2

Mynd yn bananas!

Allwch chi fynd yn bananas am Bythefnos Masnach Deg ys gwn i?

Bydd Pythefnos Masnach Deg 2010 yn cael ei chynnal o 22 Chwefror - 7 Mawrth. Pam na chwaraewch chi'r cwis Masnach Deg i weld faint ydych chi'n gwybod am nwyddau Masnach Deg yn barod? I'w lansio, dewiswch y botwm cwis yma! Pob Lwc!

Flash Player Required

Get Adobe Flash player

Felly, beth yw Masnach Deg?

Mae ffermwyr mewn gwledydd llai datblygedig yn aml yn cael trafferth derbyn pris teg am eu cynnyrch wrth fasnachu gyda gwledydd y Gorllewin gwledydd y Gorllewin. Er enghraifft, gallai cwmni yn y DU dalu pris isel iawn i ffermwr ym Mecsico am ei ffa coffi. Golyga hyn y bydd y ffermwr yn mynd yn dlawd iawn.

Oeddech chi'n gwybod?

undefined

 

 

 

Ystyr masnach yw prynu neu werthu nwyddau neu wasanaethau. Mae systemau masnachu yn cael eu rheoli gan gwmnïau amlwladol sydd wedi dod yn bwerus iawn. Mae’r cwmnïau yma yn bodoli i wneud cymaint o arian a phosibl i’w perchnogion (cyfranddalwyr yw’r enw arnyn nhw). Er mwyn gwneud hyn maen nhw’n talu cyn lleied a phosibl i ffermwyr a chynhyrchwyr. Canlyniad hyn yw bod y cynhyrchwyr yn aros yn dlawd tra bod y cyfranddalwyr yn mynd yn gyfoethocach.

Geiriau pwysig i’w cofio

Nwyddau a werthir o un wlad i wlad arall yw Allforion(nwyddau sy’n gadael). Nwyddau a brynir gan wlad ywMewnforion (nwyddau’n dod i mewn i’r wlad). Mantolen Fasnach yw’r gwahaniaeth rhwng gwerth mewnforion ac allforion. Mae mantolen fasnach bositif yn dda i wlad. Allwch chi feddwl pam?

 

 

Oeddech chi'n gwybod?

undefined

Mae ‘Masnach Deg’ yn golygu bod ffermwyr mewn gwledydd tlotach yn cael pris teg am eu nwyddau fel eu bod yn gwneud gwell bywoliaeth. Mae’r label MASNACH DEG yn dweud wrthyn ni bod y bwyd neu’r cynnyrch rydych chi’n ei brynu wedi ei wneud gan ffermwyr mewn gwlad ddatblygol. Mae hyn yn golygu bod o leiaf 60% o’r elw yn mynd at y ffermwyr.

 

Mae 'Masnach Deg' yn golygu bod ffermwyr yn y gwledydd yma yn cael pris gwell am eu cynnyrch fel eu bod yn gallu gwneud gwell bywoliaeth. Mae'n fodd o leihau tlodi a chynyddu datblygiad cynaliadwy.

Gallwch chi ganfod cynnyrch Masnach Deg drwy gadw llygad am y label masnach deg ar fwydydd fel siocled a choffi. Dyma'r label masnach deg.

Ble dechreuodd labelu Masnach Deg?

Dechreuodd labelu Masnach Deg yn yr Iseldiroedd yn 1988 ar goffi o Mecsico. Dechreuodd yr arfer yn y DU yn 1994

Sut mae Masnach Deg yn gweithio?

Er mwyn i'r system Fasnach Deg weithio mae'n rhaid cael partneriaeth rhwng gwlad llai economaidd ddatblygedig (GLEDd) fel Uganda yn Africa, a gwlad mwy economaidd ddatblygedig (GMEDd) fel Cymru.

Oeddech chi'n gwybod?

undefined

Mae GLlEDd (Gwlad Llai Economaidd Ddatblygedig)yn wlad dlotach fel gwledydd Affrica.

Mae GMEDd (Gwlad Mwy Economaidd Ddatblygedig) yn wlad gyfoethog fel Cymru.

LEDC + MEDC = a fairtrade partnership

Sut all cwmnïau brynu nwyddau Masnach Deg?

