Yn ôl cyfrifiad, 2001, mae gan Gymru lai o bobl o leiafrifoedd ethnig yn byw yma nag unrhyw ran arall o'r DU. Dim ond pedwar y cant o'r boblogaeth oedd o gefndir lleiafrifol o'i gymharu â un deg tri y cant yn Lloegr.
Beth yw cyfrifiad?
Arolwg o bobl yw cyfrifiad. Yn y DU mae’n digwydd bob 10 mlynedd.
Yng nghyfrifiad 2001 roedd straeon yn y newyddion am nad oedd gan bobl y dewis i ddweud eu bod yn Gymru (mae categori Gwyn Prydeinig ond dim un Cymraeg).
Mae gwahaniaeth mawr hefyd yng Nghymru rhwng y niferoedd o bobl o leiafrifoedd ethnig. Caerdydd, Casnewydd ac Abertawe sydd â'r amrywiaeth mwyaf er enghraifft, ond mae'n anarferol gweld person croen tywyll yn y Cymoedd neu yng ngogledd Cymru.
Diffiniadau o ethnigrwydd
Mae ethnigrwydd yn cyfeirio at sut mae’r boblogaeth yn rhannu’n grwpiau ethnig gwahanol. Mae grwp ethnig yn grwp o bobl sy’n rhannu’r un treftadaeth hiliol neu diwylliannol.
Mae nawdeg naw y cant o boblogaeth Wrecsam yn wyn, gyda dim ond 131 person croen tywyll o boblogaeth o 128,000. Edrychwch ar y tabl i weld y gwahaniaeth rhwng poblogaeth Casnewydd a Wrecsam.
Astudiaeth Achos (Cyfrifiad 2001) |
Casnewydd |
Wrecsam |
Diversity Index |
0.13 |
Diversity index |
0.05 |
Cyfanswm y Boblogaeth |
137,011 |
Cyfanswm y Boblogaeth |
128,476 |
Prydeinig Gwyn |
127,563 |
Prydeinig Gwyn |
125,129 |
Gwyddelig |
1,045 |
Gwyddelig |
626 |
Gwyn Arall |
1,800 |
Gwyn Arall |
1,318 |
Cymysg |
1,635 |
Cymysg |
452 |
Asiaidd |
3,577 |
Asiaidd |
457 |
Tsieiniaidd |
296 |
Tsieiniaidd |
168 |
Croenddu |
734 |
Croenddu |
131 |
Arall |
361 |
Arall |
195 |
Mae'r graff llinell yma yn dangos y data poblogaeth ar gyfer Wrecsam a Chansewydd. Mae'n amlwg bod Casnewydd wedi profi mwy o fewnfudo oherwydd y cynnydd cyflym cyffredinol - yn enwedig rhwng 1881 ac 1911.
Blwyddyn |
Casnewydd |
Wrecsam |
Cymru |
1801 |
6,657 |
24,175 |
533,235 |
1811 |
9,644 |
27,180 |
600,612 |
1821 |
11, 892 |
33,043 |
708,105 |
1831 |
14,634 |
35,458 |
805,749 |
1841 |
21,727 |
40,384 |
921,792 |
1851 |
29,238 |
42,218 |
1,027,023 |
1861 |
35,515 |
49,519 |
1,208,304 |
1871 |
41,792 |
56,821 |
1,389,588 |
1881 |
48,069 |
64,122 |
1,570,873 |
1891 |
65,173 |
70,703 |
1,770,633 |
1901 |
79,342 |
79,630 |
2,053,111 |
1911 |
96,600 |
89,684 |
2,442,041 |
1921 |
103,472 |
91,743 |
2,656,474 |
1931 |
110,849 |
93,851 |
2,253,332 |
1941 |
116,434 |
98,766 |
2,592,360 |
1951 |
122,303 |
103,961 |
2,598,675 |
1961 |
128,024 |
108,121 |
2,644,023 |
1971 |
134,014 |
112,454 |
2,729,391 |
1981 |
131,016 |
118,053 |
2,749,733 |
1991 |
137,264 |
124,127 |
2,890,605 |
2001 |
137,011 |
128,476 |
2,903,085 |
Efallai y byddwch chi am ofyn un cwestiwn pwysig iawn sef pwy sydd yn y categori “Gwyn Prydeinig”? Neu mewn ffordd arall, pwy yw'r Cymry?
