13

Diwydiant yng Nghymru

undefined

Mae lleoliad a nodweddion Cymru yn golygu y bydd hi wastad ar ymyl yr Undeb Ewropeaidd. Wrth gwrs, mae 'na rannau o Ynysoedd Prydain sy'n fwy ymylol fyth, fel Gogledd Iwerddon a Gogledd yr Alban ond, yn anffodus mae llawer o resymau pam fod Cymru ar yr ymyl.

  • Mae Cymru ar yr ochr orllewinol anghywir o'r DU er mwyn cael mynediad hawdd i dir mawr Ewrop.

  • Rhaid teithio tua 300Km ar y ffordd neu reilffordd dim ond i gyrraedd Dover a thwnnel.

  • Mae lleoliadau masnachu yn Lloegr fel Manceinion, Birmingham, Bryste a Llundain sydd ar y ffordd i Gymru, yn dargedau llawer haws ar gyfer economi.

  • Mae poblogaeth Cymru yn fychan iawn o'i gymharu â lleoliadau eraill yn yr Undeb Ewropeaidd.

  • Mae tirwedd brydferth Cymru yn gwneud cyfathrebu yn anos na llawer i ardal wastad, isel yn Ewrop.

  • Mae'r diwydiannau hanesyddol bwysig y mae Cymru'n enwog amdanynt, fel haearn, glo, ffermio a physgota wedi dirywio ac mae angen annog datblygiadau diwydiannol newydd yn hytrach na disgwyl iddo ddigwydd yn naturiol.

Gallai'r holl ddaearyddiaeth yma weithio yn erbyn Cymru yn ystod economi ansefydlog. Felly, beth sy'n cael ei wneud i sicrhau twf economi yng Nghymru?

Beth am ddechrau gyda chwis am Fusnes yng Nghymru i weld yn union faint 'rydych chi'n ei wybod?

Flash Player Required

Get Adobe Flash player

Mae'n rhaid i gynllunwyr economaidd ddewis lleoliadau penodol yn y gobaith y bydd ganddyn nhw'r nodweddion cywir i ddenu diwydiant newydd a sbarduno'r effaith luosol. Maen nhw wedi dechrau gyda phum lleoliad â thema ond maen nhw'n gobeithio, yn dilyn trafodaethau gydag awdurdodau lleol eraill a phartneriaid diwydiannol, creu mwy o ardaloedd menter.

undefined

Neilltuwyd £10,000,000 ar gyfer dechrau'r ardaloedd.

Y syniad tu ôl i'r fenter yw y bydd hyn yn denu mwy o ddiwydiant i Gymru, ond nid yw'r swm arian mor wych â hynny pan gaiff hi ei rhannu. Hefyd mae peryg mai dim ond symud gwnaiff y diwydiant yng Nghymru ac felly ni fydd nifer y swyddi yn newid fawr ddim. Ar ben hynny, mae Lloegr yn dechrau ardaloedd menter hefyd felly mi fydd cystadleuaeth gref rhwng y ddwy ardal. Mae Llywodraeth Cymru yn cael ei annog i orffen y cynlluniau ar gyfer yr ardaloedd menter hyn oherwydd ofnau y bydd y rhai yn Lloegr yn denu busnes o Gymru. Mae rhai o'r ardaloedd hyn yn Lloegr yn agos iawn at y ffin â Chymru yn cynnwys safleoedd ym Mryste, Birmingham a Chilgwri ger Lerpwl, cwta ddeng milltir o Gymru.

Mae'r prosiect 'Northern Gateway' ar Lannau'r Dyfrdwy yng ngogledd ddwyrain Cymru. Dyma'r cynllun - troi hen faes RAF Sir y Fflint i barc masnachol, siopa a thai mawr. Mae'r cynlluniau yn cynnwys 1,100 o dai, 50,000 troedfedd sgwâr o le siopa a chyfleusterau cymunedol a hamddenol.

Mae datblygwyr yn gobeithio y bydd hyn yn denu busnesau i fuddsoddi yn yr ardal dros yn 10 mlynedd nesaf, yn ogystal â bod yn safle mwyaf o ran cyflogi am y 15 mlynedd nesaf.

undefined

Top

Mwy o’r rhifyn yma...

Daearyddiaeth yr Ewro

Daearyddiaeth yr Ewro