Mae dwy brif ran i brynu nwyddau gan ddefnyddio’r dull masnach deg - yr isafswm a’r pris premiwm:

Beth yw’r isafswm?

Yr isafswm yw’r pris isaf y gall prynwr cynnyrch Masnach Deg ei dalu i’r ffermwr. Er enghraifft, allai cwmni sy’n gwerthu coffi yn y DU ddim prynu ffa coffi am lai nag 80 ceiniog y pwys gan ffermwr ym Mecsico. Pennir y pris hwn i wneud yn siwr y bydd y ffermwr wastad yn gwneud bywoliaeth deg wrth werthu ei gynnyrch.

Mae hefyd yn golygu y bydd y ffermwr yn gallu parhau i gynhaeafu’r ffa coffi heb redeg allan o arian i wneud hyn.

Ond beth os yw coffi yn costio mwy yn y DU, all y prynwr barhau i dalu’r isafswm?

Os yw pris coffi yn codi yn sydyn yn y DU, all cwmnïau ddim mynnu talu llai am y ffa coffi. Maen nhw’n dal i orfod talu £2 y bag.

All prynwyr newid eu cytundeb â ffermwr yn sydyn i dalu llai?

All pobl sy’n prynu nwyddau Masnach Deg ddim dewis newid eu cytundeb â ffermwr Masnach Deg yn sydyn. Yn wir mae’n rhaid iddyn nhw arwyddo cytundeb hir gyda ffermwyr Masnach Deg.

Beth yw’r pris premiwm?

Pris premiwm Masnach Deg yw’r arian ychwanegol sy’n dod o gost y ffa. Mae’r arian yma yn cael ei wario ar brosiectau datblygu cymdeithasol, amgylcheddol neu economaidd. Y gweithwyr yn aml sy’n dewis sut mae’r arian am gael ei wario. Mae’n cael ei wario ar addysg ac iechyd, technegau ffermio i wella cnwd a safon, neu gyfleusterau prosesu i gynyddu incwm.

Astudiaeth Achos: Cyswllt â Chymru – Coffi Cydweithredol Gumutindo

Mae gan Goffi Cydweithredol Gumutindo gyswllt agos â Chymru - mae’n ardal yn Uganda sydd wedi gefeillio â Rhondda Cynon Taf yng nghymoedd de Cymru. Bydd aelodau o Gumutindo yn dod i Gymru i hyrwyddo Pythefnos Masnach Deg 2010.

undefinedMae 3034 ffermwr yn rhan o’r ymgyrch gydweithredol. Mae mwyafrif y ffermwyr yn ffermio tua 0.2 hectar o goffi ac maen nhw i gyd bron yn ffermwyr organig. Mae nifer o ffermwyr eraill yn yr ardal yn gweithio i wella safon eu cynnyrch fel eu bod nhw hefyd yn gallu bod yn rhan o’r fenter.

 

 

 

Mr. Gilbertson o Ysgol Gynradd Llanilltud Faerdref yn gweithio yn warws Gumutindo

 

 

Oeddech chi'n gwybod?

undefined

Gwella Cydraddoldeb Rhywiol a rhoi Grym i Ferched

Dyma un o Amcanion Datblygu’r Mileniwm. Mae mentrau cydweithredol wedi bod yn bwysig wrth gyrraedd yr amcanion yma.

Mae mentrau cydweithredol Masnach Deg yn ceisio rhoi rôl fwy i ferched yn eu cymunedau. Mae pwyllgor yn rhedeg menter gydweithredol Gumutindo gyda dau berson o bob cymued yn bresennol. Rhaid i uno’r rhain fod yn ferch. Mae hyn yn rhoi mwy o brofiad rheoli i ferched sy’n rhoi cyfle iddyn nhw wella’u hunain. 
Mae merched hefyd yn cael eu talu’n uniongyrchol am y gwaith y maen nhw yn ei wneud ac mae mwyafrif y gwaith ffermio yn cael ei wneud gan ferched. Mae hyn yn swnio’n hollol naturiol i ni yng Nghymru, ond yn aml yn Affrica mae merched yn cynhyrchu’r cnwd y bydd y dyn yn ei werthu am arian. Mae’r merched sy’n gweithio’n uniongyrchol i’r fenter yn Gumutindo yn ennill rhwng 80 ceiniog a £1.20 y diwrnod, dwbl beth fyddent yn ennill mewn sywdd arall. Mae rheolwyr a goruchwylwyr yn ennill mwy ac mae nifer o’r rhain yn ferched.

