18

Bygythiadau i'r arfordir

Ym mis Medi 2012, ni ddangosodd gynllunwyr yn ninas Casnewydd unrhyw wrthwynebiad i gwmni o'r enw Sonorex ddechrau ar waith drilio archwiliol am olew a nwy, ddim ond 200 metr oddi wrth Gwarchodfa Corstir Casnewydd. Dangosodd grwpiau amgylcheddol lleol ychydig o bryder, ond a oes gwir fygythiad yma?

Byddai'r Gogledd yn gwrthod!

Oddi ar arfordir Gogledd Cymru, rhyw 24km i fod yn fannwl, mae Maes Olew a Nwy Bae Lerpwl. Mewn gwirionedd, dylid ei enwiyn "Bae Nwy ac Olew Gogledd Cymru" oherwydd gogledd Cymru sydd wedi sicrhau ei fod yn ennyn cymaint ag y mae. Mae 'na rig drilio dri phlatfform â chriw, a thri rig heb griw oddi ar arfordir Gogledd Cymru sy'n cario nwy i'r lan ac i'r orsaf nwy newydd sbon yn Sir y Fflint. Caiff olew ei storio mewn terminal sy'n arnofio ac yna'i drosglwyddo i danceri ar y môr.

undefined

Nwy Bae Lerpwl

Amcangyfrifir bod cyfanswm y gronfa adferadwy ym Mae Lerpwl, ar hyn o bryd, dros 150 miliwn o gasgenni olew a thua 1.3 triliwn troedfedd³ o nwy. Ar hyn o bryd, ar gyfartaledd mae brig cynhyrchiant olew yn rhywbeth fel 70,000 casgen y dydd, a brig nwy yn tua 300 miliwn troedfedd³ y dydd. Mae'n debyg bod hyd y project yn fod i barhau am o leiaf 20 mlynedd. Caiff y nwy ei bibellu yn uniongyrchol i Gei Connah ac felly yn creu swyddi gwerthfawr yn nghornel gogledd ddwyreiniol Cymru.

Mae Cymru yn mynd i wneud enw i'w hun fel cynhyrchydd olew. O edrych ar y data daearegol, mae'r posibiliadau i Sonorex yn Ne Cymru yr un mor galonogol. Gallai Cymru fod yn ei chanol hi o ran olew. Felly, pam nad yw pobl leol yn neidio i fyny ac i lawr yn dathlu?

Un o'r rhesymau yw enw drwg y diwydiant olew o ran yr amgylchedd. Dyma lun o'r ffrwydrad fu ar rig drilio Deepwater Horizon BP yn 2012. Ym 1996, trawodd tancer o'r enw Sea Empress yn erbyn creigiau wrth geisio mynd mewn i Foryd Cleddau ar y ffordd i Aberdaugleddau. Arllwyswyd 73,000 tunnell o olew crai mewn i ddyfroedd arfordirol Sir Benfro.

undefined

Deepwater Horizon

Ceir bygythiadau gyda phopeth ac mae hi'n hollbwysig sicrhau bod popeth yn cael ei wneud i ddiogelu arfordir Cymru. Roedd trychineb y Sea Empress yn wers dda i Gymru oherwydd, nawr, mae gennym ni brofiad uniongyrchol o'r bygythiadau. O ganlyniad felly rydyn ni'n mynnu safonnau diogelwch uchel. Ond mae un peth yn wir, rydyn ni'n defnyddio mwy o ynni; ac mae Cymru yn prysur ddod yn ganolfan ynni i'r DU ac hyd yn oed yn fyd-eang. Gallai hyn ddod â llawer o swyddi ac arian i'r wlad yn y blynyddoedd sydd i ddod.

Mae Aberdaugleddau yn Ria, neu'n ddyffryn afon sydd wedi boddi. Ar ddiwedd oes yr ia; wrth i'r ia ddadmer, cododd lefelau'r môr gan foddi dyffryn yr afon a chreu un o'r harbwrs naturiol gorau yn y byd. Heddiw, mae'r porthladd hwn yng nghanol y diwydiant - yn enwedig o ran mewnforio a choethi'r defnydd o nwy ac olew. Yn fan hyn, bu'r drychineb amgylcheddol fwyaf a welodd Cymru, yn 1996 - arllwysiad olew o'r Sea Empress.

undefined

Aberdaugleddau

O ran morio, Aberdaugleddau yw'r porthladd mwyaf yng Nghymru ac mae'n ymdrin â dros chwarter o danwydd modur y DU. Yn ogsytal ag olew, mae'n ganolbwynt i fewnforio Nwy Naturiol wedi'i hylifo(Liquified Natural Gas) sy'n cael ei storio yno, ei gludo i Gaerloyw yn Lloegr drwy Bibell Nwy De Cymru - sy'n 197 milltir o hyd. O fis medi 2012, llosgwyd y nwy hefyd i gynnal gorsaf bwer thermol newydd, o'r radd flaenaf.

