.

Mae’r pellter rhyngddyn nhw yn cynyddu ar gyflymder o tua 5-7cm y flwyddyn.

Yng Ngogledd y Môr Iwerydd, mae creigiau folcanig y gefnen wedi gwthio uwchlaw wyneb y môr ac wedi ffurfio Ynys yr Iâ.

Llun: Iceland Mid-Atlantic Ridge Fig16 - USGS © Public Domain

Enghraifft dda arall o ffin dyniannol yw’r man lle mae Dwyrain Affrica yn cael ei thynnu ar led gan geryntau oddi tani. Bydd hyn yn creu dyffryn ‘hollt’ newydd a fydd yn creu cefnfor newydd yn ystod yr ychydig filiynau o flynyddoedd nesaf.

Llun: EAfrica - USGS © Public Domain

Wrth i’r plât gael ei wthio i fyny a’i dynnu ar led, mae’r mannau gwan yn torri, sef ffawt normal. Wrth i’r plât gael ei dynnu ar led ymhellach, mae blociau’n suddo i lawr ar hyd y ffawtiau normal hyn gan achosi dyffrynnoedd hollt sy’n cael eu gwahanu gan flociau. 

Meddyliwch amdano fel hyn:

  1. Mae cerrynt esgynnol yn y fantell yn gwthio haenau uwchben i fyny ac mae hyn yn ffurfio cefnen sy’n filoedd o fetrau o uchder.
  2. Mae ffawtiau yn cael eu ffurfio gan y creigiau sy’n torri wrth iddyn nhw gael eu gwthio i fyny
  3. Mae’r ceryntau’n tynnu haenau’r wyneb ar led.
  4. Mae blociau’n disgyn rhwng y ffawtiau ac yn ffurfio dyffrynnoedd hollt.

 

Llun: Fault-Horst-Graben - USGS / Gregors © Public Domain

Yn y llun hwn o Ddwyrain Affrica, mae’r dyffrynnoedd hollt yn cael eu llenwi gan lynnoedd. Gallwch chi weld llinellau’r ffawtiau normal yn glir.

Llun: Albertine Rift, East African Rift (artificial rendering) - Christoph Hormann © Wikimedia Commons dan Creative Commons Attribution-Share Alike 3.0 Unported

Maes o law, bydd môr newydd, ac yna cefnfor, yn cael ei greu ble mae’r llynnoedd ar hyn o bryd.

Mae llosgfynyddoedd yn digwydd ar ffiniau tyniannol oherwydd wrth i greigiau’r fantell godi, mae’r pwysedd arnyn nhw o’r haenau uwchben yn lleihau.

Wrth i’r pwysedd leihau, mae tua 10% o greigiau’r fantell yn toddi ac yn ffurfio magma sy’n cynnwys llawer o silica a magnesiwm.

Mae’r magma yn gwthio’i ffordd ar hyd y ffawtiau a’r craciau er mwyn cyrraedd yr wyneb ac yn troi’n lafa ac yn gramen newydd.

Yr enw ar y creigiau newydd hyn weithiau yw cramen gefnforol oherwydd maen nhw’n ffurfio o dan y cefnforoedd a’r moroedd fel arfer.

Mae cramen gefnforol yn oeri’n gyflym oherwydd y dŵr. Mae craciau ynddi sy’n llenwi â dŵr y môr.

Mae’r mineralau sy’n ffurfio cramen gefnforol yn llawer mwy trwchus nag mewn unrhyw greigiau eraill sydd ar yr wyneb.

Ffin gydgyfeiriol 

Pan fydd dau blât yn symud gyda’i gilydd, bydd gan y ffin un o’r tri enw hyn fel arfer:

  • Ffin gydgyfeiriol (ystyr cydgyfeirio yw symud gyda’i gilydd).
  • Ffin gywasgol (mae cywasgu’n gwthio at ei gilydd).
  • Ffin ddinistriol (oherwydd bod deunydd cramennol yn gallu toddi yma). 

Os bydd un o’r platiau’n cynnwys cramen gefnforol, gellir ei wthio i lawr i’r fantell, a bydd rhannau ohono’n toddi.

Llun: Continental-continental destructive plate boundary - domdomegg © Wikimedia Commons dan Creative Commons Attribution-Share Alike 4.0 International

Fel arfer, mae cramen gefnforol yn ffurfio ar ffiniau tyniannol (mae rhai’n ffurfio mewn mannau problemus yn y fantell, sy’n gallu creu llosgfynyddoedd fel sydd yn Hawaii).

Llun: Oceanic-oceanic convergence - USGS © Public Domain

Pan fydd dau blât sy’n cynnwys cramen gefnforol yn cael eu gwthio at ei gilydd, bydd un ohonyn nhw’n cael ei orfodi i symud i lawr i mewn i’r fantell. Y gair am hyn yw islithriad.

Pan fydd islithriad yn digwydd, bydd ffos ddofn yn cael ei ffurfio wrth i haenau’r wyneb gael eu llusgo i lawr. 

Mae llawer o graciau yn y gramen gefnforol ac maen nhw’n llawn dŵr y môr. 

Mae dŵr y môr yn gostwng pwynt toddi rhai o’r mineralau ac mae hyn yn gwneud iddyn nhw doddi a ffurfio magma. 

Mae’r magma yn llai trwchus na haenau’r creigiau cyfagos felly mae e’n codi ac yn oeri. 

