Mae Daearyddwyr yn defnyddio patrwm neu 'fodel' er mwyn disgrifio a darogan y ffordd y mae poblogaeth unrhyw wlad yn newid wrth i'r wlad ddatblygu. Maen nhw wedi'i alw'n Demographic Transition Model (neu DTM) -Bydd gan eich llyfrau gwaith rai manylion am ei 5 cam.
Enghraifft o Fodel Trawsffurfiad Demograffeg (DTM) - Pyramidau
Mae'r DU wedi cyrraedd y camau pellaf (4 a 5). Mae hynny'n darogan bod maint y wlad unai am aros yr un fath neu hyd yn oed ddechrau gostwng.
Achos y newid yma mewn poblogaeth yw bod pobl yn dewis cael teuluoedd llai, gyda dim ond un neu ddim plant. Wrth i bob cenhedlaeth dyfu, mae llai neu does dim plant i gymryd lle'r ddau oedolyn pan maen nhw'n marw. Golyga hyn bod y Gyfradd geni (nifer y genedigaethau pob blwyddyn ar sail 1000 o'r boblogaeth) yn gostwng yn is na'r Gyfradd marwolaeth (nifer y marwolaethau pob blwyddyn ar sail 1000 o'r boblogaeth).
Ond mae'n debyg fod y DU yn wahanol i wledydd eraill yng ngham 5. Mae'n edrych fel bod y DU wedi dychwelyd at boblogaeth sy'n tyfu eto.
Ym mis Mawrth 2011 cafodd cyfrifiad ccenedlaethol y DU ei gynnal a bydd daearyddwyr, y llywodraeth a chynllunwyr yn disgwyl yn eiddgar am y canlyniadau. Mae hi'n cymryd amser hir i wirio a chyhoeddi'r data.
Un o'r ffynhonellau eraill ar gyfer data yw'r Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol. Gellir mynd i fanno gyda'r ddolen yma http://www.statistics.gov.uk/hub/cymraeg
Erbyn diwedd Awst 2011 bydd gwefan newydd ar gael a fydd yn dy ganiatau di i chwilio a dod o hyd i'r wybodaeth ddiweddaraf am bob agwedd o Economi, poblogaeth, cymdeithad ac amgylchedd y DU. Dyma'r lle cyntaf y dylet ti edrych os wyt ti'n gwneud ymchwil am ddaearyddiaeth y DU.
Ar hyn o bryd, mae 'na adran ddefnyddiol a gwybodus am Gymru i'w chael ar y wefan.
Mae hi'n cynnwys:-
Demograffeg
Ethnigrwydd a Chrefydd
Yr Iaith Gymraeg
Bywyd Gweithio
Iechyd a Gofal
Gwlad Enedigol
Hunaniaeth Genedlaethol Gymreig
Pobl a anwyd yng Nghymru
'Cymry' ar Ffurflenni y Cyfrifiad
Safonau Byw