18

Ein arfordir arbennig

Mae arfordir Cymru'n arbennig oherwydd bod ganddo gymaint o wahanol amgylcheddau arfordirol. Y rheswm dros hynny yw'r amrywiaeth eang yn y mathau o greigiau a'r amgylcheddau ynni. Mae'r Ddaeareg neu'r mathau o greigiau yn amrywio, o graig waddod feddal mewn afonydd yn y De, ger Caerdydd a Cahsnewydd i greigiau folcanig yng Ngogledd Cymru yn enwedig ar Benrhyn Llŷn. Mae'r ynni hefyd yn amrywio. Mae'n dibynnu ar a yw'r rhan hwnnw o'r arfordir wedi'i warchod, megis Aber Afon Hafren neu a yw'n agored i rym y môr mawr fel yn Ne Orllewin Cymru.
undefined
Pont Werdd Cymru
Cyrch y tonnau sy'n gyfrifol am sut ynni sy'n effeithio ar rannau penodol o'r arfordir. Dyma'r enw am faint o fôr agored y mae tonnau'n teithio drosto. Mae rhai o lannau De Orllewin Cymru yn wynebu miloedd o filltiroedd o Fôr yr Iwerydd ac mae rhai o lannau'r Gogledd yn wynebu miloedd o filltiroedd o fôr gwyllt Gogledd yr Iwerydd. Fel arfer, yr hiraf fo'r cyrch yr uchaf fo' ynni'r amgylchedd.

Mae rhai o amgylcheddau tawelaf dyfroedd Cymru i'w darganfod yn aber yr afonydd Dyfrdwy, Llwchwr a Hafren. Bydd afon yn cwrdd à'r môr mewn moryd. Fel arfer, mae lefelau ynni'r ardaloedd hyn mor isel nes bod gwaddod yno'r rhan fwyaf o'r amser. Tywod, cerrig a mwd yw gwaddod ac maen nhw'ncael eu gollwng i greu tir newydd. Mewn morydiau, mae llwyth o ronynnau clai yn cael ei cludo i lawr yr afonydd. Pan fyddan nhw'n cyrraedd dŵr hallt y môr mae'n nhw'n cael eu gwefru'n drydanol sy'n achosi iddyn nhw lynnu i'r naill a'r llall; pan maen nhw'n ddigon mawr maen nhw'n cael eu gollwng gan greu fflatiau mwd sydd ymhen hir a hwyr yn troi'n laswelltog megis rhain ger Afon Dyfrdwy yng Nghogledd Cymru.

undefined

Aber Afon Dyfrdwy

Mae gan lawer o Orllewin Cymru amgylchedd ynni isel oherwydd bod Iwerddon yn ei warchod. Mae hyn wedi arwainat draethau bendigedig Bae Aberteifi. Ymhellach i'r De ac i'r Gogledd y mae glannau creigiog Sir Benfro a Phenrhyn Llŷn.

Caiff traethau eu ffurfio gan waddod ac felly maen rhaid i hynny ddigwydd mewn amgylcheddau ynni isel. Yn amlwg, mae clogwyni creigiog yn profi erydiad ac felly mae'n rhaid eu bod nhw yn cael eu ffurfio mewn amgylchedd ynni uchel. Felly pam ein bod ni'n eu darganfod nhw wrth ymyl ei gilydd? Oni ddylai traethau fod mewn ardaloedd wedi'u gwarchod a chlogwyni mewn ardaloedd agored? Gall newid lleol mewn math o graig greu adraloedd gwarchodedig mewn amgylcheddau ynni uchel fel Sir Benfro.

undefined

Aberllydan

Dyma draeth Aberllydan (Broadhaven) ac mae ef mewn ardal o ynni uchel iawn. Fodd bynnag, mae yna fand o greigiau meddalach wedi'u gwasgu rhwng creigiau caletach. Mae'r graig feddal wedi'i erydu i ffurfio bae sydd nawr yn cael ei warchod gan greigiau caled ar y naill ochr a'r llall sydd wedi'u gadael fel trwynau. Llwyddodd gwaddod i adeiladu'r traeth anhygoel hwn mewn ardal warchodedig.

Mae rhai o'r creigiau caled sy'n cael eu gadael fel trwynau neu benrhynion ddatblygu i fod yn rhai o'r tirffurfiau mwyaf trawiadol. Wrth i'r tonau ddyfod at y trwyn, mae'r dŵr bas o flaen y trwyn yn arafu'r tonau tra bo'r dŵr dyfnach o flaen y bae yn caniatáu i'r tonau symud yn sydyn. O ganlyniad, mae'r tonau yn clymu eu hunain o amgylch y trwynau ac yn ymosod arnyn nhw o'r ochr. Mae hyn yn galluogi'r tonau i agor craciau yn y trwyn gan ffurfio ogofâu, sy'n gallu ffurfio i greu bwàu sy'n gallu dymchwel weithiau, i greu pileri o garreg sy'n cael eu galw'n staciau. Mae un yn Sir Benfro o'r enw y Bont Werdd.

Flash Player Required

Get Adobe Flash player

Tasgau

Dewisiwch ddarn o arfordir Cymru sydd gan dirffurf wedi'i ffurfio drwy erydiad ac un wedi'i ffurfio gan waddod.

Eglurwch sut y gall daeareg yr ardal fod wedi helpu wrth greu'r tirffurfiau hyn.

Top

Mwy o’r rhifyn yma...

Bygythiadau i'r arfordir

Bygythiadau i'r arfordir

Newyddion Arfordirol

Newyddion Arfordirol