2

Ethnigrwydd Cymreig

Cymru yw'r ardal gyda'r lleiaf o amrywiaeth ethnig ar dir mawr Prydain!

Yn ôl cyfrifiad, 2001, mae gan Gymru lai o bobl o leiafrifoedd ethnig yn byw yma nag unrhyw ran arall o'r DU. Dim ond pedwar y cant o'r boblogaeth oedd o gefndir lleiafrifol o'i gymharu â un deg tri y cant yn Lloegr.

Oeddech chi'n gwybod?

undefined

Beth yw cyfrifiad?

Arolwg o bobl yw cyfrifiad. Yn y DU mae’n digwydd bob 10 mlynedd.

Yng nghyfrifiad 2001 roedd straeon yn y newyddion am nad oedd gan bobl y dewis i ddweud eu bod yn Gymru (mae categori Gwyn Prydeinig ond dim un Cymraeg).

 

 

Mae gwahaniaeth mawr hefyd yng Nghymru rhwng y niferoedd o bobl o leiafrifoedd ethnig. Caerdydd, Casnewydd ac Abertawe sydd â'r amrywiaeth mwyaf er enghraifft, ond mae'n anarferol gweld person croen tywyll yn y Cymoedd neu yng ngogledd Cymru.

Oeddech chi'n gwybod?

undefined

Diffiniadau o ethnigrwydd


Mae ethnigrwydd yn cyfeirio at sut mae’r boblogaeth yn rhannu’n grwpiau ethnig gwahanol. Mae grwp ethnig yn grwp o bobl sy’n rhannu’r un treftadaeth hiliol neu diwylliannol.

 

 

Mae nawdeg naw y cant o boblogaeth Wrecsam yn wyn, gyda dim ond 131 person croen tywyll o boblogaeth o 128,000. Edrychwch ar y tabl i weld y gwahaniaeth rhwng poblogaeth Casnewydd a Wrecsam.

Astudiaeth Achos (Cyfrifiad 2001)

Casnewydd

Wrecsam

Diversity Index

0.13

Diversity index

0.05

Cyfanswm y Boblogaeth

137,011

Cyfanswm y Boblogaeth

128,476

Prydeinig Gwyn

127,563

Prydeinig Gwyn

125,129

Gwyddelig

1,045

Gwyddelig

626

Gwyn Arall

1,800

Gwyn Arall

1,318

Cymysg

1,635

Cymysg

452

Asiaidd

3,577

Asiaidd

457

Tsieiniaidd

296

Tsieiniaidd

168

Croenddu

734

Croenddu

131

Arall

361

Arall

195

Mae'r graff llinell yma yn dangos y data poblogaeth ar gyfer Wrecsam a Chansewydd. Mae'n amlwg bod Casnewydd wedi profi mwy o fewnfudo oherwydd y cynnydd cyflym cyffredinol - yn enwedig rhwng 1881 ac 1911.

undefined

Blwyddyn

Casnewydd

Wrecsam

Cymru

1801

6,657

24,175

533,235

1811

9,644

27,180

600,612

1821

11, 892

33,043

708,105

1831

14,634

35,458

805,749

1841

21,727

40,384

921,792

1851

29,238

42,218

1,027,023

1861

35,515

49,519

1,208,304

1871

41,792

56,821

1,389,588

1881

48,069

64,122

1,570,873

1891

65,173

70,703

1,770,633

1901

79,342

79,630

2,053,111

1911

96,600

89,684

2,442,041

1921

103,472

91,743

2,656,474

1931

110,849

93,851

2,253,332

1941

116,434

98,766

2,592,360

1951

122,303

103,961

2,598,675

1961

128,024

108,121

2,644,023

1971

134,014

112,454

2,729,391

1981

131,016

118,053

2,749,733

1991

137,264

124,127

2,890,605

2001

137,011

128,476

2,903,085

Beth mae Prydeiniwr Gwyn yn golygu?

