18

Newyddion Arfordirol

Wedi pum mlynedd o waith caled fe lansiwyd Llwybr Arfordirol Cymru ym mis Mai 2012; ac am weddill y flwyddyn mae'r cymunedau yn cynllunio digwyddiadau i nodi'r cyflawniad cyntaf hwn. Yn y pendraw, bydd y llwybr arfordirol 870 milltir o hyd yn cysylltu gyda Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa er mwyn creu llwybr cerdded parhaol am 1030 milltir o amgylch Cymru gyfan.

Ers 2007, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn buddsoddi mewn gwelliannau i fynediad y cyhoedd i'r llwybr yn sgil y Rhaglen Gwella Mynediad i'r Arfordir.

Datblygwyd Llwybr Arfordir Cymru gan Lywodraeth Cymru ar y cyd â Chyngor Cefn Gwlad Cymru, un awdurdod lleol ar bymtheg a dau Barc Cenedlaethol. Gyda'i gilydd maen nhw wedi gwario tua £2 filliwn y flwyddyn ac mae'r Cyllid Datblygu Lleol Ewrop wedi cyfrannu bron i £4 miliwn at gefnogi'r prosiect hefyd.

Oeddech chi'n gwybod?

Ers 2007 mae Gorllewin Cymru a'r Cymoedd wedi cael eu gwobrwyo gyda'r lefel uchaf o gefnogaeth gan yr Undeb Ewropeaidd, sef Convergence (Cydgyfeiriant) - mi fydd y gefnogaeth yn parhau tan 2013. Bwriad Convergence yn gwneud bywydau a chyfleoedd pawb yn yr UE yn fwy cyfartal neu ganiatáu iddyn nhw gydgyfarfod o ran safonnau. Mae'r statws Convergence yn lledaenu ar draws 15 awdurdod lleol mewn ardaloedd o Orllewin Cymru a'r Cymoedd.

Daw'r arian i gynnal y rhaglen Convergence yng Ngorllewin Cymru a'r Cymoedd o ddwy Gyllideb Ewopeaidd wahanol. Rhwng 2007 a 2013 bydd tua £1 biliwn o arian Ewopeaidd yn helpu i drawsnewid yr ardal i economi gynaliadwy a chystadleuol. Bydd dros £690 miliwn o'r arian hefyd yn cael ei ddefnyddio i wella economi, i gynyddu sgiliau a chyflogaeth. Gyda'i gilydd, ynghyd ag arian cyfatebol, bydd buddsoddiad o £3.5 biliwn yng Nghorllewin Cymru a'r Cymoedd.

Mae Cymru ar ei hennill o fod yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd!

 

undefined

Bydd gwelliannau i'r llwybr yn digwydd drwy gydol 2012 a 2013 er mwyn sicrhau bod y llwybr yn dilyn yr arfordir yn agos, ac yn ddiogel ac ymarferol yr un fath. Datblygwyd y syniad i geisio adeiladu ar lwyddiant economaidd Llwybr Arfordir Penfro a Llwybr Arfordir Môn - mae'r ddau lwybr yn denu llawer o ymwelwyr a thwristiaid gan ddod ag arian i Gymru. Dyluniwyd y llwybr fel ei fod yn hawdd i gerddwyr gael mynediad ato. Hefyd, lle bo hynny'n ymarferol, bydd rhai rhannau yn addas i feicwyr, teuluoedd, pobl â chyfyngder ar eu symudedd ac i farchogion.

undefinedMae'r llwybr wedi'i rannu i wyth ardal ddaearyddol:

  • Arfordir De Cymru ac Aber Afon Hafren

  • Gŵyr a Bae Abertawe

  • Sir Gaerfyrddin

  • Sir Benfor

  • Ceredigion

  • Menai, Llŷn & Meirionnydd

  • Ynys Môn

  • Arfordir Gogledd Cymru ac Aber Afon Dyfrdwy

 

 

 

 

Arfordir Moryd y De

undefined

Gan ddechrau yng Nghas-gwent, ar y ffin â Lloegr, mae'r llwybr mewn amgylchedd o forydai trwm. Yng Nghas-gwent, mae afon Gwy yn ymuno ag aber afon Hafren ac mae'r glannau'n un o fflatiau mwd. Mae'r rhan hon hefyd yn cynnwys Pont Hafren ac Ail Groesfan Afon Hafren.

