3

Cynhadledd Hinsawdd

undefinedDrwy gydol Hydref 2009, yr oedd llywodraethau, papurau newydd, adroddiadau teledu ac athrawon yn dweud wrthym am gynhadledd bwysig. Yr oedd y gynhadledd ynglŷn â newid hinsawdd, a chafodd ei chynnal yng Nghopenhagen gan y Cenhedlaoedd Unedig.

Aeth pobl bwysig o'r 192 aelod o'r Cenhedloedd Unedig i geisio cytuno ar sut i ddelio gyda newid hinsawdd.

 

 

 

 

 

 

 

Flash Player Required

Get Adobe Flash player

Felly, beth am weld faint ti'n wybod am newid hinsawdd?

Cyn darganfod mwy am y gynhadledd, pam na gymri di ran yn y cwis i weld faint ti'n ei wybod eisoed am newid hinsawdd? Pob lwc!

Flash Player Required

Get Adobe Flash player

Beth yw Newid Hinsawdd?

Hinsawdd gwlad yw'r math o dywydd mae hi'n ei phrofi. Mae gwyddonwyr yn edrych ar batrymau i weld a oes 'na newidiadau mewn tymheredd neu faint o law sy'n disgyn ac a oes digwyddiadau eithafol yn digwydd, fel llifogydd. Mae Gwyddonwyr yn poeni ein bod ni'n dylanwadu ar dymheredd y Ddaear sydd yn ei dro yn achosi'r newid yn yr hinsawdd.

Mae Gwyddonwyr yn cytuno bod gwastraffu nwyon megis carbon deuocsid a methan i'w feio am achosi newid mewn tymheredd. Er bod carbon deuocsid a methan yn cael eu cynhyrch'n naturiol yn atmosffer y byd, pan fydd cydbwysedd y nwyon hyn yn ormod, yna mae modd difrodi atmosffer y ddaear - gelwir hyn yn 'effaith tŷ gwydr'. Dyma beth sy'n achosi newid hinsawdd.

Casgliad

Ym 1997, cytunodd ran fwyaf o aelodau'r Cenhedloaedd Unedig i leihau eu allyrriadau carbon ac arwyddon nhw gytundeb o'r enw 'Protocol Kyoto'. 'Roedd Cynhadledd Newid Hinsawdd Copenhagen 2009 yn barhad pwysig o Brotocol Kyoto.

Allwch chi ddod o hyd i'r mannau y cynhaliwyd y cynhadleddau newid hinsawdd ar y map o'r byd isod?

Top

Mwy o’r rhifyn yma...

Peryglon Llifogydd Cymru

Peryglon Llifogydd Cymru