11

Newyn yn Horn Affrica

Mae'r trychineb dynol ac amgylcheddol sy'n digwydd yng ngogledd ddwyrain Affrica wedi bod yn newyddion pwysig iawn drwy gydol haf 2011. Hefyd, mae'n ganolbwynt i un apêl fawr am gymorth gan lywodraethau a phobl ledled y byd.

Mae'r newyddion a rhai mudiadau cymorth yn darparu rhai ffeithiau daearyddol am y lleoliadau, achosion a chanlyniadau'r newyn.

Sut ddealltwriaeth sydd gennych chi o beth sy'n digwydd yn y rhan dlawd yma o'r byd sydd wedi profi difrod amgylcheddol?

Mae'r adnodd hwn yn canolbwyntio ar ffeithiau daearyddol a fydd yn eich helpu chi gyda'ch dealltwriaeth o'r argyfwng dyngarol yma. Ond yn gyntaf, beth am gwis bach i brofi'ch gywybodaeth gyffredinol am Affrica?

Flash Player Required

Get Adobe Flash player

Oeddech chi'n gwybod?

Yn anffodus does dim byd newydd am y newyn presenol yn Horn Affrica. Mae cyfnod o rhyw ddeng mlynedd yn profi enghraifft o newyn difrodus. Bu un o'r rhai mwyaf eithafol yn gatalydd ar gyfer y cyngerdd enwog Live Aid ar y 13eg o Orffennaf 1985 a gafodd ei drefnu gan Bob Geldoff i godi arian ar gyfer newyn Ethiopia. Ers hynny, mae ffermio a datblygiadau am gymorth hir dymor wedi lleihau rhai o broblemau'r ardal. Fodd bynnag, mae'r boblogaeth wedi cynyddu, mae polisiau datblygu'r llywodraeth wedi bod yn rhai gwan ac mae erydiad y pridd wedi niweidio mwy o dir fferm fel bod pob cyfnod o newyn cynddrwg a'r un blaenorol.

Ond pam fod patrwm newyn mor rheolaidd?

Mae hi'n debyg bod llawer o'r bai yn gorwedd gyda'r amrywiadau mewn ynni gwres oddi mewn i'r rhan drofannol o system hinsawdd y byd. Mae'r Mor Tawel yn gorchuddio traean o'r ardal ger y cyhydedd ac er ei fod yr ochr arall i'r byd i Affrica, mae'r hyn sy'n digwydd yno yn cael effaith ar Affrica a hyd yn oed ein hinsawdd ni. Yn y blynyddoedd pan nad oedd achosion tywydd eithafol mae Gorllewin y Mor Tawel ger Awstralia yn boethach na'r Dwyrain ger De America. Mae hyn felly yn rhoi glaw i India, Awstralia ac oherwydd cylchrediad aer byd-eang, yn ardal Sahel Affrica.

Unwaith neu ddwywaith ym mhob degawd mae cildroad gwres yn digwydd mewn lle o'r enw El-Nino. Yn ystod blynyddoedd El-Nino mae dwyrain y Mor Tawel yn gynhesach na'r gorllewin ac mae hynny'n ahcosi llifogydd yn Ne America a sychder yn Awstralia, India a Gogledd Ddwyrain Affrica. Oherwydd fod pobl yn Horn Affrica mor dlawd ac yn dibynnu'n llwyr ar gnydau eu hunain am fwyd, mae'r sychdwr yn achosi newyn oherwydd bod y cnydau'n marw. Yn y ganrif ddiwethaf, 'roedd digwyddiadau El-Nino yn digwydd oddeutu unwaith bob degawd, ond yn fwy diweddar maen nhw wedi digwydd yn amlach ac yn fwy dwys o lawer. Mae hyn yn newyddion drwg iawn i bawb oherwydd ei fod yn golygu mwy o sychder, newyd ac angen am gymorth. Mae rhai gwyddonwyr wedi awgrymu bo hyn yn rhan o'r dystiolaeth sy'n dangos bod newid mewn hinsawdd yn digwydd.

 

 

Flash Player Required

Get Adobe Flash player

Flash Player Required

Get Adobe Flash player

Top

Mwy o’r rhifyn yma...

Newid poblogaeth y DU

Newid poblogaeth y DU

Ymfudo o Fecsico i UDA

Ymfudo o Fecsico i UDA