32

Beth yw’r canlyniadau a beth gallwn ni ei wneud er mwyn lleihau effaith stormydd a llifogydd?

Canlyniadau

Mae canlyniadau stormydd yn ddibynnol i raddau helaeth ar un o ddau beth (neu ar y ddau): gwynt a glawiad.

Aer yn symud o un lle i le arall yw gwynt; mae aer yn symud o leoedd lle mae pwysedd aer uchel i leoedd lle mae pwysedd aer isel. 

Dŵr sydd wedi dod o’r atmosffer i wyneb y ddaear yw glawiad; mae’n cynnwys:

Cynnwys    
Rain Snow Sleet
Drizzle Dew Frost
Fog Mist Rime

undefined

Y prif berygl sy’n gysylltiedig â gwynt cryf yw bod pethau’n cael eu chwythu drosodd. Fel arfer, mae hyn yn cynnwys coed a llinellau trydan. Fodd bynnag, mae gwynt cryf iawn yn gallu achosi difrod i adeiladau, gan chwythu simneiau a darnau o waliau agored i lawr a hyd yn oed godi’r to oddi ar adeiladau. Mae gwrthrychau mawr fel siediau, paneli ffensys a thrampolîns mawr wedi cael eu codi mor uchel ag 20 metr oddi ar y ddaear yn ystod stormydd diweddar yn y DU.

Mae coed, brics a llechi sy’n syrthio yn gallu bod yn beryglus i fywyd pobl ond effaith fwyaf y stormydd yw pan fydd llinellau trydan yn dod i lawr ac mae’r cyflenwad trydan i dai a busnesau’n cael ei dorri.

undefined

Llun: Aftermath of the Great Storm of 1987 - David Wright © Wikimedia Commons dan Creative Commons Attribution 2.0 Generic

Y risg fwyaf yn sgil glawiad yw llifogydd ar ôl glaw trwm. Mae llifogydd yn gallu effeithio’n uniongyrchol drwy lifo i mewn i adeiladau ac maen nhw’n gallu achosi effaith eilaidd wrth i ddŵr y llifogydd achosi mwy o erydiad, gan gario adeiladau a phontydd i ffwrdd ac achosi tirlithriadau. 

Mae risgiau gwahanol yn dod gydag eira a rhew gan eu bod nhw’n gallu rhwystro pobl rhag teithio ac arwain at lithro, syrthio a damweiniau traffig. Mae damweiniau traffig yn gyffredin pan fydd niwl hefyd a phan fydd niwlen weithiau ac maen nhw’n gallu amharu ar deithio, yn enwedig teithio yn yr awyr.

Pwy sy’n gyfrifol am amddiffyn rhag llifogydd?

Yr ateb syml yw pawb. Byddai’r rhan fwyaf o bobl yn dweud mai’r llywodraeth neu’r cyngor sy’n gyfrifol ond CHI sy’n gyfrifol am eich diogelwch CHI yn ogystal â’ch rhieni ac aelodau eraill o’ch teulu. 

Mae gan y llywodraethau o fewn y DU rôl i’w chwarae sy’n cael ei gweithredu drwy asiantaethau fel Cyfoeth Naturiol Cymru yng Nghymru ac Asiantaeth yr Amgylchedd yn Lloegr. Mae gan gynghorau lleol rôl i’w chwarae hefyd ond y person pwysicaf yw chi

Pan fyddwn ni’n meddwl am baratoi ar gyfer llifogydd, rydyn ni’n meddwl am gynlluniau mawr, drud fel yr un hwn yng Nghaerefrog, yr un a fethodd yn ystod Nadolig 2015 gan achosi llifogydd eang.

undefined

Yma, mae’r cyngor lleol yn rhoi sachau tywod ar gyfer adeiladu rhwystr dros dro ac mae pobl leol yn cael eu helpu gan aelodau o’r fyddin i’w rhoi yn eu lle.

undefined

Mae’n bwysig iawn cadw afonydd a nentydd yn glir. Yma, rydyn ni’n gallu gweld gweithwyr y llywodraeth yn gwneud hyn ond mae’r afon yn perthyn i berchnogion y tir ar naill ochr glan yr afon neu’r nant ac felly mae ganddyn nhw gyfrifoldebau cyfreithiol.

undefined

 

undefined

Sut gallwn ni baratoi ar gyfer llifogydd?

