32

Ymchwilio i stormydd y gaeaf

Yn yr erthygl gysylltiol hon, rydyn ni’n mynd i edrych ar stormydd gaeaf 2015-2016 a’r glaw trwm a ddaeth gyda nhw – glaw a dorrodd y record. 

Rydyn ni’n mynd i gymryd ein gwybodaeth o wefan y Swyddfa Dywydd; images and data are covered by the Open Government License "Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v1.0" 

Dilynwch y ddolen yma os hoffech chi gael gwybodaeth fanwl a gwreiddiol yn uniongyrchol o’r Swyddfa Dywydd:

Met Office - Cliciwch isod

undefined

Llwyddodd stormydd gaeaf 2015 i greu record newydd yn y DU o safbwynt glaw. Mis Rhagfyr 2015 oedd y mis gwlypaf ers 1910 a mis Tachwedd a mis Rhagfyr gyda’i gilydd oedd y ddau fis gwlypaf. 

Y storm gyntaf a gafodd ei henwi oedd Storm Abigail a chyrhaeddodd hon Ogledd-orllewin yr Alban ar 12 fed/13eg Tachwedd, 2015. Y gwynt cryf, a oedd hyd at 84 m.y.a., oedd y brif risg gyda’r storm yma.

undefined

Llun: Abigail Nov 12 2015 1155Z - NASA © Wikimedia Commons - Public Domain

Torrwyd cyflenwad trydan i 20,000 o gartrefi ac roedd rhai ysgolion ar gau, ond nid oedd y storm yn ddigwyddiad mawr oherwydd aeth y rhan fwyaf ohoni heibio i’r DU. Yr ardaloedd a gafodd eu heffeithio fwyaf oedd ynysoedd yr Alban oddi ar arfordir y gorllewin.

undefined

Llun: Abigail 2015 track - Supportstorm © Wikimedia Commons - Public Domain

Tarodd Storm Barney rannau o Orllewin Cymru a De-orllewin Lloegr ar 17eg o Dachwedd cyn teithio tua’r dwyrain a thrwy Loegr. Gwynt oedd y brif broblem ac roedd ei gyflymder hyd at 85 m.y.a.

undefined

Llun: Barney 2015 track - Supportstorm © Wikimedia Commons - Public Domain

Cafodd rhai adeiladau eu difrodi, collodd miloedd o gartrefi eu cyflenwad trydan, cafodd rheilffyrdd eu cau a thynnwyd ffotograffau o drampolîns mawr yn sownd mewn coed 20 metr oddi ar y ddaear (mae trampolîns yn beryglus iawn mewn gwynt cryf ac maen nhw’n achosi difrod mawr i adeiladau - clymwch nhw’n dynn!). Roedd llifogydd mewn rhai ardaloedd hefyd. 

Roedd Storm Barney yn llawer mwy dinistriol yng Ngweriniaeth Iwerddon, fodd bynnag, lle y collodd  45,000 o gartrefi eu cyflenwad ac roedd difrod mawr. 

Roedd Storm Clodagh yn waeth yng Ngweriniaeth Iwerddon ond nid oedd cynddrwg â Storm Barney. Roedd cyflymder y gwynt tua 60 m.y.a. a chollodd 6,000 o gartrefi eu cyflenwad trydan. Yna, symudodd y storm tua’r dwyrain gan dorri’r cyflenwad trydan i 10,000 o gartrefi yng Ngogledd Lloegr.

Roedd llawer iawn o’r cyhoedd yn y DU yn dechrau meddwl mai rhyw gimic oedd enwi stormydd ac nad oedd dim byd difrifol yn digwydd – ond newidiodd hyn pan ddaeth stormydd Desmond, Eva a Frank ym mis Rhagfyr.

Storm Desmond oedd storm fawr gyntaf mis Rhagfyr. Rhaid cofio bod mis Tachwedd wedi bod yn wlyb iawn, ac felly roedd y rhan fwyaf o’r storfeydd, y pridd  er enhgraifft, yn llawn.

undefined

Llun: Carlisle Civic Centre amid floodwater (geograph 4761015) - Rose and Trev Clough © Wikimedia Commons dan Creative Commons Attribution 2.0 Generic

Weithiau, y gair am hyn yw dirlawn - mae’r storfeydd mwyaf, fel pridd, yn gweithredu fel sbwng; pan fydd sbwng yn methu dal rhagor o ddŵr, mae’n dirlawn, yn union fel bydd aer yn dirlawn pan na fydd yn gallu dal mwy o ddŵr ac mae cyddwysiad yn digwydd.

