Mae'r erthygl yma am y cynhadleddau newid hinsawdd sydd wedi cael eu cynnal o amglych y byd. Ond cyn darganfod mwy am y cynhadleddau hyn, pam na wnewch chi'r cwis i weld faint yn union ry'ch chi'n ei wybod eisoes am newid hinsawdd a materion amgylcheddol eraill?
Pob lwc!
Drwy gydol Hydref 2009, yr oedd llywodraethau, papurau newydd, adroddiadau teledu ac athrawon yn dweud wrthym mai’r COP15 oedd y gynhadledd newid hinsawdd bwysicaf erioed.
Dyma'r cyfle olaf y byddai Gwledydd y Byd yn ei gael i newid cyflymder a lefelau Cynhesu Byd Eang.
Aeth pobl bwysig o'r 192 aelod o'r Cenhedloedd Unedig i'r gynhadledd i geisio cytuno ar beth i'w wneud ynglŷn â newid hinsawdd.
Cynhelir y cynadleddau yn mis Rhagfyr bob blwyddyn, ond mae'r lleoliad yn newid bob blwyddyn.
Ymgynullodd y G77/China 130 o GLlEDd. Dadleuon nhw y dylai’r GMEDd dderbyn mai nhw yw’r rhai oedd yn gyfrifod am newid hinsawdd a nhw ddylai leihau eu hallyriadau carbon deuocsid yn sylweddol . Hefyd, dadleuon nhw y dylai bod hawl ganddyn nhw i ddal i fyny’n economaidd cyn lleihau allyriadau CO2.
‘Roedd y Grŵp Affricanaidd wedi ei wneud o 50 o wledydd. Dadleuon nhw eu bod nhw’n amharod, yn dlawd ac yn archolladwy i newid hinsawdd. Ceision nhw gefnogaeth ariannol a thechnegol gan y GMEDd i’w helpu nhw baratoi am newid hinsawdd ac ymdopi a thrychinebau amgylcheddol fel sychder a llifogydd. ‘Roedd rhai hefyd eisiau cenhedloedd mawr sy’n datblygu, fel China, i leihau eu allyrriadau CO2. Galwon nhw am weithredu caletach nag unrhyw grŵp arall wrth fynd i’r afael a newid hinsawdd.
‘Roedd y Gynghrair Taleithiau Ynysoedd Bychain (Alliance of Small Island States - AOSIS) yn grŵp o 43 o ynysoedd bychain a gwledydd arfordirol ar dir isel. Mae’r grŵp yma’n bryderus iawn am lefelau’r môr yn codi.
Mae’r Undeb Ewropeaidd (EU) wedi ei wneud o 27 Aelod Taleithiol. Roedden nhw’n fodlon cynnig rhai gostyngiadau yn eu defnydd CO2. Dywedon nhw hefyd, y byddant yn helpu gwledydd eraill drwy roi arian, ond dywedon nhw hefyd eu bod nhw am aros yn economaidd gryf.
Mae’r Grŵp Ymbarel (Umbrella Group ) yn uno’r cenhedloedd nad ydynt yn yr Undeb Ewropeaidd (Awstralia, Canada, Gwlad yr Iâ, Japan, Kazakstan, Seland Newydd, Norwy, Rwsia, Iwcraen a’r Unol Daleithiau). Roedden nhw’n debyg i’r UE - yn cynnig peth gostyngiadau ac arian, ond dim ond os byddai gwledydd eraill yn cytuno i wneud yr un fath.
Nid oedd OPEC(Organization of the Petroleum Exporting Countries) yn grŵp trafod ffurfiol, ond cydweithredodd ei 13 Aelod Taleithiol yn agos er mwyn cymryd yr un safleoedd a thrafodaethau.
Tybed allwch chi ddod o hyd i bob man y mae'r Gynhadledd Newid Hinsawdd wedi ei chynnal ar y map o'r byd isod?