Mae'r llun yma'n dangos mosg newydd Casnewydd drws nesaf i Glwb Bwyddelod Casnewydd. Dyw'r siopau ar gyfer pobl o Ddwyrain Ewrop fel Gwlad Pwyl ddim ymhell.
Mae gwahaniaeth mawr rhwng hanes y categori cyfrifiad “Gwyn Prydeinig” yng Ngogledd/Gorllewin/Canolbarth Cymru o'i gymharu â trefi arfordir De Cymru a Maes glo De Cymru. Mae dosbarthiad y siaradwyr Cymraeg yn dangos hyn yn well o bosibl.
Ym aml, mae gan ardaloedd lle mae Saesneg yn brif iaith hanes hir o fewnfudo. Mae'r llun yma'n dangos mosg newydd Casnewydd drws nesaf i Glwb Gwyddelod Casnewydd Mae'n dangos y tonnau gwahanol o fewnfudo i'r ardal. 'Dyw'r siopau ar gyfer pobl o Ddwyrain Ewrop fel Gwlad Pwyl ddim ymhell.
O Ddwyrain Ewrop mae’r don ddiweddaraf o fewnfudwyr i’r ardal yn dod. Mewn 40 mlynedd, a fydd eu plant nhw yn cael eu dosbarthu fel Gwyn Arall (fel maen nhw heddiw) neu fel Gwyn Prydeinig?
Un ffordd o edrych ar mewnfudiad i ardal yw edrych ar newidiadau yng nghyfanswm y boblogaeth. Nid yw newidiadau mawr yn deillio o Gynnydd Naturiol ond yn hytrach o >fewnfudo. Drwy blotio data fel graffiau llinell gallwch chi weld pryd roedd mewnfudo ar raddfa uchel yn digwydd.
Poblogaeth yw cyfanswm y bobl sy’n byw mewn ardal. Cynydd naturiol yw’r gwahaniaeth rhwng cyfraddau geni a marw. Cyfradd geni yw faint o fabanod sy’n cael eu geni (mae’n cael ei fesur mewn genedigaeth fesul mil (‰) o’r boblogaeth). Cyfradd marw yw faint o bobl sy’n marw (mae’n cael ei fesur mewn mawrwolaeth fesul mil (‰) o’r boblogaeth).
Roedd y mwyafrif helaeth o fewnfudwyr hyd at yr 1950au yn dod o rannau eraill o’r DU, Iwerddon neu Ewrop felly bydden nhw’n cael eu cyfri fel Gwyn Prydeinig erbyn heddiw. Mewn gwirionedd, mae mewnfudo i drefi Maes Glo De Cymru a trefi’r arfordir yn golygu bod gan y mwyafrif o bobl “Gwyn Prydeinig/Cymreig” gefndir mewnfudol. Gellir gweld hyn yn glir yn newid poblogaeth y Rhondda.
Poblogaeth Bwrdeistref y Rhondda |
1801 |
542 |
1841 |
748 |
1851 |
951 |
1861 |
3035 |
1861 |
3035 |
1871 |
16914 |
1881 |
55632 |
1891 |
88351 |
1901 |
152781 |
1921 |
162729 |
Wrth edrych ar fap o Gymru yn dangos ble mae pobl yn byw gellir gweld yn glir bod mwyafrif y bobl yn byw ble mae mudo wedi bod ar ei uchaf yn y gorffennol a’n bod ni’n genedl eithf amrywiol o ran ethnigrwydd waeth beth mae’r cyfrynau yn ei honni.
Cynhaliwch eich cyfrifiad eich hunain am ethnigrwydd y dosbarth. Canfyddwch o ble daeth eich cyndeidiau. Ewch yn ôl cyn belled a phosibl. Cymharwch eich cymuned â chymunedau eraill yng Nghymru. Gallwch chi ddefnyddio’r data yn yr erthygl hon neu dynnu graffiau eich hun.
Nawr atebwch y cwestiwn: Oes amrywiaeth ethnig yng Nghymru?