Mae’r magma hwn yn wahanol i gramen gefnforol gan ei fod yn cynnwys llawer o silica ac alwminiwm (yn lle magnesiwm) a bydd yn ffurfio mathau o greigiau o’r enw cramen gyfandirol.

Mae cramen gyfandirol yn llai trwchus o lawer na chramen gefnforol ac mae hyn yn golygu na fydd yn gallu suddo’n ôl i mewn i’r fantell (islithro).

Llun: Active Margin - Booyabazooka © Public Domain

Pan fydd plât sy’n cynnwys cramen gefnforol yn cael ei orfodi i mewn i blât sy’n cynnwys cramen gyfandirol, bydd y gramen gefnforol yn cael ei gwthio i lawr i’r fantell (islithriad). Mae hyn yr un peth â’r enghraifft uchod. 

Bydd magma yn cael ei ffurfio yn yr un ffordd ond wrth iddo godi bydd yn dechrau amsugno’r gramen gyfandirol sydd drosto. Mae hyn yn creu magma trwchus, gludiog iawn ac mae hwn yn ffrwydrol os bydd yn cyrraedd yr wyneb (mae’n troi’n lafa). 

Bydd y creigiau cyfandirol sy’n ei orchuddio yn cael eu plygu a’u gwthio i fyny a bydd hyn yn creu mynyddoedd plyg.

Mae enghraifft wych o hyn ar hyd ymyl gorllewinol Plât De America.

Yn y llun lloeren, gallwch chi weld y lliw glas tywyll sy’n dangos y ffos.

Mae’r lliwiau cochlyd yn dangos Mynyddoedd yr Andes.

Llun: Peru-Chile trench - Interiot~commonswiki © Public Domain

Yr Andes yw’r gadwyn hiraf o fynyddoedd cyfandirol yn y byd. Maen nhw tua 7,000 km o hyd.

Uchder y mynyddoedd, ar gyfartaledd, yw tua 4,000 metr. Enw’r mynydd uchaf yw Acongagua, sy’n 6,961 metr. Hwn yw’r mynydd uchaf y tu allan i fynyddoedd Himalaia.

Llun: Aconcagua (aerial) - Beatriz Moisse © Wikimedia Commons dan Creative Commons Attribution-Share Alike 3.0 Unported

Mae’r Andes yn ymestyn o’r gogledd i’r de, drwy saith o wledydd De America: Feneswela, Colombia, Ecwador, Periw, Bolifia, Chile a’r Ariannin.

Llun: Continental-continental convergence - USGS © Public Domain

Pan fydd dau blât sy’n cynnwys cramen gyfandirol yn gwrthdaro, maen nhw’n llawer llai trwchus na chreigiau’r fantell sydd oddi tanyn nhw, felly dydyn nhw ddim yn gallu islithro

O ganlyniad, mae’r creigiau’n cael eu plygu a’u gwthio i fyny ac mae hyn yn creu cadwyn o fynyddoedd plyg fel mynyddoedd Himalaia. Yr enw ar y cyfnod o adeiladu mynydd yw orogeni (allwch chi weld y gair hwn yn erthygl 2?).

Llun: Himalayas - NASA © Public Domain

Mae mynyddoedd Himalaia yn rhuban o fynyddoedd rhwng is-gyfandir India a China yn y de a’r Plât Ewrasiaidd yn y Gogledd.

Llun: Himalayas Map - Sven Manguard © Public Domain

Cafodd mynyddoedd Himalaia eu ffurfio pan symudodd y Plât Indiaidd tua’r gogledd a tharo’r Plât Ewrasiaidd. Mae hyn yn parhau i ddigwydd heddiw, felly mae’r mynyddoedd yn parhau i ffurfio.

Llun: India 71-0 Ma - Mourmine / http://comp1.geol.unibas.ch/zanskar/ © Wikimedia Commons

Ffin gadwrol

Pan na fydd y platiau’n cydsymud neu’n symud ar wahân, yr enw ar y ffin rhyngddyn nhw yw naill ai ffin gadwrol neu ffin oddefol.

Os ydyn nhw’n symud mewn cyfeiriadau gwahanol, gellir eu galw’n ffawt trawsffurfiol.

Llun: Continental-continental conservative plate boundary opposite directions - domdomegg © Wikimedia Commons dan Creative Commons Attribution-Share Alike 4.0 International

Mae prif nodweddion y math hwn o ffin yn fach o’u cymharu â’r mathau eraill o ffin. Fodd bynnag, mae rhai daeargrynfeydd pwerus yn gallu digwydd yno, felly mae’n bwysig gwybod ble maen nhw.

© H. H. Khan

© Bozeman Science

Gweithgaredd myfyrwyr

Defnyddiwch y daflen adnoddau er mwyn gwneud diagram ar gyfer pob un o’r prif fathau o ffiniau platiau. 

Eglurwch beth sy’n digwydd naill ai gyda rhestr o fwledi neu gydag anodiadau ar y diagram ac o’i gwmpas. 

Ar ôl darllen y tair erthygl a gwneud y gweithgareddau, defnyddiwch y daflen A3 i’ch helpu chi i wneud ymarfer gwneud penderfyniadau ar beryglon tectonig. Byddwch chi’n gorffen yr ymarfer yn rhifyn nesaf Daearyddiaeth yn y Newyddion.

Top

Mwy o’r rhifyn yma...

Ymchwilio i’r daeargryn yn yr Eidal, 2016

Ymchwilio i’r daeargryn yn yr Eidal, 2016

Trosolwg o Fodel y Platiau Tectonig

Trosolwg o Fodel y Platiau Tectonig