Mae'n debyg bod daearyddiaeth ffisegol yn rhan o newyddion drwg ym mhobman y dyddiau yma - daeargrynfeydd yn Seland Newydd, swnami yn Japan, helyntion eira a rhew y DU yn ystod y gaeaf, llifogydd yng ngogledd Awstralia a newid hinsawdd ym mhobman!
Tsunami Japan 2011
Prydain dan eira 2010-11
Mae daearyddiaeth ffisegol lleoedd yn gallu bod yn newyddion da iawn hefyd. Eleni mae ymdrech fawr yn cael ei gwneud i hyrwyddo Cymru a'i thirwedd fel atyniad twrist byd-eang. Mae'r diwydiant twristiaeth a hamdden yn gyflogwyr blaenllaw ac yn ffynhonell fawr o incwm a ddylid ei annog yn y caledi economaidd hyn.
Beth am edrych ar ein tirwedd yng Nghymru a gweld os allwch chi ganfod pam fod daearyddiaeth ffisegol Cymraeg yn newyddion da!