Efallai nad yw Aber Afon Hafren yn un o ardaloedd mwyaf mawreddog Llwybr Arfordir Cymru ond mae'n un o'r rhannau mwyaf arbennig o ran pwysigrwydd i fywyd gwyllt (yn enwedig adar). Mae'n arbennig hefyd am ei Daearyddiaeth Ffisegol oherwydd bod ganddi un o'r amrediadau llanw mwyaf yn y byd. Mae hyn yn golygu y gallech chi weld dim byd ond dŷr neu ddim byd ond mwd wrth gerdded.

Wrth i'r moryd ehangu caiff ei adnabod fel Môr Hafren ac mae'r llwybr yn tywys y cerddwr drwy ddinas Casnewydd, gyda'i phont gludo enwog ger ceg afon Wysg, ac yna ymlaen tua Chaerdydd a Bae Caerdydd, ble mae afon Taf yn cyrraedd y môr.

undefined

undefined

Arfordir Creigiog De a De Orllewin Cymru

Ar ôl Caerdydd mae cymeriad yr arfordir yn newid yn arw - o amgylchedd gwastad i glogwyni creigiog wedi'u gwahanu gan ambell i draeth neu geg afon. Mae'r rhan hon, tuag at y de-orllewin, yn dechrau wynebu mwy o fôr agored. Mae hyn yn golygu bod gan y môr lawer mwy o ynni nag oedd ganddo yn ardaloedd cysgodol y morydai fwy i'r Dwyrain. Hefyd, mae llawer mwy o greigiau caled o dan y ddaear - dyna pam mae'r ardal mor wahanol.

Ardal greigiog nodweddiadol fel hyn yw Southerndown, ac os ydych chi'n lwcus efallai y dewch chi wyneb yn wyneb â chriw y BBC sy'n ffilmio Doctor Who yno. Mae'r rhan hon o'r arfordir creigiog wedi'i rhannu gan draethau mewn Baeau o greigiau meddalach. Mae traethau Porthcawl, Aberafan a Bae Abertawe yn ardaloedd tywodlyd hir o'r rhan yma o'r arfordir.

Ar ôl Bae Abertawe fe ddowch chi ar brydferthwch Penrhyn Gŵyr. Penrhyn Gŵyr oedd y lle cyntaf ym Mhrydain i dderbyn statws Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol swyddogol. Mae'n un o glogwyni creigiog a thrwynau wedi'u rhannu gan draethau bychain. I'r Gogledd o Ben Pyrod (Worm's Head), fodd bynnag, mae traeth hir Rhosili ac yna Moryd Llwchwr.

undefined

Ym mhen Moryd Llwchwr mae tref Llanelli a'i thîm rygbi byd-enwog sydd nawr yn prysur dyfu'n ganolfan ar gyfer ffilm a'r cyfryngau. Ar ôl tref Llanelli, mae traeth Cefn Sidan; un o'r traethau hiraf yng Nghymru. Daw rhan greigiog i ben yn gyflym wrth nesáu at Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

undefined

Yn ogystal ag amgylchedd ffisegol trawiadol, ardal Sir Benfro yw cartref Cadeirlan Dewi Sant. Tyfodd y ddinas fechan hon o amgylch cartref Nawdd Sant Cymru a anwyd ychydig i'r de o'r ddinas yn 500 AD.

Mae'r rhan yma o'r llwybr hefyd yn dod â ni at harbwr naturiol, anhygoel Aberdaugleddau a'i ddiwydiant cysylltiedig.

Ar ôl Sir Benfro, mae llinell arfordirol Cymru yn newid cymeriad unwaith eto pan mae treigl eang Bae Aberteifi'n dechrau.