Rhowiliwch dros y bocsys isod a dewis un i ddarganfod pam.
Felly, nawr gallwch weld pam fod Cytundeb COP1 5 mor bwysig - a pha mor anodd oedd hi wastad yn mynd i fod!
Erbyn gweld, 'roedd y gynhadledd yn ddigwyddiad hynod gymhleth. Roedd yna filoedd o bobl a channoedd o areithiau. Cerddodd llawer allan, cyfnewidwyd sawl gair blin a chafwyd sesiynau a barodd drwy'r nos.
Cyhuddwyd llawer o wledydd o amddiffyniad hunanol yn hytrach nac amddiffyn y byd rhag newid hinsawdd. Ar ddiwedd y gynhadledd dywedodd rhai grwpiau ei bod hi wedi bod yn un llwyddiannus a dywedodd rhai mai llanast llwyr y bu hi!
Edrychwch ar y canlyniadau (syml iawn) isod – beth ydych chi'n meddwl ohonynt?
Mae Grŵp Gwaith Kyoto i barhau â'u gwaith. 'Roedd hyn i gadw cytundeb Kyoto i fynd.(Roedd ambell genedl gyfoethog eisiau lleihau y pwysau cyfreithiol sydd arnyn nhw i leihau eu allyrriadau CO2, ond ar y llaw arall, ni chytunwyd ar dargedau uwch a awgrymwyd gan wyddonwyr ac a alwyd arnynt gan ambel WLlEDd ).
Methodd y GMEDd gael addasiadau i Kyoto a fyddai'n galw am weithredu i leihau allyrriadau CO2 o genedl sy'n dyfod yn ddiwydiannol fel China.
Er bod bob gwlad yn 'cydnabod' y safbwynt wyddonol y dylai cynnydd yn nhymheredd byd eang gael ei gadw dan 2 radd selsiws, 'roedd llawer o genhedloedd sy'n fwy agored i niwed (e.e. Bangladesh) dal yn gweld hyn yn rhy boeth ac yn hynod niweidiol.
Bu cytuno ar y mater o fod angen torriadau mawr yn yr allyriadau global, ac y dylen ni 'gydweithredu i gyrraedd y gostyngiadau bydol a chenedlaethol cyn gynted â sy'n bosibl.' Doedd dim sôn am bryd, pa mor fawr a phwy fydd yn gwneud hyn.
Gwledydd cyfoethog - 'rhaid ymrwymo'n unigol neu ar y cyd i roi targedau allyrriadau mesuredig ar waith erbyn 2020 cyn 31ain o Ionawr 2010. Mae'r hyn a gynnigion nhw iddyn nhw ei benderfynu. Gall rhai o'r cynnigion hyn arwain at gynnydd o 3 gradd selsiws bydol. (Gallai hyn fod yn drychinebus yn lleol).
GLlEDd yn gorfod dechrau llinariad rheoli difrod. Does dim angen targedau rhifol gan y gweldydd hyn. Dim ond gweithredoedd sy'n cael eu talu'n rhyngwladol sy'n gorfod cael eu gwirio'n gyhoeddus.
Cytunodd y gwledydd ar yr angen i ddarparu help i leihau dadgoedwigo. Cynnigiodd rhai cenhedloedd fel yr UDA, y DU a Norwy arian i fynd i Brasil a'r Congo i rwystro cymynu, ond ni chytunwyd ar system i sicrhau bod y coed yn cael eu hamddiffyn.
O'r £200 biliwn y mae sawl sefydliad yn meddwl fydd yn angenrheidiol, dim ond ar nod o £100 biliwn erbyn 2020 yr oedd y GMEDd yn fodlon cytuno arno.
Mae dod i benderfyniadau ynglŷn ag ail-asesu'r cytundebau blaenorol yn COP 13 erbyn Mehefin 2010 wedi cael eu symud ymlaen i 2015.