32

Ymchwilio i lifogydd yn y Deyrnas Unedig yn ystod y gaeaf?

Pam mae’r enwau hyn yn arbennig?

Enwau    
Abigail Barney Clodagh
Desmond Eva Frank
Gertrude Henry Imogen
Jake Katie Lawrence
Mary Nigel Orla
Phil Rhonda Steve
Tegan Vernon Wendy

Pam maen nhw wedi bod yn y newyddion yn ystod y gaeaf yma?

© British Broadcasting Corporation (BBC)

Ymchwilio i stormydd sydd wedi cael eu henwi

Yn y rhifyn hwn o Daearyddiaeth yn y Newyddion, rydyn ni’n mynd i ymchwilio i stormydd yn y DU sydd wedi cael eu henwi a gwneud ymarfer gwneud penderfyniadau sy’n seiliedig ar beth gallwn ni ei wneud ar lefel leol er mwyn lleihau effaith y llifogydd mae’r stormydd hyn yn gallu eu hachosi.

Yn y rhifyn diwethaf o Daearyddiaeth yn y Newyddion, edrychon ni ar Gytundeb Paris ar Newid yn yr Hinsawdd a beth gallwn ni ei wneud i leihau effeithiau newid yn yr hinsawdd. Mae’r rhifyn hwn yn dilyn effeithiau newid yn yr hinsawdd yn fanwl wrth i ni ymchwilio i stormydd yn y Deyrnas Unedig a’r llifogydd maen nhw’n gallu achosi.

Ym mis Rhagfyr 2015, disgrifiodd y Fonesig Julia Slingo, Prif Swyddog Gwyddonol y Swyddfa Dywydd sut mae ymchwil ar hyn o bryd yn dangos sut mae stormydd fel y rhai a achosodd lifogydd ar draws ardaloedd eang o’r DU saith gwaith yn fwy tebygol o ddigwydd o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd.

undefined

Llun: Professor Dame Julia Mary Slingo DBE FRS - Royal Society uploader © Wikimedia Commons dan Creative Commons Attribution-Share Alike 4.0 International

Yn ystod gaeaf 2015-2016, dechreuodd cynllun newydd i enwi rhai stormydd yn y DU a Gweriniaeth Iwerddon. Mae’r rheswm dros hyn yn cael ei egluro yn y dyfyniad hwn o’r Swyddfa Dywydd:

Pam rydyn ni’n enwi stormydd? 

“Mae 'Name our storms' yn gynllun peilot rhwng y Swyddfa Dywydd a Met Eirann a’i nod yw cynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd o dywydd difrifol a sicrhau gwell diogelwch ar eu cyfer. 

Yn ystod hydref a gaeaf 2015, bydd stormydd gwynt sydd â’r potensial i effeithio ar y DU a/neu Iwerddon yn cael eu henwi er mwyn cynorthwyo gyda chyfathrebu’n effeithiol am y storm a’i heffaith.”

Cafodd y Swyddfa Dywydd ei sefydlu ym 1854 ac, erbyn hyn, hwn yw’r prif sefydliad gwyddonol sy’n astudio’r tywydd a hinsawdd yn y DU. Mae’n rhan o lywodraeth y DU, sef yr Adran Busnes Arloesi a Sgiliau. Mae’r cynllun i enwi stormydd yn bartneriaeth gyda Met Eirann, sef y sefydliad yng Ngweriniaeth Iwerddon sy’n cyfateb i’r Swyddfa Dywydd yn y DU.

undefined

Llun: Ukmo-exeter-panorama - William M. Connolley © Wikimedia Commons dan Creative Commons Attribution-Share Alike 3.0 Unported

Cynhaliodd y ddau sefydliad gystadlaethau ar gyfryngau cymdeithasol fel Facebook a Twitter er mwyn dewis enwau ar gyfer stormydd a oedd yn dechrau yn hydref 2015. Dyma’r casgliad cyntaf o ‘enillwyr’:

Enwau    
Abigail Barney Clodagh
Desmond Eva Frank
Gertrude Henry Imogen
Jake Katie Lawrence
Mary Nigel Orla
Phil Rhonda Steve
Tegan Vernon Wendy

