14

Gemau Olympaidd 2012

undefined

Yn 2012 mae'r Gemau Olympaidd a Pharalympaidd yn dod i Lundain. Mae'r medalau uchod wedi'u gwneud yng Nghymru yn y Royal Mint yn Llantrisant a hefyd, bydd y digwyddiad cyntaf wedi dechrau, cyn y seremoni agoriadol hyd yn oed, yn stadiwm y mileniwm yng Nghaerdydd. Ond pa ddylanwad fydd y gemau Olympaidd yn ei gael ar Gymru? Fydd y pethau cadarnhaol yn fwy na'r rhai negyddol? Neu a fyddwn ni'n dioddef yng Nghymru tra bod Llundain a Lloegr ar eu hennill?

undefined

Medalau Olympaidd 2012

Y Royal Mint

Yn y 12fed ganrif, sefydlodd bathu darnau arian ei hun yn Llundain ac yn y 13eg ganrif sefydlodd ei hun yn nhŵr Llundain. 'Roedd bron iawn holl ddarnau arian yn genedl yn cael eu bathu yn y tŵr o'r 14eg garnif ymlaen. Ond, roedd y safle yn llawer rhy fychan i ddal peirianwaith stêm yn ystod y chwyldro diwydiannol ac felly bu rhaid i'r bathdy symud allan o'r tŵr yn 1810 i safle hen fynachdy ar Fryn Tŵr. Yn ogystal â gwneud darnau arian a medalau i'r DU, dechreuodd y Royal Mint ennill cytundebau i wneud darnau arian a medalau i wledydd eraill. Yn y diwedd, aeth y safle hwn yn rhy fychan hefyd! Ym 1968, agorodd y Royal Mint newydd yn Llantrisant yn Ne Cymru. Dyma'r allforwr bath mwyaf yn y bywd heddiw; mae'n cynhyrchu darnau arian i dros 60 o wledydd.

undefined

Stadiwm y Mileniwm - Caerdydd

Heddiw, caiff y gemau Olympaidd eu hystyried yn gyfle i gynyddu datblygiadau neu ailffurfio ardal. 'Roedd cynnig Llundain am y gemau yn llwyddiannus oherwydd y byddai'n trawsffurfio rhan o ddwyrain Llundain o'r enw Stratford. Mae Stratford yn y fwrdeistref Newham yn Llundain ble mae'r cyflog cyfartalog ddim ond 20% o'r hyn ydy o yn yr ardaloedd cyfagos o Kensington a Chelsea. Gyda phob gorsaf ar linell danddaearol y Jubilee o Westminster i Newham, bydd oedolyn gwrywaidd yn colli blwyddyn oddi ar ei ddisgwyliad bywyd; 7 gorsaf = 7 mlynedd. Roedd hi'n amlwg bod angen help ar Newham a Stratford.

Arferai ardal Newham fod yn ardal o ddiwydiant wedi'i chysylltu'n drwm â hen ddociau Llundain. Yn ddiweddar, defnyddiwyd y gemau Olympaidd i adfywio ardaloedd tebyg yn Sydney a Barcelona. Dylai'r prosiect Olympaidd hwn greu tua 40,000 o gartrefi newydd a chreu 50,000 o swyddi newydd gan roi help llaw i Stratford o'i sefyllfa economaidd anffodus. Mae hyn yn wych i Lundain, ond o le ddaw'r arian yma? Daw peth ohono'n anffodus o Gymru oherwydd bod arian y Loteri a Llywodraeth San Steffan yn cael ei arallgyfeirio o ardaloedd eraill yn y DU ac i mewn i'r prosiect Olympaidd.

Fe fydd rhai cyfleoedd enfawr i Gymru; gallai'r cynnydd yn y nifer o bobl sy'n dechrau cymryd rhan mewn chwaraeon oherwydd y gemau wella iechyd y genedl a lleihau costau gofal iechyd. Weithiau cyfeirir at hyn fel etifeddiaeth Olympaidd! Gallai busnesau Cymreig gymryd y cytundebau ar gyfer y gemau Olympaidd gan felly greu swyddi. Bydd rhai timau o dramor yn dewis cael eu canolfan yma yng Nghymru gan felly eu gweld nhw'n talu am lety a chyfleusterau. Gallai Cymru hefyd ennyn o dwf mewn twristiaeth. Ond, mae'r cwestiwn dal i ddisgwyl ateb…. Pa fudd gaiff Gymru o gynnal y Gemau Olympaidd yn Llundain?

  • undefinedEtifeddiaeth - mae hyn yn cyfeirio at y buddion fydd yn cael eu gadael yma ar ôl y Gemau Olympaidd.
  • Chwaraeon; mae gan Lywodraeth Cymru bolisi i gynyddu cyfranogiad i chwaraeon yn cynnwys y cynlluniau 5x60 a Gemau'r Ddraig mewn ysgolion yn ogystal â phrosiect Gemau Cymru dan arweidniad yr Urdd.
  • Diwylliannol;mae'r Olympiwr Diwylliannol neu'r 'Cultural Olympiad' wedi bod yn ddathliad diwylliannol led led y Deyrnas Unedig, pedair blynedd o hyd, 0 2008 i 2012. Yng Nghymru, mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi arwain 5 prosiect mawr dan raglen gwerth £2.85miliwn o'r enw Pŵer y Fflam, wedi'i anelu at bobl ifanc a phobl anabl.
  • Economaidd;flwyddyn cyn ddechrau'r gemau, mae dros 40 o'r 212 cytundeb Olympaidd wedi cael eu rhoi i gwmnïau Cymraeg yn cynnwys darparu'r dur ar gyfer y brif stadiwm Olympaidd a'r medalau. Mae timau mawrion fel timau paralympaidd Seland Newydd ac Awstralia wedi dewis Cymru fel eu man hyfforddi. Disgwylir dros hanner y £2biliwn gan dwristiaid ar ôl y gemau ac felly mae Cymru'n marchnata'i gorau er mwyn cael beth sy'n deilwng i ni.

 

 

 

 

 

 

 

 

undefined

Parc Olympaidd Llundain

Gweithgaredd

Beth wyt ti'n ei feddwl?

  • Bydd gemau Olympaidd 2012 yn ddathliad gwych i'r Deyrnas Unedig

  • Fe ddaw â chyfleon da am fusnesau yn y dyfodol

  • Bydd mwy o bobl yn ymgymryd â chwaraeon a fydd yn ein gwneud ni'n iachach

  • Gall Cymru farchnata ei hun ar lwyfan rhyngwladol am y tro cyntaf

  • Bydd athletwyr Cymraeg ar flaen y gad gyda thîm Prydain

  • Mae'n debygol y cewch chi haf gwych y byddwch chi'n ei fwynhau a'i gofio am byth.

Lluniwch dabl sy'n edrych ar fanteision ac anfanteision y gemau Olympaidd i Gymru. Defnyddiwch y tabl hwn i benderfynu a yw'r gemau Olympaid a Pharalympaidd 2012 yn dda neu'n ddrwg i ni yma yng Nghymru.

Top

Mwy o’r rhifyn yma...

Digwyddiadau Olympaidd

Digwyddiadau Olympaidd