35

Ymchwilio i’r daeargryn yn yr Eidal, 2016

Investigating the 2016 Italy Earthquake

 

BBC Video (15 mins)

© British Broadcasting Corporation (BBC)

Gweithgareddau disgyblion

  • Fel dosbarth, gwyliwch y clip fideo y bydd eich athro/athrawes yn ei ddewis.
  • Ysgrifennwch ffeithiau pwysig wrth i chi wylio’r darn.
  • Mewn grŵp bach, penderfynwch pa 5 ffaith yw’r rhai pwysicaf yn yr eitem newyddion hon yn eich barn chi.

 

Yn y rhifyn hwn a’r rhifyn nesaf o Daearyddiaeth yn y Newyddion, rydyn ni’n mynd i ymchwilio i’r rheswm pam mae rhai nodweddion peryglus fel daeargrynfeydd cryf a llosgfynyddoedd wedi’u lleoli mewn rhanbarthau cul. Mae’r Eidal yn gorwedd ar hyd un o’r rhanbarthau hyn.

Llun: Italy relief location map - Eric Gaba/Sting & NordNordWest © Wikimedia Commons dan Creative Commons Attribution-Share Alike 3.0 Unported

Lawrlwytho'r Map - Cliciwch isod

Ar Awst 24ain 2016, yn ystod oriau mân y bore, pan oedd bron pawb dal yn y gwely, bu daeargryn yng nghanolbarth yr Eidal. 

Mae’r ardal a gafodd ei heffeithio yn y Mynyddoedd Apinaidd, sef cadwyn o fynyddoedd a elwir weithiau yn asgwrn cefn yr Eidal. 

Roedd uwchganolbwynt y daeargryn ger Accumoli, ac roedd ei darddiad neu ei hypoganolbwynt tua 4km o ddyfnder. Daeargryn bas iawn oedd hwn.

Llun: Epicentre Diagram - Ansate / Sam Hocevar © Wikimedia Commons dan Creative Commons Attribution-Share Alike 1.0 Generic

Ar ddechrau mis Medi, 2016, rydym yn gwybod bod 295 o bobl wedi cael eu lladd ond mae’r ffigur hwn yn debygol o godi. Yn ogystal, cafodd 396 o bobl eu hanafu’n ddifrifol o ganlyniad i’r daeargryn.

Llun: Shakemap Earthquake 24 Aug 2016 Italy - United States Geological Survey © Public Domain

Lawrlwytho'r Map - Cliciwch isod

  • Mae daeargryn yn digwydd pan fydd creigiau’r ddaear yn symud.
  • Mae creigiau’n symud ar hyd llinell wan o’r enw ffawt.
  • Mae’r symud hwn yn rhyddhau egni sy’n symud allan fel crychdonnau ar lyn pan fyddwch chi’n taflu carreg i mewn iddo.
  • Yr enw ar y man o fewn y ddaear lle mae’r creigiau’n symud yw’r tarddiad neu’r hypoganolbwynt).
  • Yr enw ar y man ar wyneb y ddaear uwchben y tarddiad/hypoganolbwynt yw’r uwchganolbwynt.
  • Pan fydd tonnau’r egni yn cyrraedd yr uwchganolbwynt, maen nhw’n ymestyn allan ar hyd yr wyneb ar ffurf tonnau wyneb; yn union fel crychdonnau ar lyn.
  • Mae’r tonnau wyneb yn ysgwyd y ddaear ac maen nhw'n gallu achosi difrod difrifol.
  • Mae graddfa’r ysgwyd yn dibynnu ar y canlynol:
    • Cryfder y daeargryn; mae hyn yn cael ei achosi gan:
      • Pa mor fawr yw’r graig sy'n symud ar hyd y ffawt
      • Pa mor bell mae’r graig yn symud ar hyd y ffawt
      • Am sawl eiliad mae’r graig yn symud.
    • Dyfnder y daeargryn

Roedd daeargryn yr Eidal yn mesur 6.2 ar raddfa maintioli’r moment fodern, sy’n mynd o 1 i 9.5 (hyd yma); felly, nid oedd yn daeargryn cryf. Fodd bynnag, roedd yn un bas iawn (tua 4km), felly cyrhaeddodd bron holl egni’r daeargryn wyneb y ddaear. Parodd y symudiad yn hir hefyd (dros 20 eiliad), felly parodd yr ysgwyd am amser hir.