Sut ddechreuodd yr ymgyrch gydweithredol?

Dechreuodd yr ymgyrch gydweithredol drwy ddechrau partneriaeth â Twin Trading. Cwmni o’r DU yw hwn sy’n canfod ffermwyr coffi sydd am fod yn rhan o fenter Masnach Deg. Mae Cafédirect ac Oxfam yn gwerthu Coffi Cydweithredol Gumutindo yn y DU.

Ble mae’r ffermwyr?

Yn nwyrain Uganda mae Coffi Cydweithredol Gumutindo wedi’i leoli, ar lethrau deheuol Mynydd Elgon.

Pam ffermio yma?

Mae’r pridd folcanig ffrwythlon a’r hinsawdd isdrofannol yn yr ardal yn ddelfrydol ar gyfer tyfu coffi Arabica o safon uchel. Ffermydd bychain a elwir yn shambas sydd gan y trigolion.

undefined

Shambas (ffermydd) ar Fynydd Elgon

Cadw’r tir yn ffrwythlon

Maen nhw’n plannu’r coffi am yn ail â chnydau bwyd eraill fel cassafa, ffa, bananas, tatws melys ac afocado. Mae’r cnydau yma i gyd yn tyfu ar yr un pryd. Mae hyn yn gwella ffrwythlondeb y pridd, yn atal erydu pridd ac yn rhoi cysgod i’r coed coffi.

Sut mae coffi’n cael ei ffermio?

undefinedWrth gynaeafu mae’r ffermwyr yn casglu’r ceirios coch aeddfed o’r coed coffi. Mae’r ceirios yn cael eu mwydo mewn dwr cyn eu bwydo â llaw drwy beiriant pwlpio. Mae hyn yn gwahanu’r ffa a’r pwlp allanol. Mae’r ffa yna yn cael eu gadael ar raciau i sychu yn yr haul. Gelwir y ffa nawr yn goffi memrwn (parchment coffee) oherwydd ei olwg sych fel papur. Mae wedyn yn cael ei anfon i warws Gumutindo i gael ei brosesu.

 

Merched yn gweithio ym menter gydweithredol Gumutindo

Flash Player Required

Get Adobe Flash player

Faint o arian gaiff y ffermwyr am eu coffi?

Mae prynwyr Masnach Deg yn talu isafswm pris o 80 ceiniog y pwys yn ddi-ffael. Maen nhw hefyd yn cael arian ychwanegol ar ben hyn, o leiaf 5 ceiniog ym mhob punt. Premiwm yw’r enw ar hyn.

Beth sy’n digwydd i’r arian ychwanegol (premiwm)?

Mae’r arian yn mynd i gronfa. Mae’r ffermwyr yn penderfynu sut i fuddsoddi’r arian. Hyd yn hyn, mae’r prosiectau yn cynnwys:

  • Adeiladu ac atgyweirio warysau coffi

  • Helpu prosiectau cymunedol fel ysgolion, clinigau, gwarchod ffynonellau dwr naturiol, adeiladu ac atgyweirio ffyrdd

Beth allwch chi wneud dros Bythefnos Masnach Deg 2010?

Thema Pythefnos Masnach Deg eleni yw Cyfnewid (The Big Swap). Mae’r Sefydliad Masnach Deg am i filiwn ag un o bobl i gyfnewid rhywbeth am gynnyrch Masnach Deg yn ystod y pythefnos. Mae pwyslais mawr ar de, felly beth am gael eich rhieni neu eich athrawon i newid i ddefnyddio te Masnach Deg? Ond does dim rhaid stopio gyda the yn unig, beth am newid eich siocled dros Fasnach Deg? Bananas dros Fasnach Deg?

Prosiect

Gallech chi lunio ymgyrch bosteri i annog cyfnewid yn eich dosbarth, eich blwyddyn, neu eich ysgol gyfan. Ceisiwch annog pobl i gofrestru eu newidiadau ar Wefan y Sefydliad Masnach Deg:

Dolenni cysylltiedig

Top

Mwy o’r rhifyn yma...