Sut alla i ddarganfod os ydw i’n cael effaith dda neu ddrwg ar y blaned?
Os wyt ti am ddarganfod pa effaith ti’n cael ar y blaned, galli di fesur dy ôl troed carbon. Mewn gwirionedd, dyma’r ‘peth’ i’w wneud y dyddiau yma. Mae nifer o ddinasoedd, cyngor trefi a rhai ysgolion hyd yn oed yn ei wneud o. Mae Llywodraeth San Steffan yn monitro ôl troed carbon tai i weld os ydyn ni’n cyrraedd targedau lleihau allyriadau carbon. .
Pam na wnei di fesur dy ôl troed carbon?
Galli gyfrifo maint dy ôl troed carbon wrth deithio i ac o'r ysgol. I wneud hyn yn defnyddio'r teclyn isod, bydd arnat angen:
-
1. Amcangyfrif pa mor bell yw'r ysgol oddi wrth dy gartref.
-
2. Adio cyfanswm y milltiroedd. Cofia, pan ti'n cael dy ollwng yno, bydd rhaid i'r gyrrwr fynd yn ôl gartref.
-
3. Sawl teithiwr sydd yn y car.
Beth yw ‘ôl troed carbon’?
Defnyddir hwn i ddarganfod faint o ddifrod mae pobl yn ei wneud i’r blaned. Mae’n golygu faint o garbon deuocsid y mae pobl yn ei gynhyrchu drwy eu gweithgareddau dyddiol. Fel arfer caiff ei fesur yn flynyddol, hynny yw faint o garbon deuocsid sy'n cael ei gynhyrchu. Fel y gwyddi, mae gormod o garbon deuocsid yn ddrwg i’r amgylchedd.
Sut caiff ôl troed carbon ei fesur?
Gellir mesur ôl troed carbon gyda hectarau byd eang (gha) o gyfran y ddaear, neu’r ‘earthshare’.
Beth mae hyn yn ei olygu?
Er mwyn gallu gwneud hyn, bu’n rhaid i wyneb y ddaear gael ei fesur i ddarganfod arwynebedd tir a môr bio-gynhyrchiol. Dyma o le daw bwyd ac egni. Rhaid i boblogaeth y byd ddefnyddio’r arwynebedd cynhyrchiol yma er mwyn gallu byw.
Beth fyddai’n digwydd petai’n cael ei rannu’n deg rhwng poblogaeth y byd?
Petai’n cael ei rannu’n deg, byddai pob un ohonom yn derbyn dim ond 1.89 gha yr un. Dyma yn fras, faint o adnoddau naturiol sydd ar gael i bawb. Mae hyn yn cynnwys pethau fel tir, dŵr, bwyd a thanwydd.
Beth am brifddinas Cymru?
Mae trigolion Caerdydd angen 5.59 gha i ddal ati gyda’u ffordd bresennol o fyw - mae Caerdydd yn defnyddio 125 gwaith ei arwynebedd tirol ar gyfer yr adnoddau mae'n eu gymryd, felly’n amlwg, o ganlyniad rhaid i ardaloedd eraill o’r byd ddefnyddio llai.
Oes 'na ffyrdd eraill o fesur ein ôl troed carbon?
Oes, mae Llywodraeth San Steffan yn mesur allyrriad carbon y teulu cyffredin fesul tunnell fetrig bob blwyddyn. Yn 2007, yn ardaloedd cyfoethog Llundain, fel Chelsea ac Amersham, 'roedd y ffigwr tai yn agos at 30 tunell y flwyddyn, o'u cymharu â Chymru lle 'roedd rhai allyrriadau tai yn llai nag 20 tunell y flwyddyn. Mae'r ffigyrau yn dangos bod gan 196 ardal Saesnig allyrriant carbon mwy nag unrhyw le yng Nghymru.

Lle mae’r allyriadau mwyaf yng Nghymru?
Sir Fynwy sy’n cynhyrchu’r mwyaf o allyriadau carbon deuocsid yng Nghymru gyda 23.01 tunnell.
Lle mae’r allyriadau lleiaf yng Nghymru?
Mae’r cartrefi sy’n llygru lleiaf yng Nghymru ym Mlaenau Gwent gyda 17.1 tunnell. Ond cymharwch hyn gyda China, lle mae allyriad blynyddol tŷ yn 6 thunnell, ac 1.5 tunnell yn India! Nid yw’n argoeli’n dda, nac yw?