14

Digwyddiadau Olympaidd

Beth sy'n gwneud lleoliad da?

Cymru fydd yn cychwyn pethau yn y gemau Olympaidd eleni, hyd yn oed cyn y seremoni agoriadol yn Llundain. Bydd y twrnamaint pêl-droed yn dechrau yng Ngharedydd am 16:00 ar y 25ain o Orffennaff gan ei gwneud hi y gystadleuaeth gyntaf i ddigwydd yng Ngemau Olympaidd 2012. Beth sy'n gwneud Stadiwm y Miileniwm yn lleoliad cystal i gynnal digwyddiadau chwaraeon ac adloniant?

undefined

Stadiwm y Mileniwm - Caerdydd

O rygbi, i ralïo, i “monster trucks”, i rai o'r cyngherddau roc a phop mwyaf - mae Stadiwm y Mileniwm Caerdydd yn lleoliad perffaidd i gynnal digwyddiadau. Un o'r prif gryfderau yw ei daearyddiaeth ddynol. Mae'r stadiwm reit yng nghanol Caerdydd, sy'n golygu ei bod hi'n agos iawn at rwydwaith mewnol anhepgor megis trafnidiaeth, llety, bwytai, bariau a pharcio. Mae'r nodweddion hyn, hynny yw, bod 5 munud oddi wrth gorsaf drenau fawr neu orsaf bysiau yn gwneud canol dinas yn lle cystal ar gyfer busnes ac adwerthu a hefyd cynnal unrhyw ddigwyddiad.

Yn wahanol iawn i lawer o atyniadau yng Nghymru, mae daearyddiaeth ddynol yn bwysicach na daearyddiaeth ffisegol. Fodd bynnag, mae'r lleoliad yn ennyn o fod ar lan afon deniadol ac mae rhai digwyddiadau o'r gorffennol, ralïo er enghraifft, wedi dibynnu ar ei agosrwydd i dirwedd mwy gwyllt De Cymru.

Daearyddiaeth Ddynol

Daearyddiaeth dynol yw nodweddion lle sydd wedi cael eu creu gan bobl. Mae'n cynnwys cysylltiadau - term mae daearyddwyr yn ei ddefnyddio i ddisgrifio ffyrdd o deithio fel heolydd a rheilffyrdd. Hefyd, cynhwysir gweithgareddau economaidd ynddo fel adwerthu a busnes ynogystal â nodweddion fel tai a math arall o letya. Mae ffactorau eraill yn gallu cynnwys amrediad eang o nodweddion o gyfleusterau addysgiadol i ofal iechyd, at hyd yn oed gweithgareddau diwylliannol. Yn aml iawn, caiff nodweddion pwysicaf o ran daearyddiaeth ddynol rhywle eu crynhoi yn defnyddio'r term 'rhwydwaith mewnol'.

Daearyddiaeth ffisegol

Nodweddion naturiol rhywle yw'r hyn a elwir yn ddaearyddiaeth ffisegol. Mae'n cynnwys tirwedd rhywle, meis ei uchder, pa mor serth neu ba mor wastad yw'r lleoliad. Mae hefyd yn cynnwys hinsawdd, sef y tywydd arferol mae'r ardal yn ei brofi. Gall hefyd gynnwys nodweddion sy'n cael eu hachosi gan erydu, fel afonydd neu foroedd.

undefined

Y ddadl dros feicio mynydd

Yn fuan ar ôl i Llundain gael ei chyhoeddi fel dinas cynnal y gemau Olympaidd, cyhoeddwyd Caerdydd fel y ddinas i gynnal y twrnamaint pêl-droed. Pan ddyfarnwyd y lleoliad beicio mynydd yn Essex yn annigonol, gellir dadlau mai'r peth naturiol i wneud oedd ei symud i Gymru. Dadleuodd Llywodraeth Cymru bod gan Gymru heriau beicio mynydd o'r safon uchaf eisoes ac mai symud yr her i Gymru fyddai'r peth synhwyrol i'w wneud yn hytrach na cheisio adeiladu rhywbeth yn rhywle sy'n ceisio efelychu'r un safon o ddaearyddiaeth ffisegol â Chymru. Wedi'r cyfan, mae Prydain gyfan i fod i enynn o'r Gemau Olympaidd a mi oedd Caerdydd wedi cael y pêl -droed eisoes...

undefined

Canŵwyr

Er gwaetha'r holl ddadlau a'r dystiolaeth ddaearyddol oedd o blaid Cymru; dewisodd pwyllgor Llundain 2012 adeiladu rhywbeth newydd yn Essex gan ddadlau, er na fydd o cystal; roedd angen lleoliad ar dde ddwyrain Lloegr i annog gwell cyfranogiad i feicio mynydd. Mae gan Gymru'r ddaearyddiaeth ffisegol i ddenu twristiaid sydd am antur o ledled y byd. Mae mynyddoedd serth, afonydd cyflym, arfordiroedd prydferth, tonau syrffio mawr ac ogofâu helaeth yn golygu fod Cymru yn baradwys i'r rhai sy'n caru antur. Hefyd, mae mynyddwyr, dringwyr, canŵwyr, ogofwyr, caiacwyr, rafftwyr, cerddwyr a rhai pobl sy'n frwdfrydig dros fywyd gwyllt fel gwylwyr adar, saethwyr a physgotwyr yn dod i Gymru pob penwythnos (neu ar wyliau hirach) er mwyn mwynhau'r ddaearyddiaeth a gwario canoedd o filiynau o bunoedd yn yr economi Gymreig.

Mae o'n gwestiwn diddorol - byddai'r digwyddiad Olympaidd yn llawer gwell yng Nghymru ond byddai ei effaith yn fwy yn Essex. Ble dylai'r beicio mynydd fod wedi'i gynnal?

Flash Player Required

Get Adobe Flash player

Gweithgaredd

Canfyddwch leoliad sy'n lleol i chi a allai gael ei ddatblygu i gynnal digwyddiad. Gallai fod yn lleoliad adloniant mewn tref neu yn lleoliad gweithgaredd yn y wlad.

Canfyddwch y nodweddion ffisegol a dynol sy'n gwneud hwn yn lleoliad da i'w ddatblygu ac yna ysgrifennwch lythyr at eich Aelod Cynulliad lleol yn cefnogi datblygu eich lleoliad.

Top

Mwy o’r rhifyn yma...

Gemau Olympaidd 2012

Gemau Olympaidd 2012