7

Ennill y rhyfel ailgylchu!

Gall rheoli gwastraff ac ailgylchu ddigwydd ar unrhyw raddfa - boed yn lleol neu'n fyd-eang. Mae'r Cynulliad Cenedlaethol a chynghorau lleol Cymru yn ein hannog ni i gyd i ddechrau ailgylchu yn y cartref.

Ddoe, dywedodd Mrs Jane Davidson, Gweinidog y Cynulliad Cenedlaethol: “Mae'r gyfradd ailgylchu yng Nghymru wedi codi'n uwch nag yn unrhyw le arall yn y DU dros y deng mlynedd diwethaf. Y rheswm pennaf am hyn yw'r gwaith amhrisiadwy mae ein hawdurdodau lleol wedi bod yn ei wneud.”

undefined

Rheoli gwastraff ac ailgylchu

Ar 2 Tachwedd 2010, rhoddodd y Cynulliad sêl bendith i darged o 70 y cant ar gyfer y gwastraff a ailgylchir yng Nghymru i'w gyrraedd erbyn 2024/25. Mae'r targed hwn yn golygu mai Cymru yw'r genedl gyntaf yn y DU i osod targed cyfreithiol i'r cynghorau lleol ar gyfer ailgylchu.

Yn ôl Jane Davidson:

undefined“Mae ailgylchu 70 y cant yn gwneud synnwyr economaidd. Mae'n golygu arbed £38 miliwn, rhagor o swyddi, trethi a dirwyon llai ar safleoedd tirlenwi a mwy o gyfleoedd i gynghorau lleol wneud arian o werthu defnyddiau gwerthfawr. Ac mae'n golygu y byddwn ni'n lleihau ein dyled amgylcheddol - ein plant a'u plant nhw fydd yn gorfod wynebu canlyniadau'r niwed rydyn ni'n ei wneud i'n planed nawr.”

Eich byd chi sydd yn y dyfodol, felly mae hi'n werth ailgylchu ac mae hi'n werth annog pobl hi'n i wneud hynny hefyd!

Cyfle gweithgaredd ystafell ddosbarth

Gwnewch restr o'r rhesymau pam yr ydych am i Gymru i gyrraedd y targed o 70%.

 

Strategaeth Cymru Ddiwastraff 2050

Faint fydd eich oed chi yn 2050? Mae'r Llywodraeth yn cynllunio ar gyfer 2050 nawr! Ym mis Mehefin (2010), lansiwyd y strategaeth “Cymru Ddiwastraff erbyn 2050”.

Mae hon yn dweud beth sydd angen i ni ei wneud er mwyn i Gymru gyrraedd y targed hwn a bod yn genedl sy'n ailgylchu erbyn 2025 ac yn genedl ddiwastraff erbyn 2050.

Rhaid i ni leihau ein gwastraff 1.5 y cant bob blwyddyn tan 2050. Rhaid i ni hefyd atal gwastraffu'r defnyddiau sy'n cael yr effaith fwyaf ar ein hôl troed ecolegol (yr effaith rydyn ni'n ei chael ar yr amgylchedd). Dyma'r defnyddiau:

  • Gwastraff bwyd

  • Papur a cherdyn

  • Pren

  • Metelau

  • Plastigion

undefined

Ailgylchu

I wneud hyn, rhaid trefnu ein sbwriel yn ddefnyddiau i'w hailgylchu ac yn ddefnyddiau na ellir eu hailgylchu.

Bydd hyn yn dda i'n dyfodol oherwydd bydd yn:

  • Creu mwy o swyddi gwyrdd ac yn cynyddu sgiliau

  • Helpu Cymru i fod yn fwy cystadleuol

  • Cael gwared ar y broblem fawr o roi gwastraff mewn safleoedd tirlenwi ar gyfradd fwyfwy uchel

  • Cefnogi ein hymdrechion i helpu i ddatblygu'n gynaliadwy a lleihau'r newid yn yr hinsawdd

Top

Mwy o’r rhifyn yma...