3

Peryglon Llifogydd Cymru

Flash Player Required

Get Adobe Flash player

Mae cawodydd trymion, dwys yn dod yn fwyfwy cyffredin oherwydd newid hinsawdd. Mewn trefi a dinasoedd, gydag ardaloedd o arwynebedd anhydraidd, gall glaw trwm lifo dros yn hytrach nag i’r ddaear. Gall hyn achosi llifogydd dŵr arwyneb unrhyw adeg o’r flwyddyn. Yn Ne Cymru, mae trefi fel Maesteg, Merthyr, Aberdar, Treorci a Thonypandy yn aml iawn yn cael eu heffeithio gan lifogydd gan greu llifeiriant peryglus mewn nentydd neu hyd yn oed ar y ffyrdd. Mae’r llethrau serth yn yr ardaloedd hyn yn gwneud y broblem yma’n waeth.

Mae perygl llifogydd mawr i afonydd Cymru yn ystod stormydd. Mae’r ffaith ein bod ni wedi adeiladu rhagor o dai ar y gwastadeddau llifogydd yn broblem fawr. Mae hyn wedi creu perygl hyd yn oed yn fwy. Mae afonydd fel yr afon Hafren yn y Drenewydd, ac afon Conwy yn Llanrwst, y Taf ym Mhontypridd ac afon Gwy yn Llanfair ym Muallt oll wedi achosi llifogydd yn y blynyddoedd diweddar.

Mae lefelau’r môr yn dechrau codi. Gall stormydd achosi tonnau ac ymchwydd o lanw uchel sy’n bygwth anheddau a ffermydd ar arfordiroedd isel De Ddwyrain a Gogledd Ddwyrain Cymru. Towyn, ger Rhyl, a brofodd lifogydd yn 1990, a’r arfordir dwyreiniol fyny’r M4 hyd at Bont Hafren yw’r ardaloedd sydd yn y perygl mwyaf yng Nghymru.

Top

Mwy o’r rhifyn yma...