Graddfa Maintioli Moment Daeargrynfeydd

Mae gwyddonwyr wedi bod yn mesur daeargrynfeydd drwy ddefnyddio graddfa maintioli moment ers y 1970au. Yn anffodus, fodd bynnag, mae llawer o sianelau newyddion, papurau newydd a hyd yn oed rai athrawon yn gwneud y camgymeriad o ddweud bod y graddfeydd hyn ar Raddfa Richter. Cafodd graddfa Richter ei datblygu yn y 1930au ac mae’n wahanol iawn i’r raddfa maintioli moment ar gyfer daeargrynfeydd sydd o dan faintioli 6.

Mae’r raddfa maintioli moment a graddfa Richter yn eitha tebyg wrth fesur daeargrynfeydd y tu hwnt i lefel 6.

Mae graddfa maintioli moment yn newid lefel wrth i lefel yr egni sy’n cael ei ryddhau fod yn 32 gwaith yn fwy na’r lefel flaenorol.

Mae Lefel 4 yn cyfateb i’r egni sy’n cael ei ryddhau gan 1 kilodunnell o danchwa niwclear neu 1 dunnell fetrig (1000 kg) o’r ffrwydryn ffyrnig, TNT.

Felly mae Lefel 5 yn 32 gwaith cryfach na lefel 4, sy’n cyfateb yn fras i’r egni sy’n cael ei ryddhau gan 32 tunnell o TNT. Mae lefel 6 yn 32X32 = 1024 tunnell o TNT.

Y daeargryn mwyaf i gael ei gofnodi oedd yr un yn Chile ym 1960, a oedd yn mesur 9.5.

Tref Amatrice yn yr Eidal, cyn ac ar ôl y daeargryn yn 2016.

Llun: Amatrice - Corso - Mario1952 © Wikimedia Commons dan Creative Commons Attribution-Share Alike 3.0 Unported

Llun: 2016 Amatrice earthquake - Corso - Leggi il Firenzepost © Wikimedia Commons dan Creative Commons Attribution-Share Alike 3.0 Unported

Cenedligrwydd y dioddefwyr

  • Digwyddodd y daeargryn pan oedd y rhan fwyaf o bobl yn y gwely.
  • Mae’r ardal hon yn boblogaidd gydag ymwelwyr sy’n hoffi aros mewn hen filas (tai) yn y Mynyddoedd Apinaidd.
  • Roedd yr adeiladau yn yr ardal i fod i gael eu codi neu eu haddasu yn ôl safonau penodol a fyddai’n eu galluogi nhw i wrthsefyll daeargrynfeydd. Pasiwyd deddf yn yr Eidal ym 1974 ar gyfer hyn. Fodd bynnag, bu farw pobl oherwydd na chafodd y gwaith ei wneud i’r safonau a nodir gan y ddeddf. Mae’n bosib nad oedd ysgol a gafodd ei chodi yn 2012 yn cyrraedd y safonau hyd yn oed. Mae llysoedd yr Eidal yn ymchwilio i’r materion hyn eisoes. 

Pasiodd awdurdodau’r Eidal ddeddf wrthseismig ym 1974 sy’n egluro holl dechnegau adeiladu adeilad sy’n gallu gwrthsefyll daeargrynfeydd.

Llun: Quake epicenters 1963-98 - NASA, DTAM project team © Public Domain

Edrychwch ar y map uchod, sy’n dangos daeargrynfeydd unigol ar ffurf dotiau bach. Dim ond daeargrynfeydd sydd wedi digwydd rhwng 1963 a 1998 sydd arno. Mae’n amhosib gweld yr Eidal o dan yr holl ddotiau! 

Roedd gwyddonwyr a oedd yn edrych ar y map hwn yn gwybod y byddai daeargryn yn digwydd yn yr Eidal; rydyn ni’n mynd i ddarganfod pam yn yr erthyglau cysylltiol.

 

Gweithgaredd Myfyrwyr

Y ‘5 pwysicaf’

Yn y gweithgaredd ‘5 pwysicaf’, rydych chi’n mynd i:

  1. Sganio’r erthygl a nodi’n fras y 5 ffaith bwysicaf yn eich barn chi i’w rhannu mewn eitem newyddion ar gyfer y BBC
  2. Trafod mewn grŵp bach a phenderfynu pa rai fyddai’r 5 ffaith bwysicaf i’w rhannu mewn eitem newyddion ar gyfer y BBC
  3. Rhannu’r rhain gyda’r dosbarth er mwyn creu sesiwn syniadau fel dosbarth.

