Mae cael arian cyfredol eich hunain wedi bod yn nodwedd bwysig o hunaniaeth genedlaethol erioed, felly pan benderfynodd 11 o wledydd rannu system ariannol gyffredin yn 1999 mi oedd yn gam enfawr yn ei flaen at 'Unoliaeth Ewropeaidd' - hynny yw, gwneud Ewrop yn un uned fawr wleidyddol ac economaidd.
Mae Daearyddiaeth yr Ewro yn llawer iawn mwy cymhleth na'r hydd feddyliech chi!
Defnyddia'r map i weld pam!
Mae hi'n sefyllfa gymhleth, ond yn y bôn mae'r broblem yn deillio o newidiadau ym mhatrymau datblygiad ac effeithiau'r hen batrwm craidd yng ngwledydd tlawd Ewrop a'u cyffiniau a'r gwledydd cyfoethog yn y canol.
Streicio yn Ewrop
Mae Cenhedloedd fel China, India a Brasil, sy'n wledydd diwydiannol newydd, yn tyfu mor sydyn fel eu bod nhw'n tanseilio cystadleuaeth gan y gwledydd mwy economaidd ddatblygedig drwy werthu llawer mwy iddyn nhw o'i gymharu â'r hyn maen nhw'n ei brynu ganddynt.
Dydy diwydiannau'r gwledydd mwy economaidd ddatblygiedig ddim yn ennill digon o arian ac maen nhw wedi mynd i lawer o ddyled o'r herwydd. Fodd bynnag, mae'r gwledydd dal yn disgwyl safon uchel o ran byw a gwario arian, ac yn aml iawn mae'r arian hwnnw sy'n talu i gadw'r safon uchel o fyw, wedi'i fenthyca.
Yn Ewrop, mae'r gwledydd canolog 'creiddiol' - Ffrainc a'r Almaen yn enwedig, wedi llwyddo i gadw ar ben eu twf economaidd, ond dydy'r gwledydd tlotach (perifferol) sydd ar ymyl Ewrop, fel Groeg, Sbaen, Yr Eidal ac Iwerddon ddim wedi tyfu digon neu mewn dirywiad economaidd (dirwasgiad). Am y ddegawd ddiwethaf, o leiaf, mae'r gwledydd hyn wedi gwario llawer gormod ar eu costau cynnal ac wedi benthyca symiau anferth o arian gan fanciau rhyngwladol a gwledydd eraill yn yr Undeb Ewropeaidd. Mae eu poblogaeth wedi byw'n dda ar yr arian benthyg yma gan brofi buddsoddi mewn ffyrdd newydd, swyddi â chyflogau da a phensiynau da er enghraifft.
Nawr, mae diwydiannau'r gwledydd hyn yn dirywio, dydyn nhw ddim yn gallu gwneud arian i dalu am eu benthyciadau, nac ychwaith dalu'r llog arnynt. Mae hyn yn goyglu bod Groeg a'r Eidal, ym marn y farchnad arian, mewn gormod o lanast ariannol i roi benthyg yr arian sydd ei angen arnynt i osgoi rhedeg allan o arian yn llwyr.
Dydy'r gwledydd cyfoethocach a allai helpu'r gwledydd hyn ddim eisiau gwastraffu rhagor o arian ar y gwledydd ymylol hyn a ddylai fod yn gwneud mwy drostynt eu hunain i ddatrys y broblem. Mae'r difyr arweiniad da a ddangoswyd gan lywodraethau Groeg a'r Eidal ynghyd â'u hymdrech bitw i wneud toriadau yn gwneud Yr Almaen a Ffrainc yn anhapus iawn ac yn peryglu rhwygo parth yr Ewro'n ddarnau. Byddai hynny'n arwain ar argyfwng ariannol byd eang.
Argyfwng Ariannol Groeg
Bod llywodraethau newydd yn y gwledydd ymylol yn cyflwyno deddfau newydd, hynod lym o rant torriadau a fydd yn argyhoeddi'r benthycwyr arian rhyngwladol eu bod nhw'n ddiogel i roi benthyg arian iddyn nhw. Mi fydd poblogaeth y gwledydd yn anhapus iawn oherwydd bydd lefelau diweithdra yn cynyddu yn ogystal â gostyngiadau yn eu cyfoeth a'u hansawdd byw. Gallai hynny beri aflonyddwch gwladol (streiciau, protestiadau, trais) a hefyd, ni fydd pob plaid wleidyddol yn cytuno gyda'r mesuriadau llym a fydd angen eu cymryd.
Gallai allforwyr yr 21 ain ganrif fel China, Brasil a Rwsia ddefnyddio eu cynilion i'w benthyca i'r gwledydd gwan ond, byddai hynny ond yn digwydd petai gwell arweiniad gwleidyddol yno ac os bydd hi'n debygol iawn y byddai'r benthyciad yn cael ei thalu'n ôl.
Gallai gwledydd eraill yr Ewro roi benthyg yr arian, ond byddai'n rhaid i'r gwledydd ymylol ddangos eu bod nhw'n gwneud toriadau ac yn derbyn cyfrifoldeb am gynllunio ariannol hirdymor da.
Gallai sefydliad ariannol byd-eang o'r enw IMF roi benthyg yr arian, ond eto wnân nhw ddim o hynny oni bai fod y gwledydd yn dangos eu bod nhw'n ceisio rhoi trefn ar bethau. Dyma sut y byddai Prydain yn cymryd rhan oherwydd daw arian IMF oddi wrth genhedloedd o amgylch y byd, yn cynnwys y Prydain.
Gallai Groeg adael yr Ewro. Byddai hynny'n arwain at anhrefn llwyr yng Ngroeg ac yn y marchnadoedd arian rhyngwladol oherwydd bod holl fusnes Groeg wedi'i wneud gyda'r Ewro, felly byddai'n rhaid i werth yr arian newydd fod yn llai (dibrisiad). Byddai hynny'n arwain at dlodi a byddai llawer o'r dyledion yn anos fyth i'w talu'n ôl.
Creu Parth yr Ewro deublyg, gyda gwahanol 'werth Ewro'. Gallai'r gwledydd cyfoethog dyfu'n economaidd a'r rhai tlotach weithredu polisïau i arbed arian.
Nawr, gallwch weld pam ei bod hi'n broblem mor anodd. Mae hyn yn effeithio pob un ohonom ac mae hynny'n rhan o'r broblem oherwydd mae gan bob un ohonom arian ac rydym yn defnyddio arian ond os yw gwerth arian yn gostwng, mae pawb ar eu colled.
Bydd rhaid i chi gadw llygaid ar y stori hon - mae hi'n debygol o effeithio mwy arnoch na'r rhan fwyaf o newyddion daearyddol mwy diddorol!