undefined

Gorsaf Bwer Penfro

Efallai bod gorsaf bwer newydd sy'n llosgi tanwydd ffosil yn ymddangos fel cam yn ôl gyda'r holl gynlluniau atal newid hinsawdd sy 'n bodoli. Ond, mewn gwirionedd, mae'n hynod effeithlon o ran tanwydd. O'r herwydd fe fydd yn gallu cymryd lle gorsafoedd pwer hŵn ac mae'n hyblyg o ran ei chynhyrchiant pwer ac felly bydd yn gwella gallu'r DU i gynyddu'r defnydd o'i adnoddau adnewyddadwy, megis pwer y gwynt. Nid yw'r rhan fwyaf o bobl yn gweld na allwn ddefnyddio adnoddau adnewyddadwy annibynnol fel gwynt, oni bai bod rhywbeth wrth gefn ac ar gael yn syth; rhywbeth a elwir yn uchafswm troelli. Mae'r orsaf bwer newydd yn cynnig y gwasaneth hwn gan felly ganiatáu i ni ddibynnu mwy ar ffynhonellau adnewyddadwy fel gwynt. Ar ben ei hun, gall ddarparu digon o drydan i gynnal Cymru gyfan a mwy felly mae'n rhan newydd, bwysig iawn o system ynni integredig y DU. Yn wir, mae mor bwysig, nes nod disgwyliadau i adeiladu o leiaf un arall yn Aberdaugleddau yn fuan iawn. Mae'r twf yn y sector ynni yn ac o amgylch Aberdaugleddau wedi profi'n llwyddiant mawr i bolisi economaidd Llywodraeth Cymru. Ond, sut y mae'r bygythiadau i'r amgylchedd wedi'u lleihau?

Ym mis Mai 2012 derbyniodd Porthladd Aberdaugleddau achrediad Ewropeaidd am safonnau eu System Reoli Amgylcheddol - dim ond 2 arall yn y DU sy wedi cael yr anrhydedd(Peterhead yn Yr Alban a Grimsby yn Lloegr, a porthladdoedd pysgot yw'r rheiny fwyaf). Daeth hynny ar ôl derbyn tystysgrif PERS EcoPorts. Cydnabyddiaeth o'r cynlluniau a'r prosesau a roddwyd yn eu lle gan y porthladd a'r diwydiant yw hyn, er mwyn cefnogi ac amddiffyn yr amgylchedd leol. Mae safonau diogelwch mor uchel ag sy'n bosibl, ac wrth gefn mae yna gynlluniau cynhwysfawr pe bai damwain yn digwydd, yn ogystal â'r offer angenrheidiol i ymdopi ag unrhyw ddigwyddiad rhagweladwy. Felly, rhaid llongyfarch Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau am fod yn gystal model i weddil Cymru, y DU ac Ewrop i gymryd esiampl oddi wrthyn nhw, wrth i ddiwydiannau ynni newydd ddatblygu ar hyn ein arfordir.

Mewn rhifynau blaenorol o 'Daearyddiaeth yn y Newyddion', rydyn ni wedi edrych ar amryw o ffynohellau ynni adnewyddadwy sy'n creu ynni gyda'r môr. Gallai pwer llanw weld sawl moryd neu aber, fel aber afon Hafren ac aber afon Dyfrdwy wedi'u boddi'n barhaol tu ôl i argaeau. Mae yna ffermydd gwynt alltraeth mawr eisoes yn bodoli. Bydd generaduron ffrwd llanw yn cael eu gosod oddi ar arfordir Môn. Mae cynlluniau'n bodoli i osod tyrbinau tanddŵr eraill mewn ffensiau llanw a generaduron ynni tonau yn y môr oddi ar yr arfordir. Gellir meddwl am bob un o'r rhain fel bygythiad enfawr i'n harfordir.

undefined

Pwer y Llanw

Fodd bynnag, byddai sawl un yn dadlau bod cynnydd yn lefelau'r môr a'r cynnydd mewn stormydd yn sgil newid hinsawdd yn cael llawer mwy o effaith. Gallai rhain achosi cynnydd yng ngraddfa erydiad gan felly gynyddu'r perygl o lifogydd, sy'n golygu y byddai pobl sy'n byw wrth yr arfordir yn gorfod newid y glannau yn barhaol drwy adeiladu amddiffyniad rhag y môr, fel rhain yn Aberafan.

undefined

Amddiffyniad Llifogydd Aberafan

Top

Mwy o’r rhifyn yma...

Ein arfordir arbennig

Ein arfordir arbennig

Newyddion Arfordirol

Newyddion Arfordirol