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn dweud: 

Gwiriwch eich perygl o lifogydd ar fap perygl llifogydd Cyfoeth Naturiol Cymru. Gallwch chi gael gwybodaeth am y tebygolrwydd y bydd llifogydd o afonydd a’r môr yn eich ardal chi ar y map llifogydd. Dyma’r un wybodaeth â’r wybodaeth sydd ar gael i gwmnïau yswiriant.

Cyfoeth Naturiol Cymru - Cliciwch isod

undefined

Chwiliwch am eich ysgol a’ch cartref ar y map a defnyddiwch haenau gwahanol arno er mwyn gwirio’r perygl o lifogydd. 

Os ydych chi mewn perygl, mae llawer o bethau gallwch chi eu gwneud er mwyn paratoi cyn i’r llifogydd ddod, gan gynnwys:

  • Paratowch gynllun ar gyfer llifogydd gan ddefnyddio un o’r templedi.
  • Ewch i dudalen Facebook Cyfoeth Naturiol Cymru ar Ymwybyddiaeth o Lifogydd  er mwyn cael rhagor o wybodaeth i’ch helpu chi i baratoi am lifogydd ac i adfer y  sefyllfa wedyn.
  • Y Fforwm Cenedlaethol ar Lifogydd - mae’r Blue Pages Directory yn gyfarwyddiadur annibynnol sy’n ymwneud â nwyddau a gwasanaethau sy’n gysylltiedig â llifogydd.
  • Gwnewch yn siŵr  eich bod yn gwybod ystyr y cod llifogydd a beth i’w wneud os byddwch yn derbyn rhybudd.
  • Edrychwch ar y rhybuddion o lifogydd sydd mewn grym ar hyn o bryd.
  • Cofrestrwch er mwyn derbyn rhybuddion o lifogydd dros y ffôn, drwy neges testun neu neges e-bost am ddim.

Cyfoeth Naturiol Cymru - Cliciwch isod

undefined

Rhybudd i fod yn barod am lifogydd

undefined

© Cyfoeth Naturiol Cymru

Beth yw ei ystyr?

Mae’n bosib y bydd llifogydd yn digwydd. Byddwch yn barod. 

Pryd bydd hwn yn cael ei ddefnyddio? 

Rhwng dwy awr a dau ddiwrnod cyn y bydd llifogydd yn digwydd.

Beth dylech chi ei wneud?

Byddwch yn barod i weithredu eich cynllun llifogydd.

Casglwch eitemau hanfodol ynghyd.

Cadwch lygad ar lefelau’r dŵr yn lleol a’r rhagolygon am lifogydd ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Rhybudd o lifogydd

undefined

© Cyfoeth Naturiol Cymru

Beth yw ei ystyr? 

Disgwylir llifogydd. Mae angen gweithredu ar unwaith. 

Pryd bydd hwn yn cael ei ddefnyddio? 

Rhwng hanner awr a diwrnod cyn y bydd llifogydd yn digwydd. 

Beth dylech chi ei wneud?

Symudwch eich teulu, eich anifeiliaid a’ch pethau gwerthfawr i le diogel.

Trowch y cyflenwad nwy, trydan a dŵr i ffwrdd os yw’n saff i chi wneud hynny.

Rhowch offer amddiffyn rhag llifogydd yn ei le.

Rhybudd Llifogydd Difrifol

undefined

© Cyfoeth Naturiol Cymru

Beth yw ei ystyr?

Llifogydd difrifol. Perygl i fywyd. 

Pryd bydd hwn yn cael ei ddefnyddio? 

Pan fydd llifogydd yn fygythiad sylweddol i fywyd.

Beth dylech chi ei wneud?

Arhoswch mewn man diogel lle mae ffordd o ddianc.

Byddwch yn barod i adael eich cartref.

Cydweithredwch gyda’r gwasanaethau brys.

Ffoniwch 999 os ydy’ch bywyd chi mewn perygl uniongyrchol.

Beth i’w wneud yn ystod ac ar ôl llifogydd

Os bydd llifogydd yn digwydd, mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru’n dweud ei bod yn bwysig: 

“canolbwyntio ar eich diogelwch chi a diogelwch eich teulu”. 

Os bydd llifogydd ar fin digwydd, gwnewch y pethau hyn ar unwaith:

  • Os oes gennych chi gynllun llifogydd, dilynwch y camau sydd ynddo.
  • Gwrandewch ar eich gorsaf radio leol ar radio sy’n cael ei bweru gan fatris neu radio weindio.
  • Diffoddwch y trydan / nwy.
  • Symudwch gerbydau os yw’n ddiogel gwneud hynny.
  • Symudwch ddodrefn, anifeiliaid anwes ac eitemau pwysig i le diogel. 

Byddwch yn ymwybodol o lifogydd lleol

Ymadrodd arall am 'llifogydd lleol’ yw 'llifogydd dŵr wyneb’. Mae hyn yn digwydd fel arfer pan nad yw systemau draenio yn gallu delio â chyfnodau o law trwm. Fel arfer, nid yw’n bosib derbyn  rhybudd uniongyrchol am y math hwn o lifogydd.

Defnyddiwch ragolygon llifogydd 

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n rhoi rhagolygon llifogydd ar gyfer Cymru, er, mewn mannau sy’n agos at Loegr, mae’n werth chwilio am rybuddion ar wefan Asiantaeth yr Amgylchedd hefyd. Mae'r wefan hon yn rhoi rhagolygon am dri diwrnod hefyd. 

Mae llifddwr yn beryglus

  • Gall chwe modfedd o ddŵr sy’n llifo’n gyflym eich taro drosodd.
  • Bydd dwy droedfedd o ddŵr yn gwneud i’ch car arnofio.
  • Gall llifogydd ryddhau cloriau tyllau archwilio, gan greu peryglon cudd.
  • Peidiwch â cherdded neu yrru cerbyd trwy lifddwr.
  • Peidiwch â gadael i blant chwarae mewn llifddwr.
  • Peidiwch â cherdded ar amddiffynfeydd môr neu lannau afonydd.
  • Pan fydd lefelau dŵr yn uchel, cofiwch y gall pontydd fod yn beryglus i gerdded neu yrru drostyn nhw.
  • Mae cwlferi yn beryglus adeg llifogydd.
  • Cadwch lygad am beryglon eraill fel llinellau trydan a choed sydd wedi syrthio.
  • Golchwch eich dwylo’n lân os byddwch yn cyffwrdd â llifddwr oherwydd gall fod wedi’i halogi.
  • Gall llifddwr gynnwys carthion, cemegau a gwastraff anifeiliaid.

Cyfoeth Naturiol Cymru - Cliciwch isod

undefined

Gweithgaredd disgyblion

Defnyddiwch y map perygl llifogydd er mwyn:

  1. Asesu eich ysgol o safbwynt y perygl o lifogydd.
  2. Yna, paratowch gynllun llifogydd ar gyfer eich cartref. 

Ar ôl darllen y tair erthygl a gwneud y gweithgareddau, defnyddiwch y daflen A3 er mwyn eich helpu chi i ymchwilio i agweddau gwahanol ar stormydd a sut i amddiffyn rhag eu canlyniadau.

Top

Mwy o’r rhifyn yma...

Ymchwilio i lifogydd yn y Deyrnas Unedig yn ystod y gaeaf?

Ymchwilio i lifogydd yn y Deyrnas Unedig yn ystod y gaeaf?

Ymchwilio i stormydd y gaeaf

Ymchwilio i stormydd y gaeaf