13

Cefn Gwlad Cymru

undefined

Beth fyddai orau gennych chi? Byw yng nghefn gwlad Cymru neu mewn tref neu ddinas Gymreig?

Sut bynnag y byddwch chi'n diffinio'r ateb i'r cwestiwn yma, bydd y rhesymau yn dibynnu ar gyfuniad o'r ffactorau canlynol.

  • Eich cartref presennol

  • Ble mae eich ffrindiau a'ch teulu'n byw

  • Eich canfyddiad chi o'r lle arall

  • Eich oedran

  • Beth hoffech chi ei wneud fel swydd

  • Eich diddordebau hamdden

  • Pa mor gyfoethog ydych chi

  • Pa mor iach ydych chi

RHOWCH GYNNIG AR Y GWEITHGAREDD HWN!

Dyluniwch holiadur sy'n gofyn y cwestiwn allweddol i 10 person :-

'Ble fyddai hi'n well gennych chi fyw, yn ardaloedd gwledig Cymru neu mewn tref/dinas Gymreig?'

Hefyd - gwnewch yn siwr eich bod chi'n casglu'r holl wybodaeth o'r rhestr uchod.

Petai'r dosbarth cyfan yn holi 10 person yr un, gallech chi fod yn chwilio am batrymau yn atebion tua 300 o bobl.

Flash Player Required

Get Adobe Flash player

Beth sy'n cael ei wneud dros Gymru?

Ers blynyddoedd mae Llywodraeth Cymru a'r Undeb Ewropeaidd wedi cydnabod bod angen help llaw ar ardaloedd gwledig Cymru.

Mae Pwyllgor Datblygu Gwledig y Comisiwn Ewropeaidd wedi ffurfio cynllun o'r enw 'Cynllun Datblygu Gwledig Cymru 2007-2013'.

undefined

Mae cyfanswm y gyllideb yn £795 miliwn gyda £195miliwn ohono''n dod o Gronfa Amaeth Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig (EAFRD)

Cliciwch i ddysgu mwy am rai o'r projectau:

Flash Player Required

Get Adobe Flash player

Top

Mwy o’r rhifyn yma...

Diwydiant yng Nghymru

Diwydiant yng Nghymru

Daearyddiaeth yr Ewro

Daearyddiaeth yr Ewro