Nid yw’r llythrennau Q, U, X a Z yn cael eu defnyddio gan nad yw’r llythrennau hyn yn cael eu defnyddio gan systemau eraill sy’n enwi stormydd Y Môr Iwerydd sy’n teithio tua’r gorllewin i wledydd America. Nid yw stormydd sydd wedi cael eu henwi eisoes fel stormydd Môr Iwerydd yn cael enw newydd os byddan nhw’n teithio wedyn i’r Dwyrain tuag at y DU a Gweriniaeth Iwerddon. Fel arfer, yr ymadrodd ar eu cyfer nhw yw ‘cyn-storm …enw… neu cyn-gorwynt … enw … Un enghraifft dda yw Storm Jonas, a achosodd storm anferth o eira yng Ngogledd-ddwyrain UDA ac a adawodd dros 1 metr o eira mewn rhannau o UDA rhwng yr 22ain a’r 24ain o Ionawr. Yna, teithiodd y storm hon yn ôl dros Fôr Iwerydd a tharo Cymru ar 26ain o Ionawr, gan ddod â llawer iawn o law.

undefined

© British Broadcasting Corporation (BBC)

Bwriad y cynllun hwn o enwi stormydd yw gwella cyfathrebu. Drwy enwi stormydd sydd fwyaf tebygol o gael effaith ddifrifol, credir y bydd hi’n haws dweud wrth bobl bod angen iddyn nhw baratoi a gweithredu er mwyn lleihau effaith difrod y gwynt a’r llifogydd arnyn nhw.

Gallai hyn olygu rhywbeth mor hawdd â chlymu neu ddadwneud trampolîn yn yr ardd fel nad yw’n cael ei chwythu drwy’r ffens neu’r ystafell haul yn ystod gwynt cryf, neu gymryd pethau gwerthfawr i fyny’r grisiau fel nad ydyn nhw’n cael eu difrodi gan ddŵr y llifogydd.

Rhwng mis Tachwedd a mis Chwefror, o Storm Abigail i Storm Henry, mae Cymru wedi bod yn lwcus yn ystod Gaeaf 2015-16 achos nid yw wedi cael ei tharo’n uniongyrchol gan stormydd, er bod y tywydd wedi torri sawl record: 

  • Daeth Gertrude â’r gwyntoedd cryfaf i’r DU ers 16 mlynedd.
  • O Hydref 26ain ymlaen, roedd hi’n bwrw glaw’n gyson am 85 diwrnod ym mhentref Eglwyswrw ger Aberteifi oherwydd sawl ffrynt. Roedd hyn yn record i Gymru a dim ond pum diwrnod yn fyr ydoedd o record y DU, a gafodd ei sefydlu yn yr Alban ym 1923.
  • Mis Rhagfyr oedd y mis gwlypaf erioed yn y DU.
  • Mis Tachwedd a mis Rhagfyr gyda’i gilydd oedd y ddau fis gwlypaf erioed.

undefined

Llun: Abigail Nov 12 2015 1155Z - NASA © Wikimedia Commons - Public Domain

Fodd bynnag, trïwch chi ddweud wrth unrhyw un sy’n byw yng Nghymru a gafodd ei effeithio gan lifogydd eu bod nhw wedi bod yn lwcus - fyddan nhw ddim yn hapus! Roedd llawer o ffyrdd Gogledd-orllewin Cymru wedi cael eu cau dros y Nadolig. Roedd miloedd o gartrefi heb drydan a bu llifogydd yng Ngogledd Cymru, gan effeithio’n arbennig ar Bontnewydd, Llanrwst, Llanberis, Tal-y-bont a Biwmares.

© British Broadcasting Corporation (BBC)

 

Gweithgaredd ar gyfer disgyblion

Dychmygwch eich bod chi’n byw ym Montnewydd, Llanrwst, Llanberis, Tal-y-bont neu ym Miwmares a bod y llifogydd wedi effeithio ar eich cartref. 

Gwnewch ymchwil i’r lle rydych chi wedi’i ddewis ac am lifogydd mis Rhagfyr 2015. 

