2

Gwobrau seren aur

undefinedWrth ddechrau blwyddyn newydd a degawd newydd yn 2010 mae’n amser i ni feddwl am y targedau a osodwyd gan y byd ar ddechrau’r mileniwm. Y sialens fwyaf yw hanneru tlodi ar draws y byd erbyn 2015!

Beth yw targedau’r byd?

Gelwir y targedau yn Amcanion Datblygu’r Mileniwm. Polisi’r DU yw ein bod ni’n ymrwymo i gyrraedd y targedau. Mae hyn yn cynnwys Cymru, Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon.

 

 

 

 

Oeddech chi'n gwybod?

undefined

Amcanion Datblygu’r Mileniwm

Yn y flwyddyn 2000 pennod y Cenhedloedd Unedig nod i hanneru tlodi yn y Byd erbyn 2015. Er mwyn cyrraedd y nod yma pennwyd 8 targed i bob gwlad. Galwyd pob targed yn Amcan Datblygu’r Mileniwm. Dyma nhw:

  • ADM1: Rhoi terfyn ar Dlodi a Newyn Enbyd.

  • ADM2: Addysg Gynradd i Bawb.

  • ADM3: Gwella Cydraddoldeb Rhywiol a rhoi Grym i Ferched.

  • ADM4: Lleihau Marwolaeth Plant.

  • ADM5: Gwella Marwolaethau Mamau.

  • ADM6: Ymladd HIV/AIDS, malaria a chlefydau eraill.

  • ADM7: Sicrhau Datblygiad Cynaliadwy.

  • ADM8: Partneriaeth Datblygiad Bydol.

 

Cymru’n gweithredu!

Ydyn! Mae cymunedau ledled Cymru yn paratoi i wneud rhywbeth i roi terfyn ar dlodi. Ac mae gweddill y byd yn sylwi ar ein hymdrechion.

Ar Fawrth 1af bydd y Cenhedloedd Unedig yn dyfarnu pum seren aur i grwpiau yng Nghymru sy’n gweithio gyda chymunedau yn Affrica i’w cynorthwyo i wella’u hamodau byw.

Yn 2006, lansiodd Llywodraeth Cynulliad Cymru fframwaith ‘Cymru o blaid Affrica’. Mae hyn wedi annog Cymry cyffredin i laesu’u dwylo a gwneud rhywbeth am dlodi byd-eang. Ble bynnag ydych chi yng Nghymru, dydych chi ddim yn bell oddi wrth rywun sy’n gwneud rhywbeth!

Partneriaethau yng Nghymru

PONT yw enw un o’r partneriaethau sy’n rhan o ‘Cymru o blaid Affrica’ sef Pontypridd Overseas Networking Trust. Mae’n bartneriaeth rhwng Rhondda Cynon Taf yn ne Cymru ac ardal yn nwyrain Uganda o’r enw Mbale.

Pryd dechreuodd y bartneriaeth?

undefinedyn 2000 (fel Amcanion Datblygu’r Mileniwm) pan ddaeth doctor o Bontypridd â grwp o bobl oedd hefyd am helpu pobl yn Affrica ynghyd. Roedd y doctor wedi gwirfoddoli yn ystod y >newyn yn Affrica yn ystod yr 80au.



 

Dechrau gyda Mbale

Yn 2002 glaniodd gwirfoddolwyr oedd wedi talu am eu tocynnau eu hunain yn Mbale, Uganda. Fe gysyllton nhw â phobl a sefydliadau lleol i weld beth allen nhw wned i helpu. Y bwriad gwreidiol oedd uno trefi Pontypridd ac Mbale yn unig ond cyn bo hir roedd pobl led led Rhondda Cynon Taf am helpu.

Oeddech chi'n gwybod?

undefined

 

 

 

 

Mae 50 o ysgolion cynradd, uwchradd ac arbenigol yn ac o amgylch Rhondda Cynon Taf wedi llunio partneriaeth gydag ysgolion yn Mbale, Uganda. Mae disgyblion yn ysgrifennu at ei gilydd ac mae athrawon yn trefnu ymweliadau cyfnewid i arsylwi a dysgu yn ysgolion y naill a’r llall. Yma yn ysgol gynradd Buwali maen nhw’n dysgu am Gymru o arddangosfa wedi ei wneud gan Ysgol Gynradd Llanilltud Faerdref yn Llantwit Faerdref. 

Bydd athrawon y Rhondda Cynon Taf yn ymweld yn rheolaidd bob blwyddyn, ond mae’r prif ymweliad addysgiadol yn digwydd bob Chwefror yn ystod hanner tymor yng Nghymru. Daeth y 4 o athrawon hyn o 3 ysgol gynradd wahanol i ddysgu trigolion Mbale am Gymru. Dysgon nhw wersi gwahanol. ‘Roeddent wedi eu synnu y byddai rhai athrawon yn gorfod dysgu dosbarth o 80 o ddisgyblion neu fwy. Dim ond yn ddiweddar y mae Uganda wedi cyflwyno addysg gynradd am ddim i bawb, ac mae diffyg dosbarthiadau ac athrawon yn yr ysgolion.

Ble mae Mbale?

Gwlad yn nwyrain Affrica yw Uganda. Tan 1962 roedd Uganda yn rhan o’r Ymerodraeth Brydeinig. Yn y 1960au cynnar roedd Uganda yn datblygu’n gyflym ac roedd pobl y wlad yn edrych ymlaen at ddyfodol disglair

undefinedYn 1966, cipiodd y Prif Weinidog Milton Obote rym a gwneud ei hun yn unben. Disodlwyd Obote gan Idi Amin yn 1966, ond daeth yn ôl i bwer yn 1980. Bu’r blynyddoedd yma yn drychinebus i Uganda – lladdodd Amin o leiaf 250,000 o bobl a lladdodd Obote tua 300,000 (Mae rhai ffynonnellau yn honni i’r ddau, rhyngddyn nhw, ladd 800,000 o bobl mewn gwirionedd). Gadawodd y ddau Uganda yn un o’r gwledydd tlotaf yn y byd.

 

Cymerodd Uganda ei chamau cyntaf tuag at wellhâd yn 1986 wrth i’r Arlywydd Yoweri Museveni gipio pwer, ac ers hynny mae wedi gofalu bod y wlad yn dychwelyd yn araf a synhwyrol at ddemocratiaeth.

 

Heddiw, mae rhyfel cartref yn dal i lethu gogledd Uganda ac mae brwydro cyson ar y ffin â Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo. Ond diolch i lywodraethu da, mae twf economaidd Uganda ymhell dros y gyfartaledd yn yr ardal ac mae’n edrych yn debyg y bydd Uganda yn cyrraedd Amcanion Datblygu’r Mileniwm 1, 2, 3, 6, 7 ac 8. Dim ond amcanion 4 a 5 sy’n debygol o gael eu methu ar hyn o bryd.

Gweithgareddau

Mae’n debyg iawn y bydd gan eich ysgol neu eich cymuned gyswllt â rhywle yn Affrica, dim ots ble ydych chi’n byw. Ceisiwch ddarganfod mwy am y gymuned honno a sut fywyd sydd i’w gael yno. Allwch chi feddwl am ffordd y gallwch chi neu eich dosbarth wneud rhywbeth i helpu’r gymuned gyraedd un o Amcanion Datblygu’r Mileniwm?

Mae plant ysgol cyffredin ledled Cymru yn gwneud hynny’n barod! Beth am roi cynnig arni?

Top

Mwy o’r rhifyn yma...