Efallai y byddwch chi am ofyn un cwestiwn pwysig iawn sef pwy sydd yn y categori “Gwyn Prydeinig”? Neu mewn ffordd arall, pwy yw'r Cymry?

undefined

Mae'r llun yma'n dangos mosg newydd Casnewydd drws nesaf i Glwb Gwyddelod Casnewydd. Dyw'r siopau ar gyfer pobl o Dwyrain Ewrop fel Gwlad Pwyl ddim ymhell.

Mae gwahaniaeth mawr rhwng hanes y categori cyfrifiad “Gwyn Prydeinig” yng Ngogledd/Gorllewin/Canolbarth Cymru o'i gymharu â trefi arfordir De Cymru a Maes glo De Cymru. Mae dosbarthiad y siaradwyr Cymraeg yn dangos hyn yn well o bosibl.

Ym aml, mae gan ardaloedd lle mae Saesneg yn brif iaith hanes hir o fewnfudo. Mae'r llun yma'n dangos mosg newydd Casnewydd drws nesaf i Glwb Gwyddelod Casnewydd Mae'n dangos y tonnau gwahanol o fewnfudo i'r ardal. 'Dyw'r siopau ar gyfer pobl o Ddwyrain Ewrop fel Gwlad Pwyl ddim ymhell.

O Ddwyrain Ewrop mae’r don ddiweddaraf o fewnfudwyr i’r ardal yn dod. Mewn 40 mlynedd, a fydd eu plant nhw yn cael eu dosbarthu fel Gwyn Arall (fel maen nhw heddiw) neu fel Gwyn Prydeinig?

Un ffordd o edrych ar mewnfudiad i ardal yw edrych ar newidiadau yng nghyfanswm y boblogaeth. Nid yw newidiadau mawr yn deillio o Gynnydd Naturiol ond yn hytrach o fewnfudo. Drwy blotio data fel graffiau llinell gallwch chi weld pryd roedd mewnfudo ar raddfa uchel yn digwydd.

Oeddech chi'n gwybod?

undefined

Poblogaeth yw cyfanswm y bobl sy’n byw mewn ardal. Cynydd naturiol yw’r gwahaniaeth rhwng cyfraddau geni a marw. Cyfradd geni yw faint o fabanod sy’n cael eu geni (mae’n cael ei fesur mewn genedigaeth fesul mil (‰) o’r boblogaeth). Cyfradd marw yw faint o bobl sy’n marw (mae’n cael ei fesur mewn mawrwolaeth fesul mil (‰) o’r boblogaeth).

 

 

 

Roedd y mwyafrif helaeth o fewnfudwyr hyd at yr 1950au yn dod o rannau eraill o’r DU, Iwerddon neu Ewrop felly bydden nhw’n cael eu cyfri fel Gwyn Prydeinig erbyn heddiw. Mewn gwirionedd, mae mewnfudo i drefi Maes Glo De Cymru a trefi’r arfordir yn golygu bod gan y mwyafrif o bobl “Gwyn Prydeinig/Cymreig” gefndir mewnfudol. Gellir gweld hyn yn glir yn newid poblogaeth y Rhondda.

Poblogaeth Bwrdeistref y Rhondda

1801

542

1841

748

1851

951

1861

3035

1861

3035

1871

16914

1881

55632

1891

88351

1901

152781

1921

162729

undefined

Wrth edrych ar fap o Gymru yn dangos ble mae pobl yn byw gellir gweld yn glir bod mwyafrif y bobl yn byw ble mae mudo wedi bod ar ei uchaf yn y gorffennol a’n bod ni’n genedl eithf amrywiol o ran ethnigrwydd waeth beth mae’r cyfrynau yn ei honni.

Prosiect

Cynhaliwch eich cyfrifiad eich hunain am ethnigrwydd y dosbarth. Canfyddwch o ble daeth eich cyndeidiau. Ewch yn ôl cyn belled a phosibl. Cymharwch eich cymuned â chymunedau eraill yng Nghymru. Gallwch chi ddefnyddio’r data yn yr erthygl hon neu dynnu graffiau eich hun.

Nawr atebwch y cwestiwn: Oes amrywiaeth ethnig yng Nghymru?

undefined

Top

Mwy o’r rhifyn yma...