Yn yr erthygl gysylltiol hon, rydyn ni’n mynd i edrych ar stormydd gaeaf 2015-2016 a’r glaw trwm a ddaeth gyda nhw – glaw a dorrodd y record.
Rydyn ni’n mynd i gymryd ein gwybodaeth o wefan y Swyddfa Dywydd; images and data are covered by the Open Government License "Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v1.0"
Dilynwch y ddolen yma os hoffech chi gael gwybodaeth fanwl a gwreiddiol yn uniongyrchol o’r Swyddfa Dywydd:
Met Office - Cliciwch isod
Llwyddodd stormydd gaeaf 2015 i greu record newydd yn y DU o safbwynt glaw. Mis Rhagfyr 2015 oedd y mis gwlypaf ers 1910 a mis Tachwedd a mis Rhagfyr gyda’i gilydd oedd y ddau fis gwlypaf.
Y storm gyntaf a gafodd ei henwi oedd Storm Abigail a chyrhaeddodd hon Ogledd-orllewin yr Alban ar 12 fed/13eg Tachwedd, 2015. Y gwynt cryf, a oedd hyd at 84 m.y.a., oedd y brif risg gyda’r storm yma.
Llun: Abigail Nov 12 2015 1155Z - NASA © Wikimedia Commons - Public Domain
Torrwyd cyflenwad trydan i 20,000 o gartrefi ac roedd rhai ysgolion ar gau, ond nid oedd y storm yn ddigwyddiad mawr oherwydd aeth y rhan fwyaf ohoni heibio i’r DU. Yr ardaloedd a gafodd eu heffeithio fwyaf oedd ynysoedd yr Alban oddi ar arfordir y gorllewin.
Llun: Abigail 2015 track - Supportstorm © Wikimedia Commons - Public Domain
Tarodd Storm Barney rannau o Orllewin Cymru a De-orllewin Lloegr ar 17eg o Dachwedd cyn teithio tua’r dwyrain a thrwy Loegr. Gwynt oedd y brif broblem ac roedd ei gyflymder hyd at 85 m.y.a.
Llun: Barney 2015 track - Supportstorm © Wikimedia Commons - Public Domain
Cafodd rhai adeiladau eu difrodi, collodd miloedd o gartrefi eu cyflenwad trydan, cafodd rheilffyrdd eu cau a thynnwyd ffotograffau o drampolîns mawr yn sownd mewn coed 20 metr oddi ar y ddaear (mae trampolîns yn beryglus iawn mewn gwynt cryf ac maen nhw’n achosi difrod mawr i adeiladau - clymwch nhw’n dynn!). Roedd llifogydd mewn rhai ardaloedd hefyd.
Roedd Storm Barney yn llawer mwy dinistriol yng Ngweriniaeth Iwerddon, fodd bynnag, lle y collodd 45,000 o gartrefi eu cyflenwad ac roedd difrod mawr.
Roedd Storm Clodagh yn waeth yng Ngweriniaeth Iwerddon ond nid oedd cynddrwg â Storm Barney. Roedd cyflymder y gwynt tua 60 m.y.a. a chollodd 6,000 o gartrefi eu cyflenwad trydan. Yna, symudodd y storm tua’r dwyrain gan dorri’r cyflenwad trydan i 10,000 o gartrefi yng Ngogledd Lloegr.
Roedd llawer iawn o’r cyhoedd yn y DU yn dechrau meddwl mai rhyw gimic oedd enwi stormydd ac nad oedd dim byd difrifol yn digwydd – ond newidiodd hyn pan ddaeth stormydd Desmond, Eva a Frank ym mis Rhagfyr.
Storm Desmond oedd storm fawr gyntaf mis Rhagfyr. Rhaid cofio bod mis Tachwedd wedi bod yn wlyb iawn, ac felly roedd y rhan fwyaf o’r storfeydd, y pridd er enhgraifft, yn llawn.
Llun: Carlisle Civic Centre amid floodwater (geograph 4761015) - Rose and Trev Clough © Wikimedia Commons dan Creative Commons Attribution 2.0 Generic
Weithiau, y gair am hyn yw dirlawn - mae’r storfeydd mwyaf, fel pridd, yn gweithredu fel sbwng; pan fydd sbwng yn methu dal rhagor o ddŵr, mae’n dirlawn, yn union fel bydd aer yn dirlawn pan na fydd yn gallu dal mwy o ddŵr ac mae cyddwysiad yn digwydd.
Beth am ddripian dŵr ar ddarn o sbwng sych er mwyn gweld beth yw ei gynhwysedd neu faint o ddŵr fydd yn ei dirlenwi neu’n achosi iddo gyrraedd dirlawnder (pan na fydd yn gallu dal mwy o ddŵr).
