Beth fyddai orau gennych chi? Byw yng nghefn gwlad Cymru neu mewn tref neu ddinas Gymreig?
Sut bynnag y byddwch chi'n diffinio'r ateb i'r cwestiwn yma, bydd y rhesymau yn dibynnu ar gyfuniad o'r ffactorau canlynol.
Eich cartref presennol
Ble mae eich ffrindiau a'ch teulu'n byw
Eich canfyddiad chi o'r lle arall
Eich oedran
Beth hoffech chi ei wneud fel swydd
Eich diddordebau hamdden
Pa mor gyfoethog ydych chi
Pa mor iach ydych chi
Dyluniwch holiadur sy'n gofyn y cwestiwn allweddol i 10 person :-
'Ble fyddai hi'n well gennych chi fyw, yn ardaloedd gwledig Cymru neu mewn tref/dinas Gymreig?'
Hefyd - gwnewch yn siwr eich bod chi'n casglu'r holl wybodaeth o'r rhestr uchod.
Petai'r dosbarth cyfan yn holi 10 person yr un, gallech chi fod yn chwilio am batrymau yn atebion tua 300 o bobl.
Ers blynyddoedd mae Llywodraeth Cymru a'r Undeb Ewropeaidd wedi cydnabod bod angen help llaw ar ardaloedd gwledig Cymru.
Mae Pwyllgor Datblygu Gwledig y Comisiwn Ewropeaidd wedi ffurfio cynllun o'r enw 'Cynllun Datblygu Gwledig Cymru 2007-2013'.
Mae cyfanswm y gyllideb yn £795 miliwn gyda £195miliwn ohono''n dod o Gronfa Amaeth Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig (EAFRD)