14

Maint Cymru

undefined

Project Maint Cymru

Dyma Alice o Bontypridd a Juliet o Bubutu, Uganda yn hybu'r project 'Maint Cymru'.

1,000,000 o goed i Uganda

Aeth John Griffiths AC a'r Gweinidog ar gyfer yr amgylchedd a datblygiad cynaliadawy a Jon Townley o “Wales for Africa” i ymweld â meithrinfa goed yng ngartref plant amddifad Salem yn Nakaloke, Mbaled yn nwyrain Uganda. Mae Salem yn un o bedwar grŵp lleol sy'n helpu Cymru i blannu 1,000,000 o goed.

Yn ogystal â helpu i leihau lefelau CO2 sy'n helpu'r frwydr yn erbyn newid hinsawdd byd-eang, mae coed yn cynnal glaw dibynnadwy drwy drydarthu anwedd dŵr i'r amgylchedd. Mae'r coed hefyd yn amddiffyn y pridd rhad erydiad. Hefyd, mae coed yn darparu cnydau gwerthfawr megis ffrwythau, bwyd i anifeiliaid, coed tân ac yn yr hir dymor, deunydd adeiladu.

undefined

Uganda

Dyluniwyd y cynllun 1,000,000 o goed er mwyn uchafu buddion economaidd drwy gyfrannu at weithgarwch ffermydd lleol o ran agrofforestiaeth. Mae gan yr ardal dros 90,000 o ffermwyr coffi ar lethrau'r llosgfynydd marw Mount Elgon ble mae'r hinsawdd yn oerach oherwydd ei uchder. Mae wirioneddol angen y coed hyn fel eu bod nhw'n gallu gwarchod y coed coffi sydd wedi cael eu difrodi gan gynydd yn y tymheredd oherwydd newid hinsawdd.

Mae'r project wedi darparu llawer o goed ffrwythau i grwpiau cymunedol ac ysgolion hefyd. Tra 'roedd o yno, plannodd John Griffith goed ffrwythau mewn ysgol sydd ar y ffin â Kenya.

Cymru = gwlad fach, argraff fawr!

Bu llwyddiant y project 'Maint Cymru' a'r project 1,000,000 o goed i Uganda cystal nes bod y Cenhedloedd Unedig wedi buddsoddi $2,000,000 ychwanegol ynddynt. Hefyd mae 'Wales for Africa' wedi cael eu gwahodd i egluro i'r Cenhedloedd Unedig pa mor effeithiol ydy'r project.

undefined

Uganda

NHD - Newid Hinsawdd yn Diriogaethol

Dewiswyd Llywodraeth Cymru gan y Cenhedloedd Unedig i gynnal un o ddeg project arbrofol, byd-eang sy'n gobeithio goresgyn effeithiau newid hinsawdd; nid yng Nghymru ond yn Affrica! Ym mis Rhagfyr 2011, yn y gynhadledd fyd-eang am newid hinsawdd, cyflwynodd Jon Townley o Wales for Africa a'i gyd-weithwyr o Uganda adborth i Ban Ki Moon sef ysgrifennydd cyffredinol y Cenhedloedd Unedig a naw o swyddogion eraill am gynnydd y project. Yn wahanol i'r 9 project arall, pan wariwyd cyllideb y project ar hyfforddi a lletya pobl leol mewn prifysgolion drud fel y gwnaeth Ffrainc, 'roedd y dull Cymreig ychydig bach yn wahanol. Gwirfoddolodd darlithwyr o Brifysgol Bro Morgannwg i fynd i Uganda, yn ddi-dâl, a hyfforddi'r gweithwyr. Dysgon nhw sgiliau hanfodol fel defnyddio G.I.S ar y tir i'r trigolion lleol a oedd yn golygu y gellir defnyddio mwy o'r gyllideb yn gwneud rhywbeth am newid hinsawdd yn Affrica.

A dweud y gwir, safodd y byd ar ei drawd a chydnabod bod 'Cymru o blaid Affrica' am bobl yng Nghymru yn gwirfoddoli i helpu - nid yn ei wneud am gyflog! 'Rydyn ni wir yn gwneud rhywbeth gwahanol yma.

Gallwch chi wneud rhywbeth eleni hefyd:

Gweithgaredd

Darllennwch y gwahanol astudiaethau achos ar wefan Maint Cymru ac yna dyluniwch gyflwyniad PowerPoint i anog eich cyd-ddisgyblion i ymuno â phrosiect Maint Cymru. Ymunwch fel unigolion, fel teulu neu fel ysgol! Helpwch i lenwi'r map ar ei gwefan.

Dolenni cysylltiedig

 

Tybed allwch chi gofrestru i blannu un goeden allan o filiwn fel rhan o Brosiect Coedwigaeth y Jiwbilî neu efallai y gallwch chi drefnu digwyddiad plannu coed yn eich sygol neu eich cymuned?

Top

Mwy o’r rhifyn yma...

Digwyddiadau Olympaidd

Digwyddiadau Olympaidd

Gemau Olympaidd 2012

Gemau Olympaidd 2012