Yn ogystal â gwyntoedd cryf, daeth Storm Desmond â glaw a dorrodd y record.
|
mm |
Taldra dyn yn y DU ar gyfartaledd |
1753 |
Taldra bachgen 6 oed yn y DU ar gyfartaledd |
1170 |
Record glaw mewn 48 awr yn Thirlmere, Cumbria, 5ed/6edRhag. 2015 |
405 |
Record glaw 24 awr ym Mwlch Honister, Cumbria, 5ed Rhag. 2015 |
341.4 |
Cumbria oedd yr ardal a gafodd ei heffeithio fwyaf ond yn y rhan fwyaf o Ogledd Lloegr, cafodd y stormydd rai o’r effeithiau gwaethaf sydd wedi’u cofnodi:
Mae rhai pobl wedi cyhuddo Storm Eva o achosi llifogydd eang yn ystod Nadolig 2015 ond nid yw hyn yn holl gywir.
Achosodd Storm Eva broblemau a oedd yn gysylltiedig â’r gwynt yn bennaf ac roedd ei heffeithiau gwaethaf yn debyg i Storm Abigail.
Llun: The Waterside, Summerseat - Bill Boaden © Wikimedia Commons dan Creative Commons Attribution-Share Alike 2.0 UK: England & Wales
Pan ddigwyddodd llifogydd difrifol adeg y Nadolig, 2015, roedd Storm Eva wedi symud yn bell i’r gogledd o’r DU. Achoswyd y llifogydd eu hunain gan storm wahanol nad oedd wedi cael ei henwi oherwydd doedd y gwynt ddim yn ddigon cryf.
Tarodd y storm a ddaeth ar ôl Eva ardal Cumbria a Gogledd Lloegr eto. Roedd llifogydd difrifol newydd yn ninas bwysig Caerefrog ac aeth dŵr i mewn i 9,000 o dai eraill, gan ddod â chyfanswm mis Rhagfyr i 17,000. Bu un person farw oherwydd y storm hon ac amcangyfrifwyd bod cost y difrod mor uchel ag £800 miliwn.
© UK rain radar 1200 GMT 23 to 1400 GMT 24 December 2015 - Met Office dan Crown Copyright
Frank oedd y storm olaf a oedd wedi ei henwi i ddod i’r DU yn ystod 2015 a chyrhaeddodd ar 28ain o Ragfyr.
Achosodd Storm Frank y difrod mwyaf yng Ngogledd-ddwyrain yr Alban ac roedd glaw trwm am sawl diwrnod.
Llun: Partially collapsed Tadcaster Bridge (30th December 2015) 002 - Mtaylor848 © Wikimedia Commons dan Creative Commons Attribution-Share Alike 4.0 International
Cofnodwyd y gwynt cryfaf ar Ynysoedd Heledd Allanol, sef 85 m.y.a.; bu farw tri pherson o ganlyniad i’r storm a chollodd 27,900 o adeiladau eu cyflenwad trydan. Roedd difrod dros ardaloedd eang, gan gynnwys pont Tadcaster, a ddisgynnodd i’r dŵr.
© UK rain radar 0300 GMT 25 to 0600 GMT 27 December 2015 - Met Office dan Crown Copyright
Yn ffodus, aeth Storm Gertrude heibio i Gymru ar y cyfan ac effeithiodd fwyaf ar Ogledd Iwerddon a Gogledd-orllewin yr Alban. Cofnodwyd y gwynt cryfaf yno ers 16 o flynyddoedd, sef 105 m.y.a.!
Fodd bynnag, er bod y storm wedi methu Cymru o drwch blewyn, roedd llifogydd mewn rhai ardaloedd a difrod oherwydd y gwynt - ar hyd yr M4, er enghraifft.
Daeth Storm Henry yn syth ar ôl Storm Gertrude; aeth heibio i Gymru o drwch blewyn diolch byth, gan ddilyn yr un llwybr â Gertrude, sef i’r gogledd-orllewin, ond cafodd Henry fwy o effaith ar fewndir yr Alban na Gertrude a daeth â mwy o law dros ardaloedd eang.
Ceisiwch ddefnyddio’ch sgiliau llythrennedd a rhifedd er mwyn ysgrifennu disgrifiad o’r ddau fap a’r ddau graff hyn.
Ceisiwch ateb pob cwestiwn fel rhan o’ch disgrifiad.
Map 1
UK rainfall totals for November and December 2015 as percentage of long-term average
Graph 1
UK rainfall totals for November and December 2015 as percentage of long-term average
Map 2
Rainfall totals 1 November 2015 to 13 January 2016
Graph 2
Daily rainfall totals and accumulations for Capel Curig and Shap