Arbrawf

Beth am ddripian dŵr ar ddarn o sbwng sych er mwyn gweld beth yw ei gynhwysedd neu faint o ddŵr fydd yn ei dirlenwi neu’n achosi iddo gyrraedd dirlawnder (pan na fydd yn gallu dal mwy o ddŵr).

Yn ogystal â gwyntoedd cryf, daeth Storm Desmond â glaw a dorrodd y record.

 

mm

Taldra dyn yn y DU ar gyfartaledd

1753

Taldra bachgen 6 oed yn y DU ar gyfartaledd

1170

Record glaw mewn 48 awr yn Thirlmere, Cumbria, 5ed/6edRhag. 2015

405

Record glaw 24 awr ym Mwlch Honister, Cumbria, 5ed Rhag. 2015

341.4

Cumbria oedd yr ardal a gafodd ei heffeithio fwyaf ond yn y rhan fwyaf o Ogledd Lloegr, cafodd y stormydd rai o’r effeithiau gwaethaf sydd wedi’u cofnodi:

  • Cyhoeddodd y Swyddfa Dywydd rybudd ‘Coch’ prin iawn ar gyfer Cumbria.
  • Roedd afonydd Eden, Lune a Tyne yn cynnwys y lefel uchaf o ddŵr erioed.
  • Bu 3 o bobl farw oherwydd y llifogydd.
  • Amcangyfrifwyd bod y gost tua £500 miliwn.
  • Collodd 68,500 o gartrefi eu cyflenwad trydan pan aeth llifogydd i is-orsaf drydan.
  • Aeth llifogydd i mewn i tua 7,000 o gartrefi.
  • Cafodd ffyrdd, pontydd ac adeiladau eu golchi i ffwrdd gan afonydd gorlawn.

Storm Eva

Mae rhai pobl wedi cyhuddo Storm Eva o achosi llifogydd eang yn ystod Nadolig 2015 ond nid yw hyn yn holl gywir.

Achosodd Storm Eva broblemau a oedd yn gysylltiedig â’r gwynt yn bennaf ac roedd ei heffeithiau gwaethaf yn debyg i Storm Abigail.

undefined

Llun: The Waterside, Summerseat - Bill Boaden © Wikimedia Commons dan Creative Commons Attribution-Share Alike 2.0 UK: England & Wales

Pan ddigwyddodd llifogydd difrifol adeg y Nadolig, 2015, roedd Storm Eva wedi symud yn bell i’r gogledd o’r DU. Achoswyd y llifogydd eu hunain gan storm wahanol nad oedd wedi cael ei henwi oherwydd doedd y gwynt ddim yn ddigon cryf.

Tarodd y storm a ddaeth ar ôl Eva ardal Cumbria a Gogledd Lloegr eto. Roedd llifogydd difrifol newydd yn ninas bwysig Caerefrog ac aeth dŵr i mewn i 9,000 o dai eraill, gan ddod â chyfanswm mis Rhagfyr i 17,000. Bu un person farw oherwydd y storm hon ac amcangyfrifwyd bod cost y difrod mor uchel ag £800 miliwn.

undefined undefined

© UK rain radar 1200 GMT 23 to 1400 GMT 24 December 2015 - Met Office dan Crown Copyright

Storm Frank

Frank oedd y storm olaf a oedd wedi ei henwi i ddod i’r DU yn ystod 2015 a chyrhaeddodd ar 28ain o Ragfyr. 

