Mae lleoliad a nodweddion Cymru yn golygu y bydd hi wastad ar ymyl yr Undeb Ewropeaidd. Wrth gwrs, mae 'na rannau o Ynysoedd Prydain sy'n fwy ymylol fyth, fel Gogledd Iwerddon a Gogledd yr Alban ond, yn anffodus mae llawer o resymau pam fod Cymru ar yr ymyl.
Mae Cymru ar yr ochr orllewinol anghywir o'r DU er mwyn cael mynediad hawdd i dir mawr Ewrop.
Rhaid teithio tua 300Km ar y ffordd neu reilffordd dim ond i gyrraedd Dover a thwnnel.
Mae lleoliadau masnachu yn Lloegr fel Manceinion, Birmingham, Bryste a Llundain sydd ar y ffordd i Gymru, yn dargedau llawer haws ar gyfer economi.
Mae poblogaeth Cymru yn fychan iawn o'i gymharu â lleoliadau eraill yn yr Undeb Ewropeaidd.
Mae tirwedd brydferth Cymru yn gwneud cyfathrebu yn anos na llawer i ardal wastad, isel yn Ewrop.
Mae'r diwydiannau hanesyddol bwysig y mae Cymru'n enwog amdanynt, fel haearn, glo, ffermio a physgota wedi dirywio ac mae angen annog datblygiadau diwydiannol newydd yn hytrach na disgwyl iddo ddigwydd yn naturiol.
Beth am ddechrau gyda chwis am Fusnes yng Nghymru i weld yn union faint 'rydych chi'n ei wybod?
Mae'n rhaid i gynllunwyr economaidd ddewis lleoliadau penodol yn y gobaith y bydd ganddyn nhw'r nodweddion cywir i ddenu diwydiant newydd a sbarduno'r effaith luosol. Maen nhw wedi dechrau gyda phum lleoliad â thema ond maen nhw'n gobeithio, yn dilyn trafodaethau gydag awdurdodau lleol eraill a phartneriaid diwydiannol, creu mwy o ardaloedd menter.
Neilltuwyd £10,000,000 ar gyfer dechrau'r ardaloedd.
Y syniad tu ôl i'r fenter yw y bydd hyn yn denu mwy o ddiwydiant i Gymru, ond nid yw'r swm arian mor wych â hynny pan gaiff hi ei rhannu. Hefyd mae peryg mai dim ond symud gwnaiff y diwydiant yng Nghymru ac felly ni fydd nifer y swyddi yn newid fawr ddim. Ar ben hynny, mae Lloegr yn dechrau ardaloedd menter hefyd felly mi fydd cystadleuaeth gref rhwng y ddwy ardal. Mae Llywodraeth Cymru yn cael ei annog i orffen y cynlluniau ar gyfer yr ardaloedd menter hyn oherwydd ofnau y bydd y rhai yn Lloegr yn denu busnes o Gymru. Mae rhai o'r ardaloedd hyn yn Lloegr yn agos iawn at y ffin â Chymru yn cynnwys safleoedd ym Mryste, Birmingham a Chilgwri ger Lerpwl, cwta ddeng milltir o Gymru.
Mae'r prosiect 'Northern Gateway' ar Lannau'r Dyfrdwy yng ngogledd ddwyrain Cymru. Dyma'r cynllun - troi hen faes RAF Sir y Fflint i barc masnachol, siopa a thai mawr. Mae'r cynlluniau yn cynnwys 1,100 o dai, 50,000 troedfedd sgwâr o le siopa a chyfleusterau cymunedol a hamddenol.
Mae datblygwyr yn gobeithio y bydd hyn yn denu busnesau i fuddsoddi yn yr ardal dros yn 10 mlynedd nesaf, yn ogystal â bod yn safle mwyaf o ran cyflogi am y 15 mlynedd nesaf.