Ymarfer gwneud penderfyniadau

Rydyn ni’n mynd i wneud rhywbeth gwahanol yn y rhifyn hwn a’r rhifyn nesaf, sef gwneud ymarfer gwneud penderfyniadau i beryglon tectonig yn y ddau rifyn. 

Dechreuwch eich ymarfer gwneud penderfyniadau drwy wneud y gweithgareddau sydd ar y daflen gweithgareddau A3.

Mae’r adnodd hwn wedi cael ei gynllunio i’w ddefnyddio gyda’r dosbarth cyfan o du blaen y dosbarth ar brojector/bwrdd gwyn rhyngweithiol.

Dylai’r athro roi eglurhad ar y delweddau amrywiol, gan seilio’r sylwadau ar y testun. Ni fydd modd i fwyafrif llethol y disgyblion ddarllen y testun cyfan o fewn yr amser sydd ar gael.

Yn ddelfrydol, dylai’r disgyblion gael mynediad i’r adnodd ar-lein er mwyn gweithio ar y daflen gweithgareddau (dylid argraffu hon ar bapur A3).

Yn ddelfrydol, dylid rhoi cefnogaeth ar gyfer y gweithgareddau hyn, sef ystafell rwydwaith, llechi/gliniaduron neu ffonau/dyfeisiau’r disgyblion eu hunain, os caniateir y rhain.

Fodd bynnag, mae’r gweithgareddau wedi cael eu cynllunio ar gyfer eu defnyddio mewn gwers arferol, sef un awr, gyda’r athro’n defnyddio’r adnodd yn nhu blaen yr ystafell ddosbarth ochr yn ochr â’r daflen adnoddau.

Yna, gellid rhoi gwaith cartref i’r disgyblion, sef astudio’r tair erthygl cyn y wers nesaf.

Mae’r adnodd a’r daflen gysylltiedig wedi cael eu cynllunio fel eu bod yn cefnogi’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd, gan roi i ddisgyblion wybodaeth ddaearyddol allweddol mewn perthynas â’r lleoedd sy’n gysylltiedig â’r argyfwng sy’n ymwneud â dadleoli gorfodol yn y Daeargryn yr Eidal.

Darllenwch a chwblhewch y gweithgareddau yn yr erthygl ar-lein ac yn yr erthyglau cysylltiedig yn y rhifyn hwn o Daearyddiaeth yn y Newyddion – naill ai yn yr ystafell ddosbarth neu gartref. Ceisiwch orffen yr holl weithgareddau sydd ar y daflen adnoddau.

Beth fyddwch chi’n ei ddysgu:

  • Byddwch chi’n cynyddu eich gwybodaeth am broblemau yn y Daeargryn yr Eidal.
  • Byddwch chi’n cynyddu eich dealltwriaeth o’r ffordd mae’r ffactorau hyn yn gallu  effeithio ar bobl ac ar weithgareddau pobl.
  • Byddwch chi’n cael cyfle i ddysgu neu ymarfer sgiliau llythrennedd a rhifedd pwysig. 

Byddwch chi’n dysgu ymadroddion daearyddol newydd, wedi’u goleuo mewn porffor. Dylech chi ddysgu’r rhain a’u cynnwys mewn geirfa. Rhestr o eiriau a’u hystyr yw geirfa. Gallech chi gael un yng nghefn eich llyfr ysgrifennu daearyddiaeth. Os oes gyda chi gynlluniadur, mwy na thebyg bod lle da yn hwnnw ar gyfer cadw geirfa neu gallech chi gadw llyfr geirfa ar wahân. Mae geirfa dda yn eich helpu chi i ddatblygu eich geirfa a’ch llythrennedd. Chwiliwch am ystyr geiriau drwy ddefnyddio gweddill cynnwys yr erthygl, drwy drafod neu defnyddiwch eiriadur (naill ai ar-lein neu lyfr).

Top

Mwy o’r rhifyn yma...

Trosolwg o Fodel y Platiau Tectonig

Trosolwg o Fodel y Platiau Tectonig

Trosolwg o’r gwahanol fathau o ffiniau platiau

Trosolwg o’r gwahanol fathau o ffiniau platiau