Achosodd Storm Frank y difrod mwyaf yng Ngogledd-ddwyrain yr Alban ac roedd glaw trwm am sawl diwrnod.

undefined

Llun: Partially collapsed Tadcaster Bridge (30th December 2015) 002 - Mtaylor848 © Wikimedia Commons dan Creative Commons Attribution-Share Alike 4.0 International

Cofnodwyd y gwynt cryfaf ar Ynysoedd Heledd Allanol, sef 85 m.y.a.; bu farw tri pherson o ganlyniad i’r storm a chollodd 27,900 o adeiladau eu cyflenwad trydan. Roedd difrod dros ardaloedd eang, gan gynnwys pont Tadcaster, a ddisgynnodd i’r dŵr.

undefined undefined

© UK rain radar 0300 GMT 25 to 0600 GMT 27 December 2015 - Met Office dan Crown Copyright

Storm Gertrude

Yn ffodus, aeth Storm Gertrude heibio i Gymru ar y cyfan ac effeithiodd fwyaf ar Ogledd Iwerddon a Gogledd-orllewin yr Alban. Cofnodwyd y gwynt cryfaf yno ers 16 o flynyddoedd, sef  105 m.y.a.! 

Fodd bynnag, er bod y storm wedi methu Cymru o drwch blewyn, roedd llifogydd mewn rhai ardaloedd a difrod oherwydd y gwynt - ar hyd yr M4, er enghraifft.

Storm Henry

Daeth Storm Henry yn syth ar ôl Storm Gertrude; aeth heibio i Gymru o drwch blewyn diolch byth, gan ddilyn yr un llwybr â Gertrude, sef i’r gogledd-orllewin, ond cafodd Henry fwy o effaith ar fewndir yr Alban na Gertrude a daeth â mwy o law dros ardaloedd eang.

 

Gweithgaredd ar gyfer disgyblion

Ceisiwch ddefnyddio’ch sgiliau llythrennedd a rhifedd er mwyn ysgrifennu disgrifiad o’r ddau fap a’r ddau graff hyn.

Ceisiwch ateb pob cwestiwn fel rhan o’ch disgrifiad.

Map 1

undefined

UK rainfall totals for November and December 2015 as percentage of long-term average

  • Beth mae’r map yn dangos?
  • Pa leoedd sydd â’r gwerthoedd (rhifau) uchaf?
  • Oes unrhyw un o’r lleoedd sydd â’r gwerthoedd uchaf wedi’i leoli yng Nghymru? Ble?

Graph 1

undefined

UK rainfall totals for November and December 2015 as percentage of long-term average

  • Beth mae’r graff yn dangos?
  • Pa flynyddoedd sydd â’r gwerthoedd (rhifau) uchaf?
  • Pa flynyddoedd sydd â’r gwerthoedd (rhifau) isaf?
  • Amcangyfrifwch (neu cyfrifwch yn llawn) y cymedr neu’r cyfartaledd.
  • Gwnewch frasamcan o faint yn fwy yw 2015 o’i gymharu â’ch amcangyfrif chi; dewiswch un o’r canlynol: 
    • 1 waith yn fwy
    • 1 waith a hanner yn fwy
    • 2 waith yn fwy
    • 2 waith a hanner yn fwy
    • 3 gwaith yn fwy
    • 3 gwaith a hanner yn fwy
    • 4 gwaith yn fwy

Map 2

undefined

Rainfall totals 1 November 2015 to 13 January 2016

  • Beth mae’r map yn dangos?
  • Pa 3 lle sydd â’r gwerthoedd (rhifau) uchaf?
    • Ble maen nhw?
  • Oes unrhyw un o’r lleoedd sydd â’r gwerthoedd uchaf wedi’i leoli yng Nghymru?
    • Ble?

Graph 2

undefined

Daily rainfall totals and accumulations for Capel Curig and Shap

  • Beth mae’r graff yn dangos?
  • Ble mae Shap?
  • Ble mae Capel Curig?
  • Cymharwch y glawiad yn y ddau le ar gyfer mis Tachwedd a mis Rhagfyr.
Top

Mwy o’r rhifyn yma...

Ymchwilio i lifogydd yn y Deyrnas Unedig yn ystod y gaeaf?

Ymchwilio i lifogydd yn y Deyrnas Unedig yn ystod y gaeaf?

Beth yw’r canlyniadau a beth gallwn ni ei wneud er mwyn lleihau effaith stormydd a llifogydd?

Beth yw’r canlyniadau a beth gallwn ni ei wneud er mwyn lleihau effaith stormydd a llifogydd?