2

Gwobrau seren aur

undefinedWrth ddechrau blwyddyn newydd a degawd newydd yn 2010 mae’n amser i ni feddwl am y targedau a osodwyd gan y byd ar ddechrau’r mileniwm. Y sialens fwyaf yw hanneru tlodi ar draws y byd erbyn 2015!

Beth yw targedau’r byd? 

Gelwir y targedau yn Amcanion Datblygu’r Mileniwm. Polisi’r DU yw ein bod ni’n ymrwymo i gyrraedd y targedau. Mae hyn yn cynnwys Cymru, Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon.

 

 

 

 

Oeddech chi'n gwybod?

undefined

Amcanion Datblygu’r Mileniwm

Yn y flwyddyn 2000 pennod y Cenhedloedd Unedig nod i hanneru tlodi yn y Byd erbyn 2015. Er mwyn cyrraedd y nod yma pennwyd 8 targed i bob gwlad. Galwyd pob targed yn Amcan Datblygu’r Mileniwm. Dyma nhw:

  • ADM1: Rhoi terfyn ar Dlodi a Newyn Enbyd.

  • ADM2: Addysg Gynradd i Bawb.

  • ADM3: Gwella Cydraddoldeb Rhywiol a rhoi Grym i Ferched.

  • ADM4: Lleihau Marwolaeth Plant.

  • ADM5: Gwella Marwolaethau Mamau.

  • ADM6: Ymladd HIV/AIDS, malaria a chlefydau eraill.

  • ADM7: Sicrhau Datblygiad Cynaliadwy.

  • ADM8: Partneriaeth Datblygiad Bydol.

 

Cymru’n gweithredu!

Ydyn! Mae cymunedau ledled Cymru yn paratoi i wneud rhywbeth i roi terfyn ar dlodi. Ac mae gweddill y byd yn sylwi ar ein hymdrechion.

Ar Fawrth 1af bydd y Cenhedloedd Unedig yn dyfarnu pum seren aur i grwpiau yng Nghymru sy’n gweithio gyda chymunedau yn Affrica i’w cynorthwyo i wella’u hamodau byw.

Yn 2006, lansiodd Llywodraeth Cynulliad Cymru fframwaith ‘Cymru o blaid Affrica’. Mae hyn wedi annog Cymry cyffredin i laesu’u dwylo a gwneud rhywbeth am dlodi byd-eang. Ble bynnag ydych chi yng Nghymru, dydych chi ddim yn bell oddi wrth rywun sy’n gwneud rhywbeth!

Partneriaethau yng Nghymru

PONT yw enw un o’r partneriaethau sy’n rhan o ‘Cymru o blaid Affrica’ sef Pontypridd Overseas Networking Trust. Mae’n bartneriaeth rhwng Rhondda Cynon Taf yn ne Cymru ac ardal yn nwyrain Uganda o’r enw Mbale.

Pryd dechreuodd y bartneriaeth?

undefinedyn 2000 (fel Amcanion Datblygu’r Mileniwm) pan ddaeth doctor o Bontypridd â grwp o bobl oedd hefyd am helpu pobl yn Affrica ynghyd. Roedd y doctor wedi gwirfoddoli yn ystod y newyn yn Affrica yn ystod yr 80au.

 

 

 

 

Dechrau gyda Mbale

Yn 2002 glaniodd gwirfoddolwyr oedd wedi talu am eu tocynnau eu hunain yn Mbale, Uganda. Fe gysyllton nhw â phobl a sefydliadau lleol i weld beth allen nhw wneud i helpu. Y bwriad gwreiddiol oedd uno trefi Pontypridd ac Mbale yn unig ond cyn bo hir roedd pobl led led Rhondda Cynon Taf am helpu.

Oeddech chi'n gwybod?

undefined

 

 

 

 

 

 

Mae 50 o ysgolion cynradd, uwchradd ac arbenigol yn ac o amgylch Rhondda Cynon Taf wedi llunio partneriaeth gydag ysgolion yn Mbale, Uganda. Mae disgyblion yn ysgrifennu at ei gilydd ac mae athrawon yn trefnu ymweliadau cyfnewid i arsylwi a dysgu yn ysgolion y naill a’r llall. Yma yn ysgol gynradd Buwali maen nhw’n dysgu am Gymru o arddangosfa wedi ei wneud gan Ysgol Gynradd Llanilltud Faerdref yn Llantwit Faerdref. 

Bydd athrawon Rhondda Cynon Taf yn ymweld yn rheolaidd bob blwyddyn, ond mae’r prif ymweliad addysgiadol yn digwydd bob Chwefror dros wythnos hanner tymor yng Nghymru. Daeth y 4 o athrawon hyn o 3 ysgol gynradd wahanol i ddysgu trigolion Mbale am Gymru. Dysgon nhw wersi gwahanol. ‘Roeddent wedi eu synnu y byddai rhai athrawon yn gorfod dysgu dosbarth o 80 o ddisgyblion neu fwy. Dim ond yn ddiweddar y mae Uganda wedi cyflwyno addysg gynradd am ddim i bawb, ac mae diffyg dosbarthiadau ac athrawon yn yr ysgolion.

Ble mae Mbale?

Gwlad yn nwyrain Affrica yw Uganda. Tan 1962 roedd Uganda yn rhan o’r Ymerodraeth Brydeinig. Yn y 1960au cynnar roedd Uganda yn datblygu’n gyflym ac roedd pobl y wlad yn edrych ymlaen at ddyfodol disglair

undefinedYn 1966, cipiodd y Prif Weinidog Milton Obote rym a gwneud ei hun yn unben. Disodlwyd Obote gan Idi Amin yn 1966, ond daeth yn ôl i bwer yn 1980. Bu’r blynyddoedd yma yn drychinebus i Uganda – lladdodd Amin o leiaf 250,000 o bobl a lladdodd Obote tua 300,000 (Mae rhai ffynonnellau yn honni i’r ddau, rhyngddyn nhw, ladd 800,000 o bobl mewn gwirionedd). Gadawodd y ddau Uganda yn un o’r gwledydd tlotaf yn y byd.

 

Cymerodd Uganda ei chamau cyntaf tuag at wellhâd yn 1986 wrth i’r Arlywydd Yoweri Museveni gipio pwer, ac ers hynny mae wedi gofalu bod y wlad yn dychwelyd yn araf a synhwyrol at >ddemocratiaeth.

 

Heddiw, mae rhyfel cartref yn dal i lethu gogledd Uganda ac mae brwydro cyson ar y ffin â Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo. Ond diolch i lywodraethu da, mae twf economaidd Uganda ymhell dros y gyfartaledd yn yr ardal ac mae’n edrych yn debyg y bydd Uganda yn cyrraedd Amcanion Datblygu’r Mileniwm 1, 2, 3, 6, 7 ac 8. Dim ond amcanion 4 a 5 sy’n debygol o gael eu methu ar hyn o bryd.

Gweithgareddau

Mae’n debyg iawn y bydd gan eich ysgol neu eich cymuned gyswllt â rhywle yn Affrica, dim ots ble ydych chi’n byw. Ceisiwch ddarganfod mwy am y gymuned honno a sut fywyd sydd i’w gael yno. Allwch chi feddwl am ffordd y gallwch chi neu eich dosbarth wneud rhywbeth i helpu’r gymuned gyraedd un o Amcanion Datblygu’r Mileniwm?

Mae plant ysgol cyffredin ledled Cymru yn gwneud hynny’n barod! Beth am roi cynnig arni?

Top

Mwy o’r rhifyn yma...