35

Trosolwg o Fodel y Platiau Tectonig

Trosolwg o Fodel y Platiau Tectonig

Ym mhrif erthygl y rhifyn hwn, fe orffennon ni drwy edrych ar y map hwn.

Llun: Quake epicenters 1963-98 - NASA, DTAM project team © Public Domain

Drwy ddefnyddio mapiau fel hyn, sy’n dangos daeargrynfeydd a llosgfynyddoedd, mae gwyddonwyr wedi datblygu model sy’n helpu i egluro beth sy’n digwydd.

Yr enw ar y model hwn yw Model y Platiau Tectonig.

Mae’r model yn rhannu haenau oerach, caled, uchaf y ddaear yn ddarnau o’r enw platiau tectonig.

Gydag amser, mae’r rhain yn symud ac mae hyn yn helpu i egluro ble mae mwyafrif y daeargrynfeydd a’r llosgfynyddoedd yn digwydd.

Llun: Plates tect2 en - USGS © Public Domain

Gallwch chi weld y prif blatiau tectonig ar y map uchod - maen nhw’n edrych fel darnau o jig-so.

Dolen CA2: Perygl Llosgfynydd! - Cliciwch isod

Yr Eidal a'r platiau tectonig o'i chwmpas

Llun: EurasianPlate - Alataristarion © Wikimedia Commons dan Creative Commons Attribution-Share Alike 4.0 International

Mae’r Plât Affricanaidd yn symud tua’r gogledd ac i mewn i’r Plât Ewrasaidd

Llun: Motion of Nubia Plate - Rollingfrenzy © Wikimedia Commons dan Creative Commons Attribution-Share Alike 4.0 International

Mae’r Eidal rhwng y prif blât anferth – y Plât Affricanaidd – a’r plât mawr, sef y Plât Ewrasaidd.

Llun: Adriatic Plate - Eric Gaba (Sting) / NASA © Public Domain

Mae’r platiau tectonig wedi bod yn symud ers miliynau o flynyddoedd, ers i gyfandir anferth o’r enw Pangaea ddechrau rhannu’n ddarnau 200-180 miliwn o flynyddoedd yn ôl.

Mae’r platiau tectonig yn cynnwys creigiau anhyblyg ac oerach y gramen a’r fantell allanol. 

Mae creigiau’r fantell fewnol yn ddigon poeth i fedru llifo.

 

Meddyliwch am y ddwy haen hyn fel toffi:

  • mae’r haen anhyblyg yn debyg i doffi mewn oergell: mae’n ddigon caled i’w dorri gyda’ch dannedd.
  • mae’r haen feddal fel toffi rydych chi’n ei roi mewn lle cynnes (fel poced trowsus) am rai oriau.

Mae craidd y Ddaear yn boeth iawn ac mae’r gwres hwn yn symud allan i wyneb y ddaear. Un ffordd o wneud hyn yw drwy ddarfudiad (mae pethau cynnes yn codi ac mae pethau oerach yn disgyn) anferth y ceryntau yng nghreigiau meddalach y fantell. 

Mae’r ceryntau hyn yn y fantell yn tynnu’r Platiau Tectonig sydd uwchben.

Mae ffiniau gwahanol yn y mannau lle maen nhw’n cyfarfod â’i gilydd ac mae hyn yn arwain at wahanol fathau o losgfynyddoedd, daeargrynfeydd a thirffurfiau.

Llun: Tectonic plate boundaries - Jose F. Vigil. USGS © Public Domain

Gweithgaredd disgyblion

Defnyddiwch ddiagram tebyg i fap meddwl er mwyn dangos prif bwyntiau Model y Platiau Tectonig.

Top

Mwy o’r rhifyn yma...

Ymchwilio i’r daeargryn yn yr Eidal, 2016

Ymchwilio i’r daeargryn yn yr Eidal, 2016

Trosolwg o’r gwahanol fathau o ffiniau platiau

Trosolwg o’r gwahanol fathau o ffiniau platiau