Bae Aberteifi a Gorllewin Cymru

undefined

Wrth symud yn Ogleddol, oddi wrth Sir Benfro mae'r ddaeareg galed yn cilio, a chaiff arfordir gorllewin Cymru ei warchod rhag y môr mawr gan Iwerddon.

 

Er bod gan y rhan yma rai o'r traethau mwyaf mawreddog mae sawl rhan greigiog yma hefyd. Bydd sawl un ohonoch yn gyfarwydd â Llangrannog, sy'n gartref i Ganolfan Gwersyll yr Urdd, neu'n gyfarwydd â threfi bychain Aberaeron a Chei Newydd. Mae bywyd gwyllt y môr yn y Bae, yn enwedig mamaliaid mwy megis dolffiniaid a morloi, i'w gweld o'r llwybr.

undefinedY brif dref ar y rhan yma yw Aberystwyth sy'n dref brifysgol enwog. Ar ôl Aberystwyth, â'r llwybr fyny am Machynlleth lle mae modd i gerddwyr ymweld â Chanolfan ar gyfer Technoleg Amgen.

I'r gogledd o Fachynlleth mae'r arfordir yn parhau drwy draethau prydferth a threfi bychain fel Abermaw. Daw'r rhan yma i ben yn nhref fyrlymus Porthmadog cyn i'r arfordir newid yn ddramatig unwaith eto. Yn wreiddiol, adeiladwyd harbwr Porthmadog yma er mwyn allforio llechi. Mae'r dref yn gartref i reilffyrdd hanesyddol a ddefnyddiwyd yn yr un diwydiant.

 

 

 

 

Penrhyn Llŷn, Môn ac Arfordir Gogledd Cymru

undefinedEto fyth, daw newid yn yr arfordir ar ôl Porthmadog gyda chreigiau caled, folcanig tebyg i'r rhai sy'n ffurfio Eryri gan greu Penrhyn Llŷn. Mae'r creigiau caled hyn yn ffurfio tirlun o glogwyni dramatig. Ond, am bod y penrhyn mor hir, mae wedi helpu i gadw ardaloedd mawr rhag colli eu diwylliant Cymreig. Heddiw mae'r ardal yn enwog am ei Chymreictod a'i diwylliant ac mae hynny wedi denu nifer fawr o ymwelwyr sy'n gosod yr iaith a'r diwylliant dan fygythiad.

I'r Gogledd o Lŷn mae tref hynafol Caernarfon a'i chastell. Mae cestyll gogledd Cymru yn denu llawer iawn o dwristiaid ac yn un o uchafbwyntiau'r llwybr arfordirol. Ar ôl Caernarfon mae afon Menai sy'n gwahanu'r tir mawr a Môn. Gyda Sir Benfro, roedd Môn yn un o'r ddau llwybr arfordirol gwreiddiol. Mae Ynys Môn yn ychwanegu at ei stôr o atyniadau hanesyddol a diwylliannol drwy fod yn ganolfan y byd ar gyfer datblygu cyflenwadau ynni amgen.

undefinedMae arfordir Gogledd Cymru yn hynod hygyrch i lawer o ddinasoedd gogledd orllewin Lloegr ac o ganlyniad ceir yma rai o'r trefi mwyaf datblygedig o ran llety ac atyniadau. Ymhlith y canolfannau hyn mae Llandudno, Rhyl a Phrestatyn ble daw'r Llwybr Arfordirol at Lwybr Cenedlaethol Clawdd Offa sy'n ein harwain ni'n ôl at ein man cychwyn ni yng Nghas-gwent yn y De.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Mae hi'n amlwg o'r llun hwn o Landudno bod y dref wedi datblygu ei rhwydwaith twristiaeth yn dda.

Top

Mwy o’r rhifyn yma...

Bygythiadau i'r arfordir

Bygythiadau i'r arfordir

Ein arfordir arbennig

Ein arfordir arbennig