Os wyt ti am ddarganfod pa effaith ti’n cael ar y blaned, galli di fesur dy ôl troed carbon. Mewn gwirionedd, dyma’r ‘peth’ i’w wneud y dyddiau yma. Mae nifer o ddinasoedd, cyngor trefi a rhai ysgolion hyd yn oed yn ei wneud o. Mae Llywodraeth San Steffan yn monitro ôl troed carbon tai i weld os ydyn ni’n cyrraedd targedau lleihau allyriadau carbon.
Gallwch gyfrifo eich ôl-troed carbon chi wrth deithio i ac o'r ysgol. I wneud hyn y defnyddio'r teclyn isod, bydd rhaid i chi:
1. Cyfrifwch y pellter rhwng eich cartref a'ch ysgol
2. Beth yw cyfanswm y milltiroedd? Cofiwch bod rhaid i'r gyrrwr ddychwelyd gartref er bod eich taith chi'n gorffen yn yr ysgol.
3. Sawl teithiwr sydd yn y car
Defnyddir hwn i ddarganfod faint o ddifrod mae pobl yn ei wneud i’r blaned. Mae’n golygu faint o garbon deuocsid y mae pobl yn ei gynhyrchu drwy ei gweithgareddau dyddiol. Fel y gwyddi, mae gormod o allyriadau yn niweidiol i’r amgylchedd.
Gellir mesur ôl troed carbon gyda hectarau byd eang (gha) o gyfran y ddaear, neu’r ‘earthshare’.
Er mwyn gallu gwneud hyn, bu’n rhaid i wyneb y ddaear gael ei fesur i ddarganfod arwynebedd tir a môr bio-gynhyrchiol. Dyma o le daw bwyd ac egni. Rhaid i boblogaeth y byd ddefnyddio’r arwynebedd cynhyrchiol yma er mwyn gallu byw.
Petai’n cael ei rannu’n deg, byddai pob un ohonom yn derbyn dim ond 1.89 gha yr un. Dyma yn fras, faint o adnoddau naturiol sydd ar gael i bawb. Mae hyn yn cynnwys pethau fel tir, dŵr, bwyd a thanwydd.
Mae trigolion Caerdydd angen 5.59 gha i ddal ati a’u cymeriant presennol – felly’n amlwg, o ganlyniad rhaid i ardaloedd eraill o’r byd ddefnyddio llai.
Oes, mae llywodraeth San Steffan wedi defnyddio ffordd arall o gyflwyno cynhyrchiant carbon deuocsid i gymharu pob etholaeth seneddol yn y DU. Maen nhw’n defnyddio allyriadau teulu ar gyfartaledd (mewn tunelli metrig) am flwyddyn. (ffigyrau 2007) Yn ardaloedd cyfoethog Llundain fel Chesham ac Amersham, mae ffigwr y cartref yn agos i 30 tunnell y flwyddyn. Mae ffigyrau yn dangos bod gan 196 ardal Saesneg allyriadau uwch nac unrhyw le arall yng Nghymru.
Sir Fynwy sy’n cynhyrchu’r mwyaf o allyriadau carbon deuocsid yng Nghymru gyda 23.01 tunnell.
Mae’r cartrefi sy’n llygru lleiaf yng Nghymru ym Mlaenau Gwent gyda 17.1 tunnell. Ond cymharwch hyn gyda China, lle mae allyriad blynyddol tŷ yn 6 thunnell, ac 1.5 tunnell yn India! Nid yw’n argoeli’n dda, nac yw?
3. Ysgrifennwch lythyr neu dyluniwch boster i’ch ardal leol yn cyhoeddi eich allyriadau carbon o’u cymharu ag ardaloedd eraill o Gymru a’r byd.