Mae’r BBC yn rhoi cyfweliad i chi ac yn gofyn i chi am eich barn am y ffordd mae’r llifogydd wedi eich gorfodi chi i adael eich cartref am o leiaf chwe mis a mynd i garafán ar barc gwyliau sydd 11 milltir o’ch cartref. Rhaid i chi ddisgrifio sut y bydd hyn yn effeithio ar y canlynol:

  • Bywyd y teulu a’r cartref
  • Bywyd yr ysgol a’ch gwaith ysgol
  • Eich ffrindiau chi
  • Gwnewch gopi drafft o gwestiynau eich cyfweliad a’ch atebion/rhesymau yn gyntaf

 

  • Ysgrifennwch drawsgrif o’ch cyfweliad neu defnyddiwch gyfleusterau awdio er mwyn recordio’ch cyfweliad:
    • Gwnewch gopi drafft o’ch rhesymau yn gyntaf

Mae’r adnodd hwn wedi cael ei gynllunio i’w ddefnyddio gyda’r dosbarth cyfan o du blaen y dosbarth ar brojector/bwrdd gwyn rhyngweithiol.

Dylai’r athro roi eglurhad ar y delweddau amrywiol, gan seilio’r sylwadau ar y testun. Ni fydd modd i fwyafrif llethol y disgyblion ddarllen y testun cyfan o fewn yr amser sydd ar gael.

Yn ddelfrydol, dylai’r disgyblion gael mynediad i’r adnodd ar-lein er mwyn gweithio ar y daflen gweithgareddau (dylid argraffu hon ar bapur A3).

Yn ddelfrydol, dylid rhoi cefnogaeth ar gyfer y gweithgareddau hyn, sef ystafell rwydwaith, llechi/gliniaduron neu ffonau/dyfeisiau’r disgyblion eu hunain, os caniateir y rhain.

Fodd bynnag, mae’r gweithgareddau wedi cael eu cynllunio ar gyfer eu defnyddio mewn gwers arferol, sef un awr, gyda’r athro’n defnyddio’r adnodd yn nhu blaen yr ystafell ddosbarth ochr yn ochr â’r daflen adnoddau.

Yna, gellid rhoi gwaith cartref i’r disgyblion, sef astudio’r tair erthygl cyn y wers nesaf.

Mae’r adnodd a’r daflen gysylltiedig wedi cael eu cynllunio fel eu bod yn cefnogi’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd, gan roi i ddisgyblion wybodaeth ddaearyddol allweddol mewn perthynas â’r lleoedd sy’n gysylltiedig â’r argyfwng sy’n ymwneud â dadleoli gorfodol yn y tywydd a llifogydd.

Darllenwch a chwblhewch y gweithgareddau yn yr erthygl ar-lein ac yn yr erthyglau cysylltiedig yn y rhifyn hwn o Daearyddiaeth yn y Newyddion – naill ai yn yr ystafell ddosbarth neu gartref. Ceisiwch orffen yr holl weithgareddau sydd ar y daflen adnoddau.

Beth fyddwch chi’n ei ddysgu:

  • Byddwch chi’n cynyddu eich gwybodaeth am broblemau yn y tywydd a llifogydd.
  • Byddwch chi’n cynyddu eich dealltwriaeth o’r ffordd mae’r ffactorau hyn yn gallu  effeithio ar bobl ac ar weithgareddau pobl.
  • Byddwch chi’n cael cyfle i ddysgu neu ymarfer sgiliau llythrennedd a rhifedd pwysig. 

Byddwch chi’n dysgu ymadroddion daearyddol newydd, wedi’u goleuo mewn porffor. Dylech chi ddysgu’r rhain a’u cynnwys mewn geirfa. Rhestr o eiriau a’u hystyr yw geirfa. Gallech chi gael un yng nghefn eich llyfr ysgrifennu daearyddiaeth. Os oes gyda chi gynlluniadur, mwy na thebyg bod lle da yn hwnnw ar gyfer cadw geirfa neu gallech chi gadw llyfr geirfa ar wahân. Mae geirfa dda yn eich helpu chi i ddatblygu eich geirfa a’ch llythrennedd. Chwiliwch am ystyr geiriau drwy ddefnyddio gweddill cynnwys yr erthygl, drwy drafod neu defnyddiwch eiriadur (naill ai ar-lein neu lyfr).

Top

Mwy o’r rhifyn yma...

Ymchwilio i stormydd y gaeaf

Ymchwilio i stormydd y gaeaf

Beth yw’r canlyniadau a beth gallwn ni ei wneud er mwyn lleihau effaith stormydd a llifogydd?

Beth yw’r canlyniadau a beth gallwn ni ei wneud er mwyn lleihau